Cwtsh Myrddin

Colofn Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Myrddin
MEHEFIN 2008
 

 

Stori fuddugol Mair Harries o flwyddyn 11 sydd gennym ar eich cyfer yn y rhifyn hwn.  Mae’n werth ei darllen!  Dyma’r gwaith a enillodd y Gadair yn Eisteddfod yr ysgol eleni yn ogystal â Thlws Llenyddiaeth yr Ifanc yn Eisteddfod Maenclochog. Llongyfarchiadau i ti Mair!

Ci Tawel sy’n Cnoi

 “A dyna sut i ateb cwestiwn rhif tri. Iawn, rwyf wedi addo ffotocopїo cyn bapurau lefel A i flwyddyn tair ar ddeg, gobeithio erbyn hyn eich bod yn ddigon hen i weithio’n dawel a di-ffws heb athro, flwyddyn deg.”

Cymerodd Mr Hapus, yr athro addysg grefyddol, yr ochneidiau grwgnachlyd fel arwyddion o gytûn, a gadawodd yr ystafell wasgedig gan adael y drws yn gilagored, rhag ofn i’r twrw anghygoel roedd dosbarth deg-a yn enwog am greu aflonyddu unrhyw ddosbarthiadau eraill.

“Dim ond fy lwc i,” meddyliodd yr athro yn anobeithiol, “fyddai’n caniatau i mi gael fy rhoi gyda’r dosbarth dieflig yna am ddwy flynedd arall.”

Roedd tawelwch anghyffyrddus yn hongian fel glaw yn yr aer yn yr ystafell fechan, wrth i sŵn traed Mr Hapus atseinio’n oeraidd ar waliau noeth y coridor tu allan. Yna, wedi i ddrws y bloc gau yn glep, yn ôl yr hen arfer roedd yr ystafell yn diasbedain yn uchel wrth i glochdar cynhyrfus y disgyblion dorri ar draws y tawelwch fel taran ar noson oer. Cegau’n symud yn ddi-stop, casus pensiliau yn cael eu taflu’n chwareus o un ochr yr ystafell i’r ochr arall, a chadeiriau yn taro corneli desgiau yn swnllyd wrth i’r disgyblion mwyaf siaradus straffaglu’n bendamwnagl draw at eu ffrindiau.

“Iyffach, ma hwnna’n mynnu peidio bod fel ei enw, nagyw e? Mr Hapus myn brain i. Mr Lladdwch-fi-nawr os chi’n gofyn i fi!”

“Wel yn ffodus, sdim neb yn gofyn i ti, neu fe fydden ni i gyd â rhyw enw twp fel ti, na fydden ni Edderton?”

“Ed yw’n enw i olreit Bethan? Sai’n gwbod sawl gwaith ma’n rhaid i fi ddweud wrtho ti. A dwi’n sicr ddim yn gwbod beth wyt ti’n piffian chwerthin ambyty...Goliath!”

Pwysodd Goliath “Goth” Griffiths yn ôl yn ei gadair gan rwbio ei fysedd hir gwyn gydag ewinedd wedi eu paentio’n ddu – i fynd gyda’r lliw gwallt du, gwefus du a phensil llygaid brown tywyll (doedd dim du ar ôl yn y siop) – gyda’i gilydd yn awdurdodol.

“Dim ond meddwl oedden ni pa mor ddibwys yw eich problemau bach chi, i gymharu a holl greadigaeth yr Iôr. Efallai nad yw’r math yma o arsylwad yn berthnasol nag yn amlwg i bobl o’ch crêd chi, ond i ‘reborn Buddist’ fel fi...”

“O paid dechrau â’r rwtsh crefyddol ‘na tô. Mae’n ddigon gwael ein bod ni’n gorfod gwastraffu awr o’n bywydau ni bob wythnos yn astudio’r sbwriel ‘ma, felly paid ti a parablu mlân ambyty fe pan dyw’r athro ddim hyd yn oed ‘ma!”

“Hei Bethan, dere i weld os allwn ni wneud un o’r darnau rwber yma i lando ar ben Emyr hoyw yn y blaen.”

Trodd bachgen bach main yn y sedd flaen o gwmpas wrth glywed ei ffûg-enw.

“Do wedes i dy enw di, problem? Dylet ti fod wedi hen arfer a fe erbyn hyn. Nawr tro rownd, a paid symud neu byddai’n miso’nharged!” 

 “O, edrychwch ar y tri gŵr doeth yna tu ôl i ni yn trio tynnu sylw’r llipryn yna’n y sedd flaen. Does dim llawer o bwynt iddyn nhw ymdrechu gwneud hynna, dydy’r ffûg-enwau a’r awyrennau papur ddim yn debyg o’i boeni e nawr. Dydy pedair mlynedd ohonynt ddim wedi llwyddo eto.”

“Yn wir, dim ond gwaith ysgol sydd ar feddwl hwnna.”

“A pa mor bell mae gwaith ysgol yn debyg o’i gymryd e? Dydy pedair A ddim yn ddigon i fynd i goleg da mwyach heb weithgareddau allgyrsiol. O leiaf mae llwyddiannau’r aelwyd gennym ni.”

Roedd y ddwy ddesg ganol ar y dde yn le trafod materion pwysig eisteddfodol i’r ‘pedwar brenin a brych’, fel oeddent yn cael eu galw. Arthur, Llewelyn, Glyn-Dŵr, Caradog a ... Jermaine. Gyda’r eisteddfod gylch ond ychydig ddyddiau i ffwrdd, doedd dim amser i slafo dros hen lyfrau addysg grefyddol pan oedd materion llawer mwy difrifol ar y gweill. Fel y parti dawns i fechgyn.

“O Jermaine, dwyt ti ddim o ddifrif yn awgrymu galw’r holl beth yn ‘Parti Jermaine’ wyt ti? Wel, dyw e ddim yn hollol y peth mwyaf cymreigaidd, nagyw e?”

“Sôn am syniadau dwl, beth am Emyr yn trio am y gystadleuaeth unawd biano? Am jôc! A fe ond ar gradd pump! Mae pawb yn gwybod dy fod di, Arthur, ar gradd wyth, ac wedi ennill yn y genedlaethol blwyddyn dwethaf.”

“Ie, rwy’n falch gawsom ni’r sgwrs fach ‘na gyda fe ddydd Mawrth. Angen rhoi bach o ofn iddo fe, rhag ofn iddo drio am y gystadlaeaeth o ddifrif.”

“Yn hollol. Gwyliodd rhywun Pobl y Cwm neithiwr?”

“Emyr, er mwyn y Nefoedd rho’r gorau i fwytho dy fag ysgol wnei di? Rwy’n ystyried ei fod yn un newydd, ond mae ei fwytho fel cath yn annaturiol ac yn hollol anerbyniol am fachgen blwyddyn deg!”

“Yn hollol.”

Y seddi blaen ar y dde oedd hafan Megan ac Alis – y swots – bob gwers. Roedden nhw wedi hen orffen y gwaith, ac wedi gwneud yn siwr nad oedd darnau o’u crysau yn pwyntio allan o dan waelod eu siwmperi yn aflêr, yn wahanol i steil hipi bob trempyn arall yn y dosbarth, os nad yr ysgol. Roeddynt nawr yn barod i gael y sgwrs ddyddiol ynglŷn a gwendidau pawb arall, gan ddechrau ar Emyr.

“O, mae’r crwt ‘na’n hala rhywbeth trwyddaf i. Mae e fel ysbryd!”

“Ydi Megan. Mae rhyw wên od wedi bod ar ei wyneb e drwy’r bore, a Duw a wŷr beth sydd yn y bag enfawr ‘na sy’n rhaid cael ei fwytho mor aml.”

“Mae e’n waeth na’r bwgan brain ‘na’n y cefn, yn paentio ei wyneb fel clown. Mae bron gymaint o golur ar ei wyneb e ag sydd ar y pedair ast ‘na’n y gornel chwith!”

“Mm. Bob tro mae rheina’n plygu lawr mae rhyw ‘thong’ pinc hyll yn y golwg. Am gomon!”

“A welaist ti’r olwg ar wallt Bedwyr Evans heddiw? Mae e wedi ‘jelo’ pob gwelltyn lan i ryw sbeic chwerthinllyd ar ganol ei ben fel Tŵr Eiffel. Rhoiais i olwg iddo fe y bore ‘ma a oedd yn arwydd o’n farn i tuag at y fasiwn ddwl.”

“Diolch byth mai ni sydd wrth ddrws yr ystafell rhag ofn i ddirprwy gerdded i mewn. Rydym ni am roi argraff dda ar y dosbarth. Megan, mae dy dei di yn llithro i lawr.”

Eisteddai Emyr yn dawel ar ben ei hun yn y blaen, yn trio canolbwyntio ar ei waith wrth i holl sarhâd asidig y dosbarth gael eu taflu tuag ato. Cofiodd yn ôl at y bore hwnnw. Mam yn gwenu a choginio crempog melus ar y stôf, a dad yn cwyno ei fod wedi camddodi ei hoff ddryll hela. Un hir, du, pren, hardd. Cofiodd Emyr y tro pan wnaeth ei dad ei ddysgu i ddefnyddio’r peth ar ei helwriaeth llwynog gyntaf. Trueni ei fod yn ddryll mor fawr, nid oedd wedi ffitio mewn i’w hen fag ysgol, bron a sbwylo’r holl gynllun... Dyheau am fynd adref. O wel, byddai yno’n ddigon cloi, i ffwrdd o arsylwadau miniog y plant ffôl yma, ar ôl i’r gloch ganu. Ar ôl iddo orffen...

 "Jessica Simpson, dim oedi. Ma’i chwaer hi’n rhy denau, dim troeon menywaidd secsi.”

“Sôn am secsi, sut aeth y steil gwallt ‘na lawr gyda Megan, Bedwyr?”

“Wel, rhoddodd hi olwg i fi bore ‘ma ar ôl iddi weld e a odd yn ‘totally’ gweud: ‘Fi moyn ti.’ Nes i ddarn o farddoniaeth iddi neithiwr erbyn dydd Santes Dwynwen:

                       ‘Ti yw’r peth harddaf o dan y lloer.

                        Fel blowsen dynn ar ddiwrnod oer.’

 Bydd hi’n erfyn amdana i wedyn!”

“Ma’ Megan yn hollol wahanol i’r ast snobyddlyd ‘na ar ei phwys hi gyda pocer lan ei thîn.”

Osian, Bedwyr a Tomos sydd gyda ni fan hyn. Os ddywedaf i ‘tîm pêl droed’ a ‘rhestr hir o gyn-gariadon’ – ydy hynna’n ddigon?

BANG! Crynodd y bwrdd gwyn wrth i feiro anffodus Tomos ei daro fel ergyd wedi i’r bachgen fod yn rhythu mewn anobaith llwyr ar y cwestiynau addysg grefyddol. Ond cyn rhoi’r ffidil yn y tô yn gyfangwbl, penderfynodd Tomos gael un cynnig olaf ar yr atebion.

 “Oi, Emyr! Beth yw ateb rhif un?”

“Gwêd wrtho fe’r cythraul bach neu fe lusguth Osian ti mas o’r llyfrgell ‘na le ti’n cwato bob egwyl wrth dy draed fel tro dwethaf.”

“Sa i’n mynd mewn fanna to! Mae’n llawn llyfrau! Dif-las.”

 “Waw ma Bedwyr yn secsi gyda’i wallt fel ‘na! Ma’ fe’n edrych yn union fel yr hync ‘na ar ‘Waterloo Road!’”

“Odi, a ma’ cyhyrau enfawr ‘da fe. Cryf, clyfar - ‘he’s got the whole package!’”

“O mai God. Welsoch chi Elin bore ‘ma?”

“Do, ma ‘ddi wedi copїo dy steil gwallt di ’ n union!”

“Do! Yr ast. Ma’ hi wedi ‘streitno’ fe hefyd, fel un fi! Ma’ fe mor werthus achos ddo’ o ni fel ‘ta-ra bêbs, lyf iew.’ A heddi – hy! Ma’ rhywbeth yn bod ar bennau pobl sy’n gwneud pethe’ fel ‘na!”

Catrin, Emma, Katie a Cadi. Eto, oes angen egluro?

“Ma’ ‘lip-gloss’ pert newydd mas yn Boots heddi...”

“Emyr be ti’n ‘neud yn cau’r drws ‘na? Mae’n rostio mewn fan hyn!”

“Os ti’n dwym cer i gwato tu ôl y bag hyll ‘na ti wedi bod yn carto ambyty drwy’r dydd.”

“Mae e bron yr un maint a ti! Faint o lyfre sy’ ‘da ti i orfod cael bag maint ‘na i gario nhw i gyd?”

“Heblaw ei fod e moyn mynd adref a pob llyfr yn y llyfrgell ‘na. Wedi’r cyfan nhw yw ei unig ffrindiau e...”

“CAEWCH EICH FFLIPIN’ PENNAU!”

Wedi ychydig eiliadau o sioc, dechreuodd yr holl ddosbarth gymryd y cyfle prin ac hollol annisgwyl yma i daflu anfri pellach at Emyr.

“O, ti’n gallu siarad, te!”

 “Rwyt ti wedi bod yn sarhâd ar y dosbarth ers pedair mlynedd bellach!”

 “Rhy swil i ddweud unrhyw beth wrth unrhyw un. Beth sy’n bod arno ti?”

 “A wedyn dobo at miss bod ni i gyd yn dy fwlian di! Ti’n gofyn amdano fe’r llo! Does dim syndod bod yr athrawon wedi rhoi lan trio dy helpu di!”

 Lledodd gwên ar draws wyneb Emyr wrth iddo estyn rhywbeth o’i fag mawr.

 “A beth wyt ti’n gwenu am nawr...?”

 “O mai God Emyr! Be ti’n feddwl ti’n neud?”

 “Rwyf wedi cael digon.” Sibrydodd, wrth i un deigryn unig redeg i lawr ochr ei wyneb gan wneud i’w lais grynu. “Fedra i ddim cymryd mwy o’ch sylwadau creulon chi. Mae pedair mlynedd wedi bod yn ddigon. Yn hen ddigon. Nawr, mae’n bryd i chi ddysgu sut i fod yn dawel.”

Tynnodd Emyr farel hir, du, pren, hardd rhwng ei fysedd. Ei godi, ei anelu, ac yna...   sgrechian...  crio...  tawelwch.


Mair Harries

 

Nôl i'r dudalen adref