Newyddion Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Myrddin

 


 

Ffarwelio:  Ar ddiwedd blwyddyn academaidd arall mae’r ysgol yn ffarwelio â sawl aelod o staff. Ymddeoliad hapus i Mrs Nest Rees sydd wedi bod gyda ni ers 14 mlynedd. Pob lwc i Mr Glannant Davies ar ei swydd ddysgu newydd ym Mhreseli.  Dymuniadau gorau i Miss Olwen Jones, Miss Anwen Davies a Mr Owain Edwards sy’n mynd nôl  i’r coleg i astudio. Ffarweliwn hefyd am flwyddyn a Mr Tim Hayes, cydlynydd astudiaethau’r chweched dosbarth, sy’n gadael i ddyfarnu rygbi o gwmpas y byd.

 

Ymweliad Cyngor Sir Gar

Ym mis Gorffennaf, gwahoddwyd cynrychiolwyr o Gyngor Sir Gar i roi cipolwg i ddisgyblion blwyddyn deuddeg o’r her ariannol sy’n wynebu gwahanol adrannau o’r cyngor yn yr hinsawdd ariannol bresennol. Gosodwyd cyllid a bu’n rhaid iddynt ddosbarthu’r arian i’r cyweithiau penodol. Tipyn o dasg, a diolch byth mai dychmygol oedd y cyfan. Cafwyd cyflwyniadau diddorol a gwybodus, a gweler y tîm buddugol isod:

 

Rhys Evans, Huw Jones, Clive Scoufield, Lesley Rees, Diana Lewes-Gale, Angharad Rees,
Caryl Evans, Luke Davies, Sion Page a Angharad Harding

 

Pencampwriaeth y Byd

Pob lwc  i Mrs Nerys Blue sy’n cystadlu ym Mhencampwriaeth Rafftio'r Byd. Byddwn yn edrych ymlaen yn eiddgar i glywed y canlyniadau.

 

Coleg Sir Gar

Daeth dros gant o ddisgyblion o Sir Gaerfyrddin at ei gilydd fel rhan o fenter ar y cyd i gynnig blas i bobl ifanc Sir Gaerfyrddin o yrfa mewn peirianneg ac adeiladwaith. Cafwyd diwrnod llewyrchus a llwyddiannus o wahanol weithgareddau adeiladu yn amrywio o waith brics, gwaith coed, teilo, plymio, plastro, gwaith trydanol a gyrru peiriant cloddio yng ngholeg Rhydaman.

Cafodd y fenter ei threfnu gan Goleg Sir Gâr Rhydaman, Cyngor Sir Gâr a’r CCTAL. C afodd ei chefnogi gan LBS a wnaeth ddarparu deunydd ar gyfer amryw o sesiynau. Darparodd  Parker Plant Hire balwr cloddio bychan i roi blas i ddisgyblion  o  beirianwaith ar waith.

Bu sawl un o’r ysgol yn rhan o’r diwrnod ac fe gyflwynodd Rheolwr Masnachol Coleg Sir Gâr, Paul Evans  o  gampws Rhydaman offer adeiladwaith i Dafydd Davies o flwyddyn 9 am gwblhau dewisiad eang o’r gweithgareddau i’r safon ddisgwyliedig. 

 

Cynrychioli Cymru

Pob lwc i Jac Davies o flwyddyn 9 sydd wedi cael ei ddewis i gynrychioli Cymru yn ngemau Ysgolion  D.U. yn mis Medi.

 

Llongyfarchiadau i Kelly Rogers o flwyddyn 9 am gynrychioli Cymru yn chwarae Criced yn ddiweddar.

      

Llongyfarchiadau i’r disgyblion canlynol ar eu llwyddiant ym mhencampwriaeth Ysgolion Cymru  yn Aberhonddu yn ddiweddar.

Ffion Rees (Bl 12) - pencampwraig naid hir

Rheon James (Bl 12) - pencampwr pwysau (hefyd 3ydd yn y ddisgen)

Luke Morris (BL 9) - pencampwyr 400 m