Cwtsh Myrddin

Colofn Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Myrddin

MAWRTH 2008

Gwyl Ddewi hapus!

A ninnau newydd ddathlu Gŵyl Ddewi  ar Fawrth y cyntaf  yng nghwmni’r genhinen a’r cawl, yr eisteddfodau a’r anthem, rhannwn gyda chi, ddarllenwyr Cwtsh Myrddin, yr hyn sydd wedi bod ar y gweill gyda ni fel ysgol i ddathlu  Cymreictod.  Ers mis Hydref 2007 rydym wedi bod wrthi’n brysur yn cynnau tân Cymreictod yng nghalonnau ein cyd-ddisgyblion. Er mwyn ennyn y balchder hwnnw  yn ein gwlad a’n hiaith aethom ati fel ysgol gyfan i gynllunio croglun anferth i’w roi ar fur yng nghyntedd yr ysgol.  Yn dilyn trafodaethau diri a gweithdai difyr bu criw o flwyddyn 9 yn cynllunio croglun o’u dewis hwy yn defnyddio’r slogan “Dyfodol ar Dafod!” Cynllun Lowri Roberts o flwyddyn 9 a ddaeth i’r brig.  Rhaid ei llongyfarch am greu cynllun trawiadol a chofiadwy sy’n cyflwyno  neges hynod bwysig. Heb os, mae’r croglun werth ei weld ac yn ein hatgoffa ni fel disgyblion y dylem ddathlu ein bod ni’n Gymry.

Dathlwch gyda ni!  Yn sicr, nid yw un diwrnod o ddathlu, a hynny ar Fawrth y cyntaf bob blwyddyn, yn ddigonol.  Mae’r genhinen i’w gwisgo bob dydd o’r flwyddyn, a hynny gyda balchder!

Mared Dafydd yn Galw Gari Tryfan

Nôl ym 50’au y ganrif ddiwethaf (!!) cyn dyddiau teledu, roedd radio yn bwysig fel cyfrwng adloniant. Yn 1952 ysgrifennodd Idwal Jones gyfres o ddramâu radio o’r enw “S.O.S. Galw Gari Tryfan.” Hanes ditectif o Gymro oedd yn teithio’r byd i ddatrys dirgelion o bob math. Roedd ganddo ddau i’w helpu sef  Elen ac Alec.      

 

Gari Tryfan (Richard Elfyn), fi a Ditectif Sarjant Leusa Watkins (Catherine Ayers).

  
     Ar ddydd Calan eleni darlledwyd ffilm gan gwmni Boomerang o’r enw “S.O.S. Galw Gari Tryfan” a oedd yn dod nôl â Gari Tryfan (Richard Elfyn), a thrwy beiriant amser roedd yn teithio o Fro Morgannwg 1957 i Gaerdydd 2008. Y tro hwn yn ei helpu roedd Ditectif Sarjant Leusa Watkins (Catherine Ayers) a Cai (Huw Rhys). Mae’n stori am berson sy’n ceisio byw am byth ond wrth gwrs mae llawer o bethau wedi newid. Ond mae hen gar Gari Tryfan yn dal i weithio! Gwyddoniaeth sy’n sail i’r stori ac mae’n ffilm lawn cyffro, hwyl a dirgelwch. Defnyddiwyd yr un gerddoriaeth ar ddechrau’r ffilm hon â’r gyfres radio wreiddiol.

  I ni yn ardal Caerfyrddin roedd diddordeb arbennig yn y ffilm oherwydd mai Catherine Ayers oedd un o’r prif gymeriadau, sef Ditectif Sarjant Leusa Watkins. Daw Catherine yn wreiddiol o Abergwili ac mae’n gyn ddisgybl o Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Myrddin.  Ces i’r cyfle i’w holi yn ddiweddar am ei gwaith ar y ffilm “S.O.S. Galw Gari Tryfan.”


Pa mor wahanol yw Catherine Ayers go iawn i’r cymeriad Ditectif Sarjant Leusa Watkins?

Ma Leusa yn gymeriad ‘itha caled ar y tu allan, yn wahanol iawn i fi…gobitho. Yn bendant, ma Leusa yn llawer mwy gwyddonol na fi! Dodd ‘r’un o’r pynciau gwyddonol ar dop fy rhestr i yn yr ysgol! Ond dwi’n hoffi chwarae cymeriadau sy’n wahanol iawn i fi fy hunan, gan ei fod yn fy ymestyn i fel actores, ac yn bendant dwi’n dysgu rhywbeth newydd o wneud! 

Mi rwyt ti hefyd yn actio yn y theatr, pa un sydd orau, gweithio ar ffilm neu yn y theatr?

Mi fyddai sawl actor yn synnu fy nghlywed yn dweud mai gwaith ffilm sydd yn mynd â’m mryd, gan fod calon pob actor yn y theatr o flaen cynulleidfa fyw. Ond dyna yw fy ateb gonest! Dwi yn mwynhau’r ddau yn fawr, ond dwi’n mwynhau’r holl broses o waith teledu a ffilm dipyn yn fwy. Ac wrth gwrs…ma ‘na gyfle i ail wneud pethau ar ffilm, felly mae tipyn llai o bwysau!

Am faint o amser y buest ti’n paratoi ac yn gweithio ar y ffilm?

Ni chawsom ryw lawer o amser i weithio ar “SOS Galw Gari Tryfan”. Dim ond 18 diwrnod o ffilmio a  gawsom, a hynny o dan amgylchiadau anodd - “nightshoots” oedd y rhan fwyaf o’r diwrnodau hynny…dechre am 6 o’r gloch y nos a gorffen am 7 o’r gloch y bore! Felly ni chefais ryw lawer o fywyd cymdeithasol yn ystod y cyfnod hwnnw! 

Mae dy frawd yn gweithio i’r heddlu. A wnest ti ei holi ef wrth baratoi'r cymeriad?

Ydy, mae fy mrawd, Ian yn heddwas yng Nghastell Newydd Emlyn, ond i fod yn onest, mi ddigwyddodd pob dim mor gyflym, ches i ddim llawer o amser i drafod pethe gydag e! Ond ma’n rhaid i mi gyfaddef… fy hoff ran o’r ffilm oedd cael dweud y geiriau - “Ditectif Sarjant Leusa Watkins. Arhoswch ble ych chi.” gan ddal fy “ID” yn fy llaw! Dwi ‘di ishe neud ‘na ers fy mod i’n ifanc iawn yn gwylio “The Bill” gyda Dad ar y teledu, ac mae’n rhywbeth dwi’n annog Ian i wneud fel jôc yn aml iawn - yn anffodus, mae’n gwrthod gwneud bob tro!

O ble gest ti’r ysbrydoliaeth i greu'r cymeriad?

Dwi’n ffodus iawn fy mod i’n medru trystio fy ngreddf fel actores, a dwi ddim yn un sy’n eistedd lawr a chynllunio sut dw i am greu cymeriad, nac ychwaith sut fyddaf yn llefaru’r llinellau. Dwi’n gwylio llawer o raglenni ditectif, ac mi roeddwn yn awyddus i greu cymeriad deallus a hoffus o dan yr wyneb caled. Cymeriad tebyg i Billie Piper yn Dr Who oedd yng nghefn fy meddwl ar hyd yr amser.

A oes yna obaith i weld rhagor o “S.O.S. Galw Gari Tryfan” ar ein sgriniau?

Does dim byd ar gontract eto… ond dwi’n siŵr y bydd Gari Tryfan, Cai a Leusa yn gorfod datrys dirgelwch arall cyn diwedd y flwyddyn!

 

 

Nôl i'r dudalen adref