Cwtsh Myrddin
Mis Tachwedd 2008
Colofn Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Myrddin

 
 

S am sioe!

Wrth grwydro ar hyd goridorau’r ysgol anodd yw peidio â sylwi ar yr holl gyffro. Synnau go ryfedd sy’n dod o’r neuadd ac o’r cabanu Cerdd a Drama wrth i bawb gynhesu eu lleisiau a pherffeithio eu llinellau.  Mae’r cloc yn tician, gyfeillion.   Nos Fawrth 18fed o Dachwedd fe fyddwn yn agor ein drysau ac yn eich gwahodd chi gyd i gymryd sedd yn ein cwmni  i fwynhau’r arlwy.  Mae’r naws yn drydanol a’r paratoadau olaf ar waith. Wrth i’r nodau olaf gael eu tiwnio a’r symudiadau gael eu mireinio ymunwch gyda ni yn y gornel hon i glywed am ddatblygiadau “Cinio am Ddau.” 

 

Sut un yw Muriel?

Enw: Indeg Jameson

Cymeriad yn y Sioe: Muriel
 

Disgrifia dy gymeriad mewn pedwar gair:

Hoff ddywediad dy gymeriad:
“Myn yffach i”

Disgrifia’r prif ddigwyddiad ym mywyd dy gymeriad yn ystod y sioe:
Darganfod y berthynas gyfrinachol rhwng Mel a Dylan….a fydd hi’n medru cadw’r gyfrinach neu beidio??

Hoff ran o’r sioe:
Dwli ar y gân gan Dylan a’r bechgyn i gyd – “Wy ishe wejen gomon” – mae’r ddawns yn gret, methu peidio â chwerthin!

A oes unrhyw debygrwydd rhyngot ti a dy gymeriad?
Dwi wir ddim yn gobeithio ….er, dwi’n un gwael am wrando ar drafodaethau pobl eraill a chlywed pethau efallai na ddylem fod wedi clywed. Fel Muriel dwi hefyd yn gorfod gweithio ar ddydd Sul.

Y peth gorau o fod yn sioe yr ysgol yw:
Cymysgu gyda gweddill y criw a gwneud ffrindiau newydd trwy’r ysgol gyfan, cyfle nad yw’n dod yn aml iawn, a’r fraint o fod mewn cynhyrchiad sy’n mynd i fod yn wych…..dewch, bawb i wylio. 
 

Tic toc

Oes tocyn gennych chi?

Ffoniwch, cysylltwch , ymatebwch ar unwaith!  Tachwedd 18fed, 19eg a’r 20fed.   Mi fydd hi’n sioe a hanner! Fe welwn ni chi yno!


 

Nôl i'r dudalen adref