Y Garreg ar y clôs
18-19 Tachwedd 2010,
Theatr Y Lyric Caerfyrddin
Mae bwrlwm yn yr ysgol wrth i baratoadau ar gyfer sioe Ysgol, Tachwedd 2010 ddechrau. I ychwanegu at y cynnwrf am y tro cyntaf erioed mae’r sioe yn Theatr y Lyric, Gaerfyrddin. Enw’r sioe yw Y Garreg ar y Clôs' gan Garry Nicholas, y gerddoriaeth gan Mr Eric Jones, cyn-bennaeth yr ysgol a geiriau’r caneuon gan Dr Mererid Hopwood.
Dewch i gwrdd â disgyblion apathetig yr oes fodern sy’n gwybod dim am hanes eu tref. Dewch ar daith i’r gorffennol i weld y llwgrwobrwyo, y dadlau, y cyffro a'r ymladd ar Heol y Gwyddau.Cefndir y sioe yw Etholiad a Therfysgoedd Caerfyrddin 1831.Erthyglau y “Carmarthen Journal” a’r “Cambrian” yw sbardun y plot. Cawn gwrdd â chymeriadau lliwgar a diddorol: Lord a Lady Paxton; John Jones, Ystrad, Capten John Phillips, Cwmgwili, a’r prif gymeriad Ann sy’n syrthio mewn cariad â dyn sy’n uwch na’i statws. Pwy sy’n taflu’r garreg, at bwy a pham? Dewch i flasu’n hanes lleol trwy lygad ddoe a heddiw.
Y Garreg ar y Clôs
Wrth grwydro ar hyd coridorau’r ysgol anodd yw peidio â sylwi ar yr holl gyffro. Synau go rhyfedd sy’n dod o’r neuadd ac o’r cabanau cerdd a drama wrth i bawb gynhesu eu lleisiau a pherffeithio eu llinellau. Mae’r cloc yn tician, gyfeillion. Tair wythnos i fynd tan ein bod yn agor ein drysau ac yn eich gwahodd chi i gymryd sedd yn ein cwmni i fwynhau’r arlwy o berfformiad cyntaf Carreg Ar y Clos. Mae’r naws drydanol a’r paratoadau olaf ar waith. Wrth i’r nodau olaf gael eu tiwnio a’r symudiadau gael eu mireinio ymunwch gyda ni yn y gornel hon i glywed am ddatblygiadau ‘Y Garreg ar y Clôs’.
Cawsom gyfle i holi dau o brif gymeriadau’r sioe sef Ceirios Davies sy’n actio rhan Ann Jones a Guto Ifan sy’n chwarae rhan Morgan. Dyma sut aeth hi:
Ceirios
Guto1. Enw: Ceirios Davies
Enw cymeriad: Ann Jones
Beth yw perthynas dy gymeriad di â chymeriad Guto Ifan?
Rydyn ni’n dau yn byw yng Nghaerfyrddin yn 1831. Mae Ann yn byw gyda’i mam a’i brawd bach mewn cartref tlawd, ei thad yn y carchar am brotestio yn erbyn anghyfiawnderau.
Mae Guto ar y llaw arall yn ustus heddwch a chanddo statws uchel yn y gymuned. Mae’r ddau yn parchu ei gilydd, yn syrthio mewn cariad er gwaethaf eu gwahaniaethau.
4. Pa fath o gymeriad wyt ti?
Mae Ann yn gymeriad cryf sy’n barod i ddangos ei lliwiau. Mae hi am ddangos i bawb fod twyll yn perthyn i John Jones. Mae hi eisiau mwy o hawliau i’r tlodion yng Nghaerfyrddin. Mae hi’n ferch boliticaidd sy’n fodlon gweithredu dros ei hawliau.
5. Disgrifia dy gymeriad mewn 4 gair.
Dewr, sensitif, hyderus a theyrngar.
6. Beth yw hoff ddywediad dy gymeriad?
Yn yr olygfa ar ôl i’w Thad farw, fe ddywed “Fe wnaiff John Jones dalu am hyn.”
Disgrifia’r prif ddigwyddiad ym mywyd dy gymeriad yn ystod y sioe.
Mae hi’n galaru am ei thad, cwympo mewn cariad, gwneud ei ffrind gorau’n genfigennus a thaflu carreg, mae’n anodd dewis un digwyddiad!
Beth yw dy hoff ran yn y sioe?
Mae gymaint ohonyn nhw, ond rwyf wrth fy modd yn canu wrth gwrs ac actio golygfeydd y teulu.
A oes tebygrwydd rhyngot ti a dy gymeriad yn y sioe?
Oes, mae’r ddwy ohonom yn fodlon sefyll dros ein hawliau, mae’r ddwy yn benderfynol ac eisiau tegwch i bawb.
Beth yw’r peth gorau o fod yn rhan o’r sioe?
Cymdeithasu gyda gweddill y cast a gweithio mewn awyrgylch broffesiynol. Dyma fy sioe ysgol olaf, er mod i’n teimlo’n drist rwyf hefyd yn edrych ymlaen yn arw i berfformio ar lwyfan y Lyric.
1. Enw : Guto Ifan
2. Enw cymeriad : Morgan
3. Beth yw perthynas dy gymeriad di â chymeriad Ceirios Davies?
Wedi cwympo mewn cariad â hi, ond mewn cyfyng gyngor oherwydd ei daliadau gwleidyddol hi.
4. Pa fath o gymeriad wyt ti?
Heddychlon, eithaf tawel o gymharu â rhai cymeriadau eraill!
5. Disgrifia dy gymeriad :
Hoff o gadw heddwch
6. Beth yw hoff ddywediad dy gymeriad?
Nid trais yw’r ateb!
7. Disgrifia’r prif ddigwyddiad ym mywyd dy gymeriad yn ystod y sioe :
Cwrdd â chwympo mewn cariad ag Ann. Mae holl broblemau’r cymeriad yn dechrau fan hyn mewn ffordd.
8. Beth yw dy hoff ran yn y sioe?
Hoff iawn o’r gân ‘Hei ti!’, er nad ydw i’n cael ei chanu hi.
9. A oes tebygrwydd rhyngot ti a dy gymeriad yn y sioe?
Oes, dwi ddim yn un sy’n hoff o greu trwbl chwaith!
Beth yw’r peth gorau o fod yn rhan o’r sioe?
Dysgu ychydig mwy am hanes Caerfyrddin. Hefyd, gweithio gyda ffrindiau i greu sioe dda.
Cast y sioe Carreg ar y Clos sy’n brysur ymarfer ar gyfer ei Sioe yn y Lyric,
Tachwedd 18fed ac 19eg. Cofiwch archebu eich tocynnau yn gynnar!