Cwtsh Myrddin
Mis Rhagfyr 2008
Colofn Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Myrddin
 

Barod am barti?

A hithau’n dymor y Nadolig, tymor y paratoadau prysur a’r dathliadau, mae hi hefyd yn gyfnod dathlu i Ysgol Bro Myrddin.  Ar Dachwedd 20fed wrth i’r llenni gau ac i’r golau bylu am y tro olaf ar ein sioe “Cinio am Ddau,” roedd hi’n amser i ni fel ysgol i dynnu’n craceri.  Parti amdani, i ddathlu sioe hynod lwyddiannus. Ymunwch yn y dathlu!


Cyn cau’r llenni! 
gan Catrin Mair Bl 10

Er bod y “cinio” wedi dod i ben, mae’r popty’n  dal yn gynnes wrth i gast a chriw y sioe “Cinio am Ddau” barhau i ddathlu.   Felly, dewch â’ch hetiau papur a’ch gwen lawen ac ymunwch yn ein  dathliadau. Dyma gyfle olaf  i osod un o wythnosau prysuraf yng nghalendr yr ysgol o dan y chwyddwydr. Wythnos o banig bywiog a brwdfrydedd egniol. Wythnos y sioe. Cefais fwynhad pur yn gwylio perfformiad o’r sioe ac felly rhannaf gyda chi yr uchafbwyntiau.

 Funudau cyn i’r llenni agor gallwn deimlo holl gyffro’r cast wrth iddynt ymbaratoi.  Wrth i’r goleuadau bylu a’r gynulleidfa gynhyrfus dawelu clywyd cerddoriaeth fywiog yn atseinio dros y neuadd. Agorwyd  y llenni a gwelwyd llond llwyfan o ddisgyblion llawen yn gwenu’n eiddgar yn eu gwisgoedd lliwgar, yn barod i gyflwyno sioe arbennig i ni. Roeddwn yn gwbl argyhoeddedig y pryd hwnnw bod hon yn mynd i fod yn sioe a hanner. Wrth wrando ar y canu swynol a’r actio pwerus ac wrth wylio’r dawnswyr dawnus yn llamu’n rhythmig ar draws y llwyfan, teimlais i raddau fy mod yn y “West End.”

Sioe glasurol gydag ongl fodern yw “Cinio am Ddau”, sy’n arddangos bywyd ieuenctid Cymru yn yr Ugeinfed ganrif. Mae Dylan Llwyd, un o’r prif gymeriadau yn fachgen sydd wedi hen alaru ar yr ysgol, ei deulu a’i athrawon. Mae’n gwrthryfela yn erbyn popeth , ac nid yw am gwrdd â disgwyliadau uchel ei rieni.

Ond daw tro ar fyd pan gyfarfu â’i hen ffrind, Melanie Ellis, y ferch drws nesaf sydd wedi bod i ffwrdd mewn ysgol fonedd am y bum mlynedd ddiwethaf. Maent yn syrthio dros eu pennau a’u clustiau mewn cariad gyda’i gilydd, ond mae’n rhaid iddynt gadw eu perthynas yn gyfrinachol. Un anhawster yw’r lanhawraig Muriel Evans, menyw fwyaf busneslyd a doniol y sioe.

 

 Er bod Melanie a Dylan yn llwyddo i oresgyn yr anawsterau gyda’i gilydd mae’r digwyddiadau ar hyd y ffordd yn rhai cyffrous ac annisgwyl wrth i Dylan wrthdaro gyda Tom, brawd Melanie a oedd yn anfodlon iawn ynglŷn â’r berthynas.

 

Yn sicr roedd y perfformiad gorffenedig yn adlewyrchu misoedd o waith caled, a’r paratoi a’r cyd-dynnu fel tîm heb os, wedi creu sioe fythgofiadwy. Profiad arbennig rwy’n siŵr i’r cast cyfan!

 

   Atgofion?

Perfformiadau unigol bendigedig yn ymgolli yn y cymeriadu.  Cydweithio’n ffantastig ar ac oddi ar y llwyfan gan griw o bobl ifanc dawnus.  Diolch i bob un ohonoch am eich ymroddiad a’ch cwmni.  Byddai’n gweld eich eisiau’n fawr. Ond bydd gen i amser cinio! 
                                           Mrs Lowri Davies (Cyfarwyddwr/Cynhyrchydd)

 Mae gweld plant sy’n anghyfarwydd â pherfformio yn magu hyder a mwynhau bod ar lwyfan, yn gwneud y cyfan yn werth chweil!  
                                            Mrs Meinir Richards (Cyfarwyddwr Cerdd)

Wedi hen ‘laru ar lanhau llanast pawb!  Wedi mwynhau’r profiad yn fawr.

                                                                        Indeg Jameson / Muriel y lanhawraig

 

Wedi mwynhau’r bwrlwm i gyd.  Profiad anhygoel, bythgofiadwy a’r colur a’r gwallt yn ffab!                                                                                                   Y merched dawnsio

 

Rydym wedi elwa o’r profiad o fod yn rhan o sioe ysgol ac yn ddiolchgar am y cyfle.

Sara a Teleri

 

 

Byddaf wirioneddol yn gweld eisiau yr hen Iorwerth!  Wedi joio!

                                                                                    Gweirydd Davies / Iorwerth Llwyd

 

 Mae wir wedi bod yn brofiad gwych i fod yn rhan o “Cinio am Ddau.”  Mae bod yn aelod o gast sioe Gymraeg fel hon a chanu ac actio drwy gyfrwng y Gymraeg yn rhoi gwefr i mi.                                                                                                            Bethany

  

Cyn ffarwelio

Wrth i ni ffarwelio â’r holl atgofion gwerthfawr dymuna’r ysgol ddiolch i bawb am eu cefnogaeth ac yn enwedig i’r hyfforddwyr am eu hamser a’u hymroddiad.  Ffarweliwn hefyd â 2008 gan ddymuno Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd Dda i chi gyd, ddarllenwyr Cwtsh Myrddin.  Ymunwch gyda ni yn 2009!

 

 

 

Nôl i'r dudalen adref