Cymraeg

Croeso i dudalen yr Adran Gymraeg. Er gwybodaeth i chi mae wyth athrawes bellach yn dysgu yn yr adran brysur hon. Yn ychwanegol i'r gwersi rydym yn ceisio sicrhau profiadau amrywiol i'r disgyblion. Yn flynyddol rydym yn trefnu ymweliadau, tripiau, gweithdai, cystadlaethau a siaradwyr. Rydym wedi cael llawer o lwyddiannau e.e. ni yw pencampwyr Talwrn y Beirdd Glanllyn ers dwy flynedd ac mae llawer o'n disgyblion yn cipio cadeiriau eisteddfodau ymhob cwr o'r wlad. Ni oedd pencampwyr Mastermind Cymru i ysgolion yn 2007 a 2008. Mae'n adran fyrlymus, weithgar sy'n gweithio'n ddiwyd i hybu'r iaith.
 

 

Taith Tanio Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Myrddin:  
Yn ystod tymor yr Hydref cafodd blwyddyn 12 y cyfle i fynd ar daith o amgylch
tref Caerfyrddin. Trefnwyd y teithiau dros gyfnod o dair wythnos a chafodd pob disgybl yn y flwyddyn gyfle i fynd. Tywyswyd y grwpiau o amgylch y dref gan Dr Mererid Hopwood a phwrpas y daith oedd codi ymwybyddiaeth y disgyblion o’r hyn sydd i gael yn nhref Caerfyrddin ac i hybu Cymreictod yn yr ysgol.
 

    Dechreuodd y daith gyda chyflwyniad byr yn yr ysgol am hanes yr iaith Gymraeg. Wedi hynny draw â ni i amffitheatr y dref. Yno cawsom y cyfle i edrych o amgylch yr amffitheatr ac i elwa ar wybodaeth Dr Hopwood am hanes Cymru. Wedi hyn croesi’r hewl at safle’r hen Briordy lle ysgrifennwyd Llyfr Du Caerfyrddin.
 

  Neidiodd pawb ar y bws â’n cludodd i  Eglwys Llangynnwr. Wedi cerdded i fyny’r bryn cawsom eistedd i lawr a gwerthfawrogi golygfeydd godidog o Ddyffryn Tywi. Ar ôl dysgu nifer o ffeithiau am yr ardal nôl a ni i’r bws a draw i Westy’r Llwyn Iorwg lle cawsom fisgïen, paned o de a dysgu am hanes y ffenest lliw. Wedi gorffwyso cerddodd y grŵp trwy’r dref gan ddysgu am hanes rhai o’r adeiladau o’n cwmpas. Draw wedyn i “Llwybrau” sef hen gartref Nora Isaac. I gloi’r daith aethom i amgueddfa'r dref lle cawsom ginio a chwis am yr hyn a ddysgom yn ystod y dydd.

 Roedd hi’n daith ddiddorol dros ben, a diolch i Fwrdd yr Iaith am gefnogi’r daith ac i Dr Hopwood am ein hysbrydoli.  gan Steffan Hywel Evans Bl 12
 


Catrin Dafydd yn sgwrsio gyda disgyblion blwyddyn 7


Cwis Popty gyda Frizbee


Wrth yr hen dil ym Mharc Treftadaeth Rhondda


Ymweld â'r atyniadau ym Mharc Treftadaeth Rhondda


Ogof T. Llew Jones yn Noson Agored yr ysgol


Môr Ladron


Gwerthu cynnyrch Cymreig yn Noson Agored yr ysgol


Gwerthu "Waffles" yn Noson Agored yr ysgol


Rhoi sylw i gynnyrch Masnach Deg
yn Noson Agored yr ysgol
 


Mair Harries enillydd Y Gadair Gymraeg
yn yr Eisteddfod Ysgol


Llew Hopwood enillydd Y Goron Gymraeg
yn yr Eisteddfod Ysgol


Taith y chweched i'r Preseli


Tu allan i gartref Hedd Wyn "Yr Ysgwrn"


Cynhesu wrth y tân


Wrth garreg Waldo

 

 
Cymru ar yr awyr
CRAWC
Ieithgi
GCFd (NGFL)
TGAU - BBC Bytesize
Llythrennedd

 
 

Nôl i'r dudalen adrannol