Tachwedd 2009

 

Taith i America -

Dim ond ychydig o bobl sy’n cael y cyfle i brofi bywyd yn ninasoedd mwyaf cyffroes y byd, ond dyna’r union gyfle daeth i griw o ddisgyblion yr ysgol yn ystod hanner tymor mis Hydref. Ar ôl taith awyren o saith awr a thaith fws fer cyrhaeddodd y criw'r Gwesty Harrington, yng nghanol Washington; tafliad carreg i ffwrdd o rai o adeiladau mwyaf eiconig y byd. Ar ôl rhoi blâs o brysurdeb Washington, cafwyd swper yn yr Hard Rock Cafe y noson honno, ac aeth y disgyblion i’w gwlâu wedi blino’n lân ond yn llawn cynnwrf am yr hyn oedd i ddod yn ystod yr wythnos nesaf.

Wedi codi’n fore aeth y disgyblion o amgylch y ddinas yn edrych ar adeiladau’r Llywodraeth. Esboniwyd system wleidyddol yr Unol Dalaethau wrth i’r disgyblion gael eu tywys o amgylch adeiladau’r Gyngres a’r Uchel Lys. Agorodd Amgueddfa’r Holocaust sawl llygad ymhlith y disgyblion cyn i’r criw symud ymlaen at y Tŷ Gwyn. Yn anffodus ni chafwyd cyfle i gwrdd â Obama, er fod Mr Gareth Jones yn ceisio’i orau i basio gymaint o ‘check points’ a phosib . . .  “Does this even look like a place you should be walking?” meddai llais y gwarchodwr.

Un o olygfeydd mwyaf trawiadol y daith oedd yr olygfa ym Mynwent Arlington. Gwelwyd rhai o feddau mawrion y genedl yn ogystal â phob milwr oedd wedi gwasanaethu America ers y rhyfel cartref yn 1861. Golygfa drawiadol hefyd a gafwyd wrth ymweld â chofeb Lincoln, lleoliad rhai o ddigwyddiadau mwyaf y ganrif ddiwethaf, megis yr araith “I have a dream” a rhan allweddol ym mywyd Forest Gump. Yna cafodd y criw'r cyfle i fynd i Pentagon City - marchnad siopa fwyaf y byd. Codi’n fore oedd rhaid ar y dydd Llun i fynd i Efrog Newydd ar daith o dair awr.

Cyrhaeddwyd New York am 12, ac aeth y criw yn syth i ferw Manhattan, wrth gael cinio yng nghanol Time Square. Cafwyd profiad bythgofiadwy o ben yr Empire State Building, a’r haul yn machlud i fôr yr Iwerydd. Y noson honno, profwyd awyrgylch Madison Square Gardens dan ei sang, mewn gem Hoci Iâ, un o chwaraeon pennaf America.

Er gwaetha’r glaw gwelwyd mwy o’r ddinas anhygoel y diwrnod canlynol. Fel yr arfer, gwag oedd hi o amgylch y Liberty; na, nid y stadiwm, ond y cerflun enwog. Trist oedd gweld y safle lle bu’r ddau dwr unwaith yn teyrnasu dros Manhattan, gyda “Ground Zero” yn sefyll yn drawiadol ymysg yr adeiladau enfawr.

Un peth sy’n taro dyn wrth ymweld â’r Amerig yw maint popeth; maint y wlad, maint yr adeiladau, maint botel o ‘Coke’, a maint y profiad mae rhywun yn ei gael o ymweld â hi.

Felly, ar ran y disgyblion, hoffem ddiolch i’r holl staff. 

Adroddiad gan Aled Hywel a Guto Ifan(Bl.12)

 

 

 

Nôl i'r dudalen adref