Cwtsh Myrddin

Colofn Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Myrddin
 

Mawrth 2009

 

Ein hymgyrch ni!

Cyfarchion cynnes i chi ddarllenwyr Cwtsh Myrddin! Anodd credu ei bod hi’n fis Mawrth yn barod, ac mae hon yn fis go arbennig i ni’r Cymry.  Ar Fawrth y cyntaf yn flynyddol wrth gwrs yr ydym yn dathlu ein bod yn Gymry.  Ond cafwyd ymdeimlad cryf eleni ein bod am ddathlu hyn ar fwy nag un achlysur.  Aethpwyd ati felly i drafod sut fyddai gwneud hynny.  Dewch i glywed am ambell weithgaredd a daniodd ein Cymreictod ym Mro Myrddin eleni. 

Taith Tanio                            

Yn ystod tymor yr Hydref cafodd blwyddyn 12 y cyfle i fynd ar daith o amgylch tref Caerfyrddin. Trefnwyd y teithiau dros gyfnod o dair wythnos a chafodd pob disgybl yn y flwyddyn gyfle i fynd. Tywyswyd y grwpiau o amgylch y dref gan Dr Mererid Hopwood a phwrpas y daith oedd codi ymwybyddiaeth y disgyblion o’r hyn sydd i gael yn nhref Caerfyrddin ac i hybu Cymreictod yn yr ysgol.

            Dechreuodd y daith gyda chyflwyniad byr yn yr ysgol am hanes yr iaith Gymraeg. Wedi hynny draw â ni i amffitheatr y dref. Yno cawsom y cyfle i edrych o amgylch yr amffitheatr ac i elwa ar wybodaeth Dr Hopwood am hanes Cymru. Wedi hyn croesi’r hewl at safle’r hen Briordy lle ysgrifennwyd Llyfr Du Caerfyrddin.

  Neidiodd pawb ar y bws â’n cludodd i  Eglwys Llangynnwr. Wedi cerdded i fyny’r bryn cawsom eistedd i lawr a gwerthfawrogi golygfeydd godidog o Ddyffryn Tywi. Ar ôl dysgu nifer o ffeithiau am yr ardal nôl a ni i’r bws a draw i Westy’r Llwyn Iorwg lle cawsom fisgïen, paned o de a dysgu am hanes y ffenest lliw. Wedi gorffwyso cerddodd y grŵp trwy’r dref gan ddysgu am hanes rhai o’r adeiladau o’n cwmpas. Draw wedyn i “Llwybrau” sef hen gartref Nora Isaac. I gloi’r daith aethom i amgueddfa'r dref lle cawsom ginio a chwis am yr hyn a ddysgom yn ystod y dydd. Roedd hi’n daith ddiddorol dros ben, a diolch i Fwrdd yr Iaith am gefnogi’r daith ac i Dr Hopwood am ein hysbrydoli.

                                                                                Steffan Hywel Bl 12

 

Dewch i gwrdd â Jibincs – Band Ysgol Gyfun Gymraeg  Bro Myrddin

 

Aelodau:            Gweirydd Ioan –Allweddell/  Canu

                                    Dafydd Davies –Drymiau / Canu

                                    Steffan Evans – Gitar / Canu

                                    Marc Bowen - Canu

                                    Gareth Morgan – Gitar Fas
 

Gigiau Diweddar:    Ysgol Bro Myrddin - 17/12/08

                                    3 Eog, Caerfyrddin – 29/12/08
 

Hoff ganeuon :        “Methu Cysgu” a “Defed”
 

Y Dechreuad:          Ennill cystadleuaeth Grwp Pop yn eisteddfod y C.FF.I. Sir Gâr
 

Y Dyfodol:             Mwy o berfformiadau gobeithio. Gwyliwch y gwagle!

 

Ar y 17eg o Dachwedd cynhaliwyd gig gan “Jibincs” yn neuadd Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Myrddin.  Bwriad y gig oedd i gyflwyno cerddoriaeth Gymraeg i ddisgyblion blynyddoedd 7-9 mewn ymgyrch i hybu’r iaith.  Y gobaith oedd dangos bod yr iaith yn fywiog ac yn gyffrous ac yn gwbwl groes i’r ddelwedd farwaidd, henffasiwn o’r iaith sydd gan nifer o ddigyblion iau yr ysgol.  Dyma un ymdrech mewn cyfres o ddigwyddiadau yn yr ysgol yn ddiweddar i hybu cymreictod. 
Y cyntaf oedd cynnal cwis i flwyddyn saith, a dynnodd nifer helaeth o blant y fwyddyn i’r bloc Cymraeg a chael hwyl go dda ar y cwestiynau.  Dilynwyd y syniad yma gydag aelodau o Fenter Iaith y chweched yn mynychu gwersi ABCH blwyddyn saith ar fore Mercher.  Wrth gwrs nid i wneud gwaith, ond i gael y plant yn cyfathrebu â disgyblion hŷn yr ysgol yn yr iaith Gymraeg, drwy chwarae gemau, cwis, gwrando ar gerddoriaeth Gymraeg a chael sgwrs fywiog ar eu syniadaeth nhw o gyflwr yr iaith a phryd y maent hwythau yn ei defnyddio.  Fe brofodd y fenter yn llwyddiannus iawn, yn sicr fe all ddigwydd eto.  Menter arall sydd ar droed yw bod y criw Menter Iaith yn mynychu gwersi mewn ysgolion cynradd ledled y sir i gynnal rhagor o’r sesiynau yma er mwyn arwain y ffordd i’r tô ifancach. Ymlaen â’n hymgyrch felly!  Dyfal donc!

Gweirydd a Rhodri Bl 13

 

 

Nôl i'r dudalen adref