
Hanes Sefydlu Ysgol Bro Myrddin
(gan Mr. Gareth Evans – prifathro’r ysgol rhwng 1978 ac 1997)

Sefydlu'r ysgol ym 1978
Pan agorwyd drysau Ysgol
Gyfun Bro Myrddin i ddisgyblion am y tro cyntaf ddydd Mercher, Medi 6ed 1978,
gwireddwyd breuddwyd y rhai oedd wedi ymdrechu'n ddiwyd dros addysg ddwyieithog
yn y fro ers blynyddoedd lawer. Sefydlwyd yr ysgol fel rhan o gynllun ad-drefnu
addysg uwchradd ar ffurf gyfun yn ardal Caerfyrddin. Daeth y cyfle i sefydlogi'r
ddarpariaeth yn y De-Orllewin gyda'r ad-drefnu, a manteisiwyd ar y cyfle i agor
ysgolion uwchradd dwyieithog yn Aberystwyth (Penweddig) yna Llanelli (Strade),
Caerfyrddin (Bro Myrddin), Cwm Gwendraeth (Maes-yr-yrfa), Llandysul (Dyffryn
Teifi) a Gogledd Penfro (Preselau).
Y Drefn Newydd
Penderfynwyd sefydlu tair
ysgol gyfun newydd, sef Ysgol Gyfun y Frenhines Elisabeth, Maridunum, yn adeilad
Uwchradd Ystrad Tywi, Ysgol Gyfun y Frenhines Elisabeth, Cambria yn adeilad
Ysgol Ramadeg y Merched ac Ysgol Gyfun Bro Myrddin yn adeilad Ysgol Ramadeg y
Bechgyn.
Roedd rhywfaint o ddysgu drwy'r Gymraeg yn yr ysgolion uwchradd dan yr hen
gyfundrefn, felly penderfynwyd rhoi cyfle i rieni drosglwyddo eu plant o'r
ysgolion yma i ffurfio dosbarthiadau'r ail a'r drydedd flwyddyn ym Mro Myrddin.
Oherwydd ein bod yn rhannu safle, ac felly yn brin iawn o le, nid oedd modd
estyn yr un dewis i ddisgyblion yn uwch i fyny'r ysgol. Roedd y rhain yn parhau
i ddilyn rhai cyrsiau drwy'r Gymraeg (Hanes, Daearyddiaeth ac Ysgrythur ) yn ein
hen ysgolion.
Gosodwyd yr holl wybodaeth yma ar ffurf cylchlythyr a ddosbarthwyd i rieni'r
cylch yn yr Hydref 1977. Nodwyd hefyd ar gyfer Bro Myrddin pa bynciau a fyddai
yn cael eu cynnig drwy'r Gymraeg, a pha bynciau drwy'r Saesneg ( y Gwyddorau ),
yn unol â phenderfyniad Pwyllgor Addysg Dyfed ac yn dilyn y patrwm a osodwyd
flwyddyn yn gynharach wrth sefydlu Ysgol Gyfun y Strade, Llanelli.
Trefnwyd
cyfres o gyfarfodydd i rieni yn gynnar yn 1978, er mwyn egluro'r holl newidiadau
a datblygiadau ymhellach. Rhoddwyd cyfle yn y cyfarfodydd hyn i rieni disgyblion
yn yr ysgolion uwchradd ac yn y flwyddyn olaf yn yr ysgolion cynradd i holi’r
Cyfarwyddwr Addysg, y Swyddog Addysg Rhanbarthol, yr Uwch-drefnydd Ysgolion
Uwchradd, cynrychiolwyr y Pwyllgor Addysg a phrifathrawon yr ysgolion cyfun
newydd - Miss M.M. Wooloff, Mr. E.A. Stephens a Mr Gareth H. Evans. Yn dilyn y
pum cyfarfod swyddogol a drefnwyd, penderfynwyd rhoi mwy o gyfle i rieni holi
ymhellach mewn cyfarfodydd llai ffurfiol. Erbyn mis Mawrth, roedd 11 cyfarfod
wedi eu cynnal a phob rhiant yn y cylch wedi cael cyfle i fynegi barn, ac i
drafod yr holl ddatblygiadau.
Cylchlythyrwyd y rhieni unwaith eto, gan fanylu ymhellach ynglŷn â threfniadaeth
Ysgol Bro Myrddin, a chan ofyn y tro hwn i rieni oedd yn dymuno i'w plant
fynychu'r ysgol hon lenwi a dychwelyd atodiad i'r llythyr. Cawsom wybod cyn y
Pasg y byddai 76 plentyn yn y flwyddyn gyntaf, 53 yn yr ail flwyddyn a 74 yn y
drydedd flwyddyn - 203 i gyd. Erbyn mis Medi, roedd y nifer wedi cynyddu i 213
yn dilyn dau benderfyniad gan y Pwyllgor Addysg.
* Cliciwch yma i weld cyflwyniad o luniau*
Y Flwyddyn Gyntaf 1978-79
Yn y lle cyntaf, roedd
rhieni pum plentyn a fyddai yn dechrau'r bedwaredd flwyddyn o addysg uwchradd ym
mis Medi, ac felly’n rhy hen i ddod i Fro Myrddin, wedi ennill yr hawl i gadw eu
plant yn ôl am flwyddyn, er mwyn iddynt ddod i fewn atom ni yn nosbarthiadau'r
drydedd flwyddyn. Yn yr ail le, penderfynwyd caniatáu ceisiadau oddi wrth rieni
oedd yn byw tu allan i ddalgylch swyddogol yr ysgol am lefydd i’w plant , ar yr
amod bod lle iddynt o fewn ein dosbarthiadau ni, a bod y rhieni yn derbyn y
gyfrifoldeb a'r gost o'u cludo i Gaerfyrddin. Daeth pum plentyn arall atom yn
dilyn y penderfyniad hwn. Agorodd yr ysgol felly gyda 79 yn y flwyddyn cyntaf,
54 yn yr ail flwyddyn a 80 yn y drydedd flwyddyn.
Er bod y trefniadau o ran sefydlu’r ysgol yn ymddangos yn gymhleth, maent yn
syml iawn o'u cymharu â'r trefniadau ar gyfer staffio! Roedd yr Awdurdod Addysg,
wrth sefydlu’r tair ysgol gyfun newydd, yn cau y ddwy ysgol ramadeg a'r ysgol
uwchradd. Roedd swyddi pob athro yn y tair ysgol yma yn dod i ben ar ddiwedd
Awst 1978.
Roedd yn ofynnol felly i'r holl athrawon gynnig am swyddi newydd fel pe bai'r
tair ysgol gyfun yn gweithredu'n llawn o ddosbarth un i ddosbarth chwech, a
chynhaliwyd cyfres o gyfweliadau rhwng Hydref a Rhagfyr 1977. Erbyn y Nadolig,
roedd 27 athro wedi eu penodi i Fro Myrddin. Bu'n rhaid hysbysebu dwy swydd
ychwanegol yn allanol yn y flwyddyn newydd gan nad oedd ymgeiswyr cymwys i'w
llenwi o fewn y system. Roedd yr athrawon yn deall na fyddai eu swyddi newydd ym
Mro Myrddin yn rhai llawn amser, o bosib tan 1982-83 pan fyddai yr ysgol wedi
tyfu i gynnwys ail flwyddyn y chweched dosbarth, ac yn y cyfamser byddai disgwyl
iddynt rannu eu hamser rhwng Bro Myrddin ac un arall o ysgolion cyfun y dref.
Cyfnod anodd oedd hwn, gyda'r ysgol yn rhannu adeiladau, a'r athrawon yn gwibio
o ysgol i ysgol. Ond o’r dechrau, llwyddwyd i greu uned glos a chyfeillgar gydag
ysbryd arbennig iawn ymhlith athrawon a disgyblion. Rydym yn ymhyfrydu yn y
ffaith fod dylanwad Ysgol Gyfun Bro Myrddin yr un mor amlwg yn y De-Orllewin ag
yw cyfraniad ei chwaer ysgolion yn y Gogledd a'r De Ddwyrain.
Newid safle yn 1996
Daeth
blynyddoedd o ymgyrchu i ben pan symudodd Ysgol Bro Myrddin i adeilad newydd yn
yr hydref 1996. Bellach mae gan yr ysgol uwchradd ddwyieithog hon, sydd yn
gwasanaethu dalgylch sy’n ymestyn o Landeilo yn y Dwyrain i Hwlffordd yn y
Gorllewin, adeiladau ac adnoddau gyda'r gorau yng Nghymru, wedi eu codi ar gost
of ryw £8 miliwn, ar safle 30 erw yng Nghroes-y-ceiliog ar gyrion tref
Caerfyrddin. 'Roedd y stori yn wahanol iawn pan agorodd Bro Myrddin ei drysau am
y tro cyntaf ym Medi 1978.
Roedd 213 o ddisgyblion ar gofrestr yr ysgol y flwyddyn honno. Tyfodd yr ysgol
yn gyson yn ystod yr 80au a'r 90au ond oherwydd natur yr hen adeiladau a'r
prinder lle ar y safle, nid oedd modd ehangu i ddarparu ar gyfer y galw cynyddol
am addysg Gymraeg yn yr ardal, ac o ganlyniad, bu'n rhaid chwilio am safle
newydd addas, ac am yr adnoddau cyllidol i adeiladu'r ysgol newydd. Bellach, mae
816 o ddisgyblion ar gofrestr yr ysgol, gyda 46 o athrawon a 14 o staff atodol.
Ym 1978 'roedd y disgyblion bron i gyd yn dod o gartrefi Cymraeg eu hiaith.
Erbyn heddiw, daw 35% o gartrefi di-Gymraeg. Mae'r plant yma yn derbyn rhan o'u
haddysg gynradd trwy'r Gymraeg ac erbyn cyrraedd 11 oed, mae ganddynt afael
ddigon cadarn ar yr iaith i barhau â'u haddysg trwy'r Gymraeg ym Mro Myrddin.
Yma, y Gymraeg yw iaith swyddogol yr ysgol. Dysgir Saesneg wrth gwrs, trwy
gyfrwng yr iaith honno. Mae Mathemateg a Gwyddoniaeth yn cael eu dysgu trwy'r
iaith a ddefnyddir ar gyfer y pynciau hynny yn yr ysgolion cynradd, a dysgir
popeth arall - Cymraeg, Ffrangeg, Hanes, Daearyddiaeth, Addysg Grefyddol,
Technoleg, Technoleg Gwybodaeth, Cerdd, Celf, Drama ac Addysg Gorfforol, trwy'r
Gymraeg yn unig. Erbyn gadael Bro Myrddin, mae'r disgyblion yn rhugl yn y
Gymraeg a'r Saesneg, ac yn barod i gymryd eu lle yn y byd.
Mae Bro Myrddin a'i chwaer ysgolion ledled Cymru - wedi hen ddangos, trwy gynnal
y safonau uchaf, eu bod yn llwyddo i gynnig yr addysg y mae rhieni yn ei dymuno
ar gyfer eu plant. Mae twf yr ysgolion hyn yn argoeli yn dda ar gyfer dyfodol yr
iaith yn ein gwlad.
Aduniadau
Eisoes,
bu dau aduniad o gyn ddisgyblion a staff Ysgol Bro Myrddin – un yn yr ysgol ei
hun a’r llall yng nghlwb y Quins. Dyma ychydig o hanes un o’r aduniadau hynny.
Aduniad
yr 20fed o Fedi
Cefais
amser bendigedig drwy gydol fy mlynyddoedd yn Ysgol Bro Myrddin. Bues i’n ffodus
iawn i fod yn un o’r disgyblion gwreiddiol a fu’n bresennol pan agorwyd yr ysgol
ym mis Medi 1978. Ac yn wir, braint oedd cael mynychu ysgol oedd yn fwrlwm o
frwdfrydedd ac ymrwymiad llwyr tuag at addysg drwy gyfrwng y Gymraeg.
Gan fy
mod wedi mwynhau’r cyfnod yma o fy mywyd cyn gymaint ac wedi cael budd ohono yn
addysgiadol ac yn gymdeithasol, penderfynais drefnu aduniad i ddathlu penblwydd
yr ysgol yn chwarter canrif. Y bwriad oedd gwahodd yr athrawon, staff a
disgyblion y blynyddoedd cynnar i ddod at ei gilydd i hel atgofion ac ymhyfrydu
yn yr hyn a gyflawnwyd yn ystod yr amser cyffrous a hanesyddol yma.
Felly
gyda lot fawr o frwdfrydedd, ffydd a chefnogaeth grŵp o ffrindiau a’r ddau
brifathro, sef Eric Jones, yr un presennol, a Gareth Evans, yr un gwreiddiol,
dyma fynd ati i drefnu’r noson! Bu cymaint o bobl yn hael gyda’u hamser fel yr
hwyluswyd y broses yn llwyr, ac oherwydd eu hymdrechion daeth canran uchel o
athrawon a disgyblion y blynyddoedd cynnar at ei gilydd ar 20/9/03.Braf oedd
cael cwrdd â hen ffrindiau boed athrawon neu gyfoedion, a gweld wynebau rhai nas
gwelwyd ers gadael ysgol. Roedd yn noson i’w chofio a nawr edrychaf ymlaen at
ddathliad nesaf yr ysgol yn hanner cant- er mae’n rhaid i mi ddweud nad y fi
fydd yn trefnu honno!
Liz Jones
Hanes
cyn-ddisgybl
Roeddwn yn ddisgybl ym
Mro Myrddin rhwng 1979 - 86. Wedi gadael, mi es i'r Brifysgol yn Aberystwyth i
astudio Mathemateg a Chyfrifiadureg, ac wedi hynny mi fum yn gweithio yng
Nghaerfaddon, Llundain a Rhydychen i gwmniau meddalwedd. Cyfnod wedyn ym Mharis
yn dilyn cwrs MBA, cyn dychwelyd i Gaerdydd fel Ymgynghorwr Rheolaeth. Hiraeth
am Sir Gâr. Arweiniodd hyn at geisio am swydd yng Ngholeg y Drindod, a dwi nawr
yn Gyfarwyddwr Mentergarwch yno ers 2001.
Rwy'n byw yn Nantgaredig, yn briod ag Angharad, ac mae gen i ddwy ferch - Gwenno
(7) a Sioned (6).
Roedd yr aduniad ym mis Medi yn wych, ac rydym wedi penderfynu trefnu aduniad
arall ar gyfer ein blwyddyn ni rywbryd ym mis Chwefror.Dydyn ni ddim wedi dewis
yr union ddyddiad hyd yma. Mi fyddem hefyd yn ystyried rhannu'r aduniad nesaf
gyda'r disgyblion hynny a oedd flwyddyn yn iau ni yn yr ysgol (h.y. Blwyddyn 1,
1980) gan nad oedden nhw wedi dod i'r aduniad llawn ym mis Medi.
Dafydd Gwyn Jones
1978 2003
Plât
Dathlu Chwarter Can Mlwyddiant Ysgol Bro Myrddin

Fu
grŵp o ddisgyblion Blwyddyn 10 Adran Fusnes yr ysgol, sef "Celtes Bro
Myrddin"
yn gwerthu platiau dathlu chwarter can mlwyddiantYsgol Bro Myrddin. Yn wir,
mae’r prosiect wedi ennill lle
iddynt yn rownd derfynol cystadleuaeth Mentrau Celtaidd yn yr Iwerddon ddechrau
Ebrill.

Dyma lun o ddisgyblion
Blwyddyn 3 yn dathlu 25 mlynedd ers agor Ysgol Gyfun Bro Myrddin.

Yn y llun hwn, gweler Joy
Davies, Sandra Phillips, Bethan Griffiths a Llinos Jones yn cyflwyno siec i Alun
Davies o Ambiwlans Awyr Cymru o £108.00. Casglwyd yr arian ar achlysur dathlu 25
mlynedd ers agor Ysgol Gyfun Bro Myrddin ym 1978.
Cyngerdd Dathlu Chwarter
Canmlwyddiant
Roedd
y Neuadd dan ei sang ar yr 20fed o Dachwedd, a phawb yn mwynhau’r arlwy o
weithiau corawl estynedig a gyflwynwyd i ddathlu carreg filltir bwysig yn hanes
yr ysgol sef ei chwarter can mlwyddiant. Yr artistiaid gwadd oedd Fflur Wyn ac
Eirian Davies a chyda chôr a cherddorfa oedd yn cynnwys disgyblion a chyfeillion
yr ysgol, perfformiwyd rhaglen uchelgeisiol oedd yn cynnwys Requiem Fauré ac
Atgof o’r Sêr Robat Arwyn. Gwnaed hynny gyda graen. Y cyfarwyddwr cerdd oedd Mrs
Helen Wyn, pennaeth yr Adran Gerdd a rhaid ei llongyfarch am ei gwaith diflino
yn hyfforddi’r côr a’r gerddorfa am wythnosau cyn yr
achlysur.
I’r rhai oedd yn
gysylltiedig ag Ysgol Bro Myrddin yn y dyddiau cynnar, cafwyd sioe luniau adeg y
toriad i’w hatgoffa am amryfal weithgareddau’r ysgol yn y blynyddoedd hynny.
Diolch i’r tîm technegol am eu cyfraniad yn hynny o beth.
Y farn yn ddieithriad ar
ddiwedd y noson oedd i’r cyngerdd fod yn un safonol a theilwng o’r achlysur.
Cinio Dathlu: Roedd Nos
Wener y 9fed o Orffennaf yn noson arbennig iawn yn hanes Ysgol Bro Myrddin
pan ddaeth tua chant o westeion ynghyd yng ngwesty’r Llwyn Iorwg,
Caerfyrddin i ddathlu chwarter canmlwyddiant sefydlu’r ysgol. Roedd y noson
yn uchafbwynt rhaglen o ddigwyddiadau i goffáu’r datblygiad pwysig hwn o ran
darparu addysg ddwyieithog yn y sir. Roedd hefyd yn achlysur teilwng i
lansio llyfryn sydd yn crynhoi hanes yr ysgol drwy gyfrwng gair a llun.
Paratowyd y llyfryn gan gyn-brifathro a chyn ddirprwy brifathro’r ysgol, sef
Mr Gareth H. Evans a Mr Wynne Jenkins ac ofer dweud iddynt dreulio oriau yn
ystod y flwyddyn ddiwethaf yn pori drwy’r archifau am luniau fyddai’n
adlewyrchu’r amrywiaeth eang o weithgareddau a gynigid gan yr ysgol.
Croniclwyd hefyd hanes yr ymgyrch i sefydlu’r ysgol a diddorol yw darllen y
toriadau o’r wasg oedd yn tanlinellu’r angen am adeilad addas. Diddorol
hefyd yw cyfarchion rhai o’r cyn-ddisgyblion.
Roedd y gwesteion yn
cynnwys staff presennol a chyn aelodau o staff yr ysgol, llywodraethwyr a
chyn-lywodraethwyr. Cafwyd felly anerchiadau difyr a phwrpasol gan Mr Eric
Jones, prifathro presennol yr ysgol, Mr Gareth Evans, cyn-brifathro’r ysgol a’r
Parchedig Tom Dafis, cadeirydd presennol y llywodraethwyr. Wedi lansio’r llyfr
yn swyddogol, cyflwynodd Mr Eric Jones y copïau cyntaf i aelodau o staff Bro
Myrddin a fu yno o’r dechrau, sef Mrs Meinir John, Mr Peter Ormerod, Mr Terry
Jones a Mrs Eileen Hunter (yn ei habsenoldeb).

Mr a Mrs
Eric Jones a Mr a Mrs Gareth H. Evans yn dathlu lansiad y llyfryn dathlu.

|