CYMDEITHAS RIENI AC ATHRAWON
YSGOL GYFUN GYMRAEG BRO MYRDDIN
 

Mae’r Gymdeithas Rieni ac Athrawon yn bodoli i feithrin cyfeillgarwch ymhlith rhieni ac athrawon ac i godi arian er lles yr ysgol. Dyma ein cyfraniad i’r ysgol llynedd:-

• Prynu system sain newydd i’r neuadd
• Talu am fysiau i gludo disgyblion blwyddyn 7 i Langrannog Eleni (Medi 2010) rydym wedi trosglwyddo £1,500 i’r adran Gerdd, allan o gronfa clwb 500, oherwydd ei fod yn flaenoriaeth i’r ysgol. Prynwyd allweddellau Yamaha, bocs pŵer ar gyfer yr allweddellau, gwifrau a ffonau clust.

Ein nod eleni yw codi £5,500 i brynu taflunydd sinema a wal wen drydanol i’r neuadd i’w defnyddio ar gyfer sioeau, adloniant a gwasanaethau a fydd yn cael eu defnyddio er budd holl ddisgyblion yr ysgol. Felly, croeso cynnes i’r rhieni newydd. Hoffwn eich annog i gefnogi gwaith y gymdeithas drwy ddod i’r pwyllgorau ac i geisio mynychu’r nosweithiau a drefnir yn ystod 2010-11. 15/10/10 - Noson Caws a Gwin, yng nghwmni ‘Caws Caerfyrddin’ yng nghlwb y Cwins am 7:30y.h. £10 y tocyn.

Ar ôl hanner tymor, raffl fawr yr ysgol, wedi ei threfni yn garedig gan glwb Pêl-droed Caerfyrddin (bydd tocynnau yn cael ei rhoi i bob teulu) Ffair Nadolig yr ysgol – 25/11/10 yn neuadd yr ysgol. (Anrhegion i’r Nadolig) Bwyd a Band- Diwedd mis Ionawr (lleoliad i’w gadarnhau). Noson o hwyl a dawnsio Clwb 500 - Tal aelodaeth £12 y flwyddyn, enillwyr yn cael ei dynnu bob mis. Gwobr gyntaf £40, ail wobr £25 a thrydydd £15. Ffurflenni ar gael gan swyddogion clwb 500. Mae’r Gymdeithas Rieni ac Athrawon yma er lles ein hieuenctid ni. Mae pob ceiniog a godwyd yn ystod y flwyddyn yn cael ei wario ar ein plant eleni. Diolch am eich cefnogaeth at y gweithgareddau, ac rwy’n siŵr y gwnaiff llwyddiant ysgubol yr ysgol barhau.

Yn gywir
Mandy Walters (Cadeiryddes)

 

Noson rieni newydd
Ar nos Iau, Gorffennaf cynhaliwyd noson rieni newydd yn neuadd Ysgol Bro Myrddin. Roedd disgyblion Blwyddyn 6 wedi bod ar ymweliad yn yr ysgol trwy’r dydd ac yn geron ar y cyfan cafwyd noson o rannu gwybodaeth. Ar y nosom hefyd cyflwynwyd siec a £4,000 gan y gymdeithas rieni i’r ysgol- arain a gasglwyd gan y gymdeithas rieni ar hyd y flwyddyn. Diolch i bawb am eu cefnogaeth.

 

Mrs Mandy Walters, cadeiryddes y gymdeithas rieni yn cyflwyno siec 
o £4,000 i brifathro Ysgol Bro Myrddin.

 

CLWB 500

GWOBRAU DA BOB MIS

1. £40     2. £25    3. £15