Cwtsh Myrddin
MEHEFIN 2009
Sied? Ond nid sied gyffredin mohoni!
Yng nghanol prysurdeb a holl ddigwyddiadau di-ri'r ysgol, anghofiwyd am ddyfodiad y Sied anferthol wrth ymyl yr ysgol. Ond nid sied gyffredin yw hon, ond gweithdy neu ‘ganolfan sgiliau’ fel y’i gelwir yn ffurfiol.
Ynddi cewch ddysgu amryw o sgiliau yn cynnwys gwaith bricio, plastro, paentio a llawer mwy. Yn ffodus iawn, cawsom y cyfle i gyfarfod a sgwrsio â’r athro adeiladwaith, Mr. Alun Davies. Yn ôl Mr. Davies, pwrpas y sied yw rhoi cyfle i’r disgyblion i arbrofi gyda chrefftau gwahanol, i weld pa un sy’n apelio atynt. Dau bwnc sy’n cael ei ddysgu yno; adeiladwaith a chelfi coed. Mae’r pwnc yn ymestyn dros ddwy flynedd, sef blwyddyn deg ac unarddeg, ac mae’n rhoi cyfle i’r bechgyn gael profiad ar waith adeiladu a welwn mewn diwydiant go iawn.
Mae’r cwrs yn galluogi’r disgyblion i gael blas o bob elfen o’r diwydiant adeiladu, ac felly yn rhoi syniad mwy pendant pa lwybr crefft maent am ddilyn. Mae’r cyfle i arbrofi ar osod pibellau neu hyd yn oed greu celfi yn rhoi cyfle profiadol iddynt, fel i bob un ohonynt ddatblygu sgiliau eang, a fydd yn eu helpu yn eu gyrfa adeiladwaith.
Efallai bod rhai ohonoch wedi sylwi ar y llethr sgrialu a adeiladwyd tu allan i’r sied. Amcan oedd hwn, i ddenu diddordeb ymhlith bechgyn blwyddyn unarddeg. Medd Mr. Alun Davies, “Oherwydd bod amser cinio’n medru bod yn hir, roedd yn gyfle i greu rhywbeth creadigol fel bod pawb yn gallu ei werthfawrogi a mwynhau yn ystod y cyfnod yma.” Mae’n debyg bod y prosiect yma wedi bod yn gyfle i’r bechgyn gydweithio, i ddatblygu eu sgiliau adeiladu ac wrth gwrs, mwynhau’r profiad o adeiladau rhywbeth personol.
Ond tybed beth mae’r bechgyn ati’n gwneud ar hyn o bryd? Ers mis Medi, mae’r bechgyn wedi bod yn ymarfer a dysgu sut mae darllen cynlluniau, gosod pegiau i ddangos safle adeilad a chreu gwahanol elfennau o’r tŷ megis gwaith fframwaith, gosod cloeon a cholfachau er enghraifft.
Fel y soniwyd yn gynharach, nid yw’r sied yn ymddangos fel un arferol, yn ôl y sôn, roedd yn anodd iawn cynllunio adeilad perffaith o fewn cyllid cyfyngedig, am fod rhaid iddi gyfateb i’r holl bynciau gwahanol a ddysgir ynddi. Er hynny, mae’r disgyblion a’r athro yn credu ei bod yn gweithio’n dda iawn, yn enwedig wrth storio deunyddiau mawr, gan bod y safle concrit tu allan wedi cael ei gwblhau yn ddiweddar.
Medd Rhys Spice, disgybl adeiladwaith, ym mlwyddyn deg: “Mae’r cwrs adeiladwaith yn gwrs diddorol iawn, am ei fod yn cynnig sawl cyfle i ni, fel disgyblion. Ar ôl treulio amser hir wrth ddesg gyda phapur a phensil, mae’n dda cael y cyfle i wneud gwaith ymarferol.”
Mae’r sied yn amlwg yn llawn syniadau gwefreiddiol sy’n gadael i feddyliau’r disgyblion i redeg ar wib.
Beth am frysio draw gyda’ch morthwyl a’ch hoelion i gael cip ar yr hyn sydd ar waith? Ond cofiwch - nid sied gyffredin mohoni!
Ffion Bevan a Catrin Anna Bl 10
Awydd i brynu CD?
“O Fortuna!”
Lansiwyd CD cyntaf Ysgol Glanaethwy “O Fortuna” yn eu cyngerdd dathlu deunaw oed yn Nghanolfan y Mileniwm. Fe ymddangosodd Ysgol Glanaethwy ar y rhaglen Last Choir Standing ar BBC a dod yn ail i ‘Only Men Aloud’ oedd yn ganlyniad gwych i gael dau gôr o Gymru yn y rownd derfynol.
Mae'r clawr yn ddeniadol iawn yn dangos llun o aelodau’r côr a’u harweinyddion yn eu dillad melyn a du ar greigiau yn y gogledd gyda’r afon Menai yn gefndir iddynt. Clawr eithaf syml ond yn effeithiol, sy’n dangos boddhad aelodau’r côr.
Mae’r CD yn addas ar gyfer bob oed a bob chwaeth cerddorol gan fod pawb yn hoff o wrando ar bobl ieuainc yn canu. Mae'n CD sy’n cynnig amrywiaeth o ganeuon i’ch ymlacio, i’ch paratoi i fynd allan neu i godi’ch ysbryd.
Y caneuon sydd ar y CD yw : O Fortuna, Circle Of Life, Dyrchefir Fi, Dwed Wrthym Pam, And All That Jazz, Dansi Na kumba,Y Clwb JazzJazz, Dal i gredu, Try A Little Tenderness, Yfory, Er Hwylio’r Haul, Cerddaf Y Strydoedd Tywyll, Adiemus, Iesu Yw.
Fy hoff gân ar y CD yw “Dyrchefir Fi” gan ei bod hi’n gân hapus ac yn rhwydd i wrando arni. Ond yn sicr mae ‘And All That Jazz’ yn eich gorfodi i godi ar eich traed a dawnsio.
Credaf fod y CD yn ardderchog ac yn dangos brwydfrydedd yr ifanc i ganu. Gallwch brynu copi yn eich Siop Gymraeg leol. Ewch nawr, mae’n werth ei gael yn eich casgliad.
Lleucu Edwards Bl 11
Estyn llaw i’r gymuned
Llongyfarchiadau mawr i Alaw Ifans o flwyddyn 12 am dderbyn Gwobr Goffa Delme Evans gan y Clwb Rotari am ei gwaith gwirfoddol yn y gymuned. Da iawn ti!