Cwtsh Myrddin
Colofn Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Myrddin
IONAWR 2008
![]()
I ddechrau ein neges eleni,
newydd gwael i blant a rhieni.
Daeth neges trwy’r post
bod Santa yn dost,
‘Di ca’l gormod i fwyta ‘da’r Cymry!
Blwyddyn Newydd Dda!
Taith newydd, cyfleoedd newydd, profiadau newydd. Dyma’r hyn sydd gan y flwyddyn 2008 ar ein cyfer. Ond ar ddechrau’r flwyddyn newydd hon rhaid oedi am ychydig gan fanteisio ar y cyfle i feddwl am y tymor a aeth heibio. Tymor y panto, y carolau a’r pwdin Nadolig. Gwledd o ddanteithion! Rhannwn felly rai o uchafbwyntiau 2007 gyda chi. Eisteddwch yn gyfforddus. Mae’r awyren ar fin glanio..... yn yr Amerig!
Profiad un disgybl yn yr Amerig!
Cafodd tua 40 o ddisgyblion Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Myrddin y profiad bythgofiadwy o fynd ar daith i America. Ar ddechrau’r wythnos hanner tymor, fe hedfanon ni fel grŵp i Washington DC. Yno, cawsom weld rhai o leoliadau ac adeiladau mwyaf adnabyddus a phwysig America. Ymysg y rhain oedd y Tŷ Gwyn, Union Station a Capitol Hill, lleoliad ar gyfer rhai o adeiladau llywodraeth yr UDA megis y senedd. Wedi i ni weld y rhain ar y bore cyntaf, cerdded i Amgueddfa’r Holocaust i glywed am yr hanes.
Yr ail ddiwrnod yn Washington cawsom y cyfle i amsugno ychydig mwy o ddiwylliant y ddinas a’r wlad. Buom yn ymweld â Mynwent Arlington, mynwent milwrol wrth gwrs. Dyma un o fynwentydd mwyaf America o ran maint ac enwogrwydd. Ymysg y rhai sydd wedi’u claddu yno y mae John F. Kennedy, cyn-arlywydd yr UDA.
Ymlaen o’r fan yma i weld cofeb i un o gyn-arlywyddion eraill America, Abraham Lincoln. Yma y lleolir cerflun enfawr ohono o fewn adeilad crand ac agored. Yma hefyd oedd lleoliad yr enwog araith ‘I Have a Dream’ gan Martin Luther-King.
Hoffwn bwysleisio mai cerdded yr oeddem i bob man yn ystod y daith. Oni bai ein bod ni gyd wedi bwyta cymaint o fyrgyrs, byddem ni wedi dychwelyd adref yn eithaf heini. Ond gydag hiwmor y ddau arweinydd, Mr Madog Jones a Mr Huw Griffiths, doedd y cerdded ddim yn faich. Braf oedd cael amser hefyd i gymdeithasu yn yr Hard Rock Cafe a’r ESPN Zone.
Amser ffarwelio â Washington, gan wneud ychydig o siopa ar y ffordd, a chyrraedd Efrog Newydd. Anhygoel oedd cael gweld y golygfeydd dros y ddinas ar y noson gyntaf, o frig yr Empire State Building, ac yna, gweld Times Square yn ei holl ogoniant gyda’r golau llachar.
Cyfle y bore canlynol i weld gwahanol ardaloedd yn Efrog Newydd gan gynnwys Greenwich Village, Soho a Chinatown, cyn dychwelyd i ganol y ddinas i gael tamaid i ginio. Mi groesom Brooklyn Bridge, un o bontydd enwog Efrog Newydd, a gwneud ychydig o siopa.
Taith ar y cwch draw i Staten Island yn y prynhawn, gan weld y Statue of Liberty ar y ffordd a golygfeydd hynod o Manhattan. Cawsom gyfle i gerdded i lawr un o strydoedd mwyaf enwog y byd, Wall Street, cyn cyrraedd Ground Zero, teimlad annifyr wrth sefyll ar gyn-leoliad y Twin Towers.
Cyfle eto y diwrnod canlynol i weld mwy o leoliadau enwog Efrog Newydd fel adeilad y Cenhedloedd Unedig a Grand Central Station, yn ogystal â Central Park. Yna, cawsom weld sut yr edrychai Efrog Newydd yn y dydd wrth fynd i ben Rockerfeller Center. Un arall o adeiladau tal Efrog Newydd yn cynnig golygfeydd anhygoel o’r ddinas. Do, mi gawsom gyfle arall i siopa, a’n gadael yn rhydd ar Fifth Avenue, un o strydoedd siopa mwyaf enwog y byd. Bu cryn dipyn o wario dwi’n meddwl!
Gan ei bod hi’n noson olaf arnom yn Efrog Newydd, rhaid oedd gorffen mewn steil. Gadawom y gwesty mewn limosîn drwy fynd trwy strydoedd y ddinas fel enwogion, cyn cyrraedd y theatr lle y gwyliom ‘Legally Blonde the Musical.’ Cafodd yr athrawon dipyn o sylw wrth i’w car yntau gyrraedd y tu allan i’r theatr, lle’r oedd cannoedd o drigolion y ddinas yn eu cyfarch gyda’u camerâu gan gredu mai grŵp pop oeddent; ond stori arall yw honno!
Do, mi ddaeth yr awr o orfod gadael yr UDA wedi taith llawn dop o brofiadau bythgofiadwy. Taith a oedd y tu hwnt i’n disgwyliadau!
Pencampwyr Popty
Ar fore Mercher diflas, ddechrau Rhagfyr teithiodd haid o blant brwydfrydig o flwyddyn 9 i stiwdio Popty yn Nghaerdydd i weld Bryn Fôn a Frizbiee yn perfformio’n fyw. Taith gymharol dawel a gafwyd i Gaerdydd, tawel ar wahân i lais aflafar Ioan Hughes yn cynhesu ei lais ar gyfer y gystadleuaeth.
Roedd y stiwdio yn llawn dop o bobl ifanc o ysgol y Strade, ysgolion Cymraeg Caerdydd ac wrth gwrs Bro Myrddin. Gwasgwyd pawb i mewn i’r stwdio swnllyd, chwyslyd yn barod i wrando ar Bryn Fôn yn canu casgliad o ganeuon bachog yn ei ddull egniol arferol.Yna ymddangosodd aelodau Frizbee yn eu gwisgoedd Sion Corn. Erbyn hyn roedd pawb yn teimlo’n Nadoligaidd ac roedd y lle yn fwrlwm i gyd.
Ond roedd cantorion ein hunain gan Fro Myrddin wrth gwrs. Daeth cyfle Ioan,Sion, Nathaniel a Gareth i serennu ar y llwyfan ac i ddangos eu talentau, wrth gydio yn y meic carioci. Bloeddiodd y gynulleidfa eu cefnogaeth wrth i’r bechgyn lwyddo i gipio’r teitl “Pencampwyr Popty.”
Roedd y daith adref i Gaerfyrddin dipyn mwy swnllyd na’r daith i Gaerdydd yn y bore, wrth i sawl disgybl arall geisio dangos eu talentau a chipio’r meic!