Cwtsh Myrddin
Colofn Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Myrddin
TACHWEDD 2007
I’r Ffair!
Estynnwn groeso cynnes i chi gyd i ffair Nadolig yr ysgol ar nos Iau yr ail ar hugain o Dachwedd.Noson o hwyl a sbri, yn cychwyn am 6.30 yh yn neuadd yr ysgol yng nghwmni’r athrawon, y disgyblion a’n gwestai gwadd Miss Nerys Evans. Dewch i weld stondinau Nadoligaidd y pedwar llys – Hengwrt, Hergest, Llwydiarth a Pheniarth yn llawn siocledi, nwyddau persawrus, cardiau ac addurniadau. Cewch gyfle i gael paned a chlonc ac hyd yn oed ymweld â grotto sion corn. Ymunwch â ni ym mwrlwm dathliadau Nadolig yr ysgol. Edrychwn ymlaen i’ch gweld!
Dewch yn nes!Dewch draw ymhell i Groes-y-Ceiliog a throediwch i mewn i’r ogof hon sy’n llawn trysorau. Dewch yn nes i glywed am yr ogof dywyll a môr ladron T Llew Jones, y wal ddringo, dramau a gwisgoedd Shakespearaidd a llawer mwy. Lle gwell i gael blas o’r holl brofiadau hyn?
Wel yn Noson Agored Ysgol Bro Myrddin wrth gwrs!
Nos Iau’r ddeunawfed o Hydref agorodd Ysgol Bro Myrddin ei drysau i blant a rhieni newydd. Estynnwyd croeso cynnes iddynt i weld yr ysgol ar waith. Braf oedd gweld yr ysgol o dan ei sang a phawb yn mwynhau’r amrywiaeth o weithgareddau. Wedi derbyn croeso cynnes wrth fynedfa’r ysgol a chlywed y gerddorfa yn brysur wrth eu gwaith, cafodd yr ymwelwyr eu tywys o gwmpas yr ysgol gan y Prif Swyddogion. Denwyd sylw’r bobl ifanc gan yr arddangosfa gymnasteg a’r wal ddringo newydd, a’r perfformiadau gan y chweched dosbarth. Wrth gamu i’r Ystafell Gelf, gwelwyd y plant wrthi’n frwdfrydig yn creu patrymau anarferol allan o blastig. Cynllunio a chreu crysau t Cymraeg oedd menter newydd rhai o flwyddyn 10, tra bod eraill yn gwerthu cynnyrch a nwyddau Cymreig. O’r gwisgoedd Shakespearaidd a’r goleuadau llachar cawsant eu tywys gan fôr ladron T Llew Jones i mewn i ddirgelwch yr ogof dywyll. Profiad anhygoel! Cyfle i wneud arbrofion amrywiol yn y labordai ac i grafu pen wrth wneud symiau. Digon o sgwrsio difyr a gwydraid o sangria i bawb oedd yn dymuno. Noson lwyddiannus yn wir!
O Groesyceiliog i DrawsfynyddYn ystod tymor yr Hydref aeth criw o ddisgyblion blwyddyn 10 ar daith i Drawsfynydd er mwyn ymweld â’r man lle ganed y prifardd Hedd Wyn. Wedi ambell broblem technegol gyda’r cerbydau, dechreuwyd ar y daith awr yn ddiweddarach nac y bwriadwyd. Er hyn, llawen oedd pawb wrth aros yn
eiddgar i’r bysiau gychwyn ar y daith hir i’r gogledd.
Doedd y tywydd yn amlwg ddim yn adlewyrchu hwyliau da y disgyblion, ac wrth i’r glaw dasgu ar y ddau fws mini, prysurwyd ymlaen i gyrraedd pen y daith. Ar ôl tair awr flinedig, cyrhaeddwyd harddwch pentref Trawsfynydd. Gwelwyd nifer o arteffactau diddorol yng Nghanolfan Treftadaeth Llys Ednowain megis y groes bren wreiddiol oddi ar fedd Hedd Wyn. Treuliwyd hanner awr wedyn yn crwydro’r pentref lle gwelwyd cofeb i Hedd Wyn a’r tŷ bychan lle ganwyd ef.
Arhoswyd nesaf yn yr Ysgwrn, y tŷ fferm a oedd yn gartref i Hedd Wyn. Roedd y tŷ wedi cael ei adael yn union fel yr oedd gan mlynedd yn ôl, felly teimlai’r disgyblion fel petaent yn camu yn ôl i’r gorffennol wrth gerdded i mewn i’r tŷ. Croesawyd y disgyblion gan nai Hedd Wyn, Mr Gerald Williams, a pherthynas pell iddo o’r enw Mr Evans. Dangoswyd lluniau o’r teulu, llythyron, erthyglau papur newydd a’r fedal a gafodd y teulu ar ôl marwolaeth Hedd Wyn. Yna tywyswyd y disgyblion i mewn i ystafell fechan. Ynddi arhosai chwe chadair Eisteddfodol, gan gynnwys “Y Gadair Ddu.” Adroddwyd stori drist Hedd Wyn gan ei nai; stori’r bugail llwm a orfodwyd i ymuno â’r fyddin, ei freuddwyd am ennill cadair yr eisteddfod, a sut daeth y freuddwyd yma’n wir ychydig wythnosau ar ôl iddo gael ei ladd yn ffosydd Belg. Gwrandawyd yn astud am wastraff rhyfel, a’r ffaith drist fod cenhedlaeth gyfan o ddynion y plwyf wedi eu colli yn y Rhyfel Mawr. Cafwyd sesiwn cwestiwn ac ateb, cyn gorfod cychwyn yn ôl i’r De unwaith eto. Gadawyd pentref hardd Trawsfynydd gydag atgofion gwych o’r daith fythgofiadwy yma.
Limrig y mis
Am noson anhygoel, arbennig
dewch draw atom ni am ychydig.
Fe gewch hwyl a sbri,
yn gwmni i ni,
Ymunwch yn ffair y Nadolig.