Yr Adran Ddrama
 

Mae tair athrawes yn yr Adran fyrlymus hon. Dysgir Drama i holl ddisgyblion CA 3 (Bl 7,8 a 9). Gellir dewis y pwnc fel opsiwn TGAU ym  Mlwyddyn 10 a hefyd fel opsiwn UG/U Drama ac Astudiaethau Theatr ym Mlwyddyn 12 a 13. Wrth astudio Drama caiff pob unigolyn y cyfle i ddatblygu sgiliau dramatig wrth greu, perfformio a gwerthuso. Mae'n ffordd werthfawr  hefyd i ddatblygu hunan hyder a sgiliau ieithyddol.

Rydyn ni'n credu mewn dysgu trwy fwynhad, ac fe gaiff ein disgyblion gynnig gwledd o weithgareddau allgyrsiol. Mae'r disgyblion yn cael cyfle i berfformio mewn sioeau cerdd, dramau, nosweithiau adloniannol  ac  i gystadlu  yn Eisteddfod yr Urdd. Trefnir gweithdai ac ymweliadau i'r theatr  a derbynnir ymweliadau oddi wrth gwmnïau teithiol, actorion ac arbenigwyr eraill yn y maes.

Dewch i ymuno yn yr hwyl...
 

 

Arholiadau ymarferol Blwyddyn 11



Arholiadau ymarferol Blwyddyn 12


Arholiadau ymarferol Blwyddyn 13


 

 

SIOE GERDD
YSGOL GYFUN GYMRAEG
BRO MYRDDIN, 2010
.

 Y garreg ar y clôs

Awdur y Sgript – Garry Nicholas

Geiriau’r caneuon – Mererid Hopwood

Y gerddoriaeth – Eric Jones

 
“Ag wedi elwch, tawelwch fu.” -Aneirin.

Llongyfarchiadau i gast a chriw “Y Garreg ar y Clos.” ‘Rydyn ni fel ysgol yn hynod falch o lwyddiant ysgubol ein Sioe gyffrous wreiddiol a berfformiwyd yn y Lyric fis Tachwedd. Yr awduron wrth gwrs yn ffrindiau i’r ysgol, Mr.Garry Nicholas yn gyfrifol am y sgript, ein cyn-brifathro Mr. Eric Jones yw cyfansoddwr y caneuon a Dr.Mererid Hopwood yn gyfrifol am eiriau’r caneuon.  Mae wedi bod yn bleser i ni fel ysgol cyflwyno’u gwaith eleni am y tro cyntaf yn Theatr y Lyric.

Gobeithio i chi fwynhau cwrdd â disgyblion apathetig yr oes fodern oedd gwybod dim am hanes eu tref. Fe gawsoch  daith i’r gorffennol a gweld y llwgrwobrwyo, y dadlau, y cyffro ar ymladd ar Heol y Gwyddau.

Cefndir y sioe oedd Etholiad a Therfysgoedd Caerfyrddin 1831. Erthyglau'r “Carmarthen Journal” a’r “Cambrian” oedd sbardun y plot. Cawsom gwrdd â chymeriadau lliwgar a ddiddorol, Lord a Lady Paxton, John Jones Ystrad, Capten John Phillips, Cwmgwili, a’r prif gymeriad  Ann syrthiodd mewn cariad â dyn yn uwch na’i statws.  Pwy sy’n taflu’r garreg, at bwy a pham?

Perfformiad bythgofiadwy gan griw o bobl ifanc ymroddgar a dawnus.

Lowri Rhys Davies.





 

Sioe Gerdd Ysgol Gyfun Bro Myrddin
'CINIO AM DDAU'
2008

Llongyfarchiadau i bawb fu’n ynglwm â Sioe Gerdd diweddaraf yr Adrannau Celfyddydol “Cinio am Ddau” gan Gareth Glyn a Gareth F Williams. Perfformiadau gwefreiddiol gyda 200 o ddisgyblion ar ac oddi ar y llwyfan wedi cydweithio’n effeithiol i greu Sioe o safon.  





  
 

 





 

Nôl i'r dudalen adrannol