Mawrth 2010
Apêl Haiti
Ar y 12fed o Ionawr 2010, dinistriodd daeargryn Haiti gan adael miliynau yn ddi-gartref ac mewn angen a’r wlad yn dioddef argyfwng.
Dydd Gwener y 29ain o Ionawr cafodd disgyblion Ysgol Bro Myrddin, ddiwrnod i helpu’r achos drwy adael i pob disgybl wisgo ei gwisg ei hunain o dan arweiniad y Pwyllgor Dyngarol. Roedd pob disgybl yn talu £1 yr un ac roedd yr arian i gyd yn mynd at Apêl Haiti a drosglwyddwyd i elusen Cymorth Gristnogol. Pleser ar ddiwedd y dydd oedd clywed y cyhoeddiad fod y cyfanswm a gasglwyd yn £935.
Cyflwynwyd y siec i’r Parchedig Tom Dafis mewn gwasanaeth boreol yn yr ysgol ac fe ymhelaethodd ymhellach yn y gwasanaeth ar y ddinistr yn Haiti ac am y gwaith arbennig sy’n cael ei gyflawni gan Gymorth Cristnogol.
Adroddiad gan Alaw Ifans a Lleucu Edwards
Nofio
Llongyfarchiadau mawr i ddisgyblion o flwyddyn saith a fu’n cystadlu yn y Gala Nofio yn ddiweddar yn Llanelli
Iwan Jones 7-1, 1af nofio broga 9 medr
Scott Brook 7-1,1af dull rhydd 50 medr a 1af dull rhydd 100 medr
Gwenno Davies 7-2, 1af dull rhydd 50 medr, 1af nofio ar y cefn 50 medr â 1af nofio broga 25 medr.
Llwyddiant mewn cystadleuaeth adeiladwaith
Ar y 29ain o Ionawr, cynhaliwyd rhagbrofion cystadleuaeth adeiladwaith i ddisgyblion blwyddyn 11. Goruchwiliwyd y gystadleuaeth gan Goleg Sir Gâr yn Rhydaman a hwy hefyd a roddodd leoliad i’r dydd. Daeth 23ain o fechgyn ynghyd o bob cwr o’r Sir i gynrychioli eu hysgolion. Beirniad y dydd oedd Mr Paul Evans, Arweinydd Masnachol Coleg Sir Gâr ac yn ei gynorthwyo roedd Mr Gil Jenkins, Pennaeth Adran Adeiladwaith Coleg Sir Gâr, y ddau yn grefftwyr adnabyddus yn eu meysydd o fewn y byd adeiladwaith.
Roedd safon y gwaith yn uchel iawn ar draws y gystadleuaeth ac anodd iawn oedd dewis buddugwyr. Yn cynrychioli Bro Myrddin roedd Gethin Davies, Gethin Howells, Rhydian Walters ac Iestyn Owen. Nod y dydd oedd dewis pedwar disgybl i gynrychioli Coleg Sir Gâr (a’i ysgolion) yn y rownd ranbarthol fydd yn cael ei chynnal ar 24ain Chwefror yng Ngholeg Sir Benfro.
Cystadleuaeth siarad cyhoeddus
Cafodd grŵp siarad cyhoeddus yr ysgol gryn lwyddiant yn ddiweddar yng nghystadleuaeth siarad cyhoeddus y rotari trwy gyfwng y Gymraeg . Eu testun oedd “Dylid gwahardd y BNP fel plaid wleidyddol”. Gethin Lewis oedd y cadeirydd, y cynigydd oedd Daniel Owen a’r gwrthwynebydd oedd Steffan Hywel Evans. Llongyfarchiadau mawr i’r tri ohonynt sydd ym mlwyddyn tair ar ddeg ar areithiau aeddfed a graenus iawn mewn cystadleuaeth o safon uchel. Edrychwn ymlaen yn awr at y rownd derfynol.