Noson Wobrwyo:  Ar yr 30ain o Fawrth cynhaliwyd noson wobrwyo flynyddol Ysgol Bro Myrddin.  Y siaradwr gwadd oedd Mr. Peter Ormerod, cyn bennaeth cynorthwyol yr ysgol sydd bellach yn dal yn athro rhan amser Mathemateg yn yr ysgol. Diolch iddo am ei araith ddifyr a phwrpasol. Cafwyd eitemau cerddorol gan gerddorfa’r ysgol, corau iau a hŷn yr ysgol, ymgom hyn, unawd llinynnol a deuawd. Braf oedd gweld disgyblion presennol yr ysgol, cyn-ddisgyblion a’i rhieni yn bresennol.  Croesawyd pawb gan y brif ferch Lowri Evans a gwnaethpwyd y diolchiadau gan Alun Howells, y prif fachgen.  Anerchwyd y gynulleidfa hefyd gan y pennaeth Mr Dorian Williams a dosbarthwyd y gwobrwyon gan Mr. Peter Ormerod a’r Prifathro. Darparwyd lluniaeth i bawb ar ddiwedd y noson a chafwyd cyfle i gael clonc.  Noson hyfryd!

Enillwyr y Gwobrau

·         Gwobr Ysgol Bro Myrddin (Llwyddiant academaidd mewn Safon Uwch)

Ioan Davies a Gruffydd Perks

·         Gwobr Goffa Beti Hughes (Llwyddiant academaidd yn Safon Uwch a chyfraniad i fywyd diwylliannol yr ysgol)

   Lowri Elen Edwards, Siôn Hupfield a Siân Davies

·         Tlws Gareth Evans Bl.13 (Cyfraniad i fywyd diwylliannol yr ysgol) Teleri Gravell

·         Tlws Gareth Evans Bl.11/13 (Ymdrech gyson ym mlwyddyn 10 ac 11 neu 12 a 13)

Lleucu Edwards

·         Gwobr St. Peters’ Players (Cyfraniad i weithgareddau drama'r ysgol)

Elin Wyn Williams

·         Tlws Coffa Megan a Myfanwy (Gwaith creadigol o safon uchel)

Gwyn Stacy

·         Tlws Coffa Rhian Denby Jones (Ymdrech orau yn TGAU Hanes)

Alis Haf Lewis

·         Tlws yr Adran Fusnes

Iestyn Scourfeild

·         Tlws Andrew Rees (Cerddor gorau'r ysgol)

Gweirydd Davies

·         Tlws Hugh Griffiths (Ymdrech orau yn TGAU Gwyddoniaeth)

Holly Welsby

·         Tlws Margaret Morris (Perfformiad gorau yn Addysg Gorfforol gan ddisgybl a oedd ym Mlwyddyn. 13 llynedd)

Fflur Davies

·         Tlws Elin Ruth Jenkins (Perfformiad gorau mewn Pel-rhwyd)

Lowri Howells

·         Tlws Peter Hughes Griffiths (Gwasanaeth i bêl-droed o fewn yr ysgol)

Alex Evans

·         Tlws Addysg Gorfforol (Perfformiad gorau yn Addysg Gorfforol ym Mlwyddyn 10/11)

Rheon James

 

Gwaith y Pwyllgor Dyngarol: Wythnos cyn gwyliau’r Pasg, trefnwyd llu o weithgareddau gan y Pwyllgor Dyngarol, er mwyn dathlu’r Pasg a chodi arian at achos da ar yr un pryd. Bu’r bloc Mathemateg yn fwrlwm a sbri yn ystod yr oriau cinio drwy’r wythnos, wrth i ddisgyblion Bl7, 8, 9 a’r chweched dosbarth chwilota am y cardiau cudd a fyddai yn eu harwain at wy siocled. Cafwyd siop danteithion y Pasg ar gyfer disgyblion Bl10 ac 11 ar ddiwrnod olaf y tymor, a bu’r ysgol yn fôr o liwiau yn ystod y diwrnod gwisg anffurfiol. Bu’r gweithgareddau yn llwyddiant ysgubol, a llwyddwyd i godi swm sylweddol o arian ar gyfer elusennau amrywiol. Diolch yn fawr iawn i holl aelodau’r chweched a fu’n cynorthwyo wrth drefnu’r gweithgareddau, ac i bob disgybl a fu’n cymryd rhan am eu cefnogaeth. Adroddiad gan Llinos Davies a Fflur Rhys blwyddyn 12

 

Canlyniadau Eisteddfod Sir 2010

Eisteddfota: Nos Lun 15fed o Fawrth a Dydd Gwener 19eg o Fawrth bu disgyblion yr ysgol yn cystadlu yn yr eisteddfodau Sir.  Dyma’r canlyniadau: Grŵp Dawnsio Disgo Bl 10-13: 1af; Dawns Ddisgo Unigol Bl 7-9: 1af Ffion Rebecca Evans; Dawns Werin Bl 7-9: 1af; Dawns Werin Bl 10-13: 2il; Dawns Werin Unigol i Ferched 15-25 oed: 2il Alaw Ifans; Dawns Werin Unigol i Fechgyn Bl 9 ac iau: 1af Llŷr Davies; Dawns Stepio i 2,3, neu 4: 2il Gareth, Carwyn a Tomos; Cerddorfa: 1af; Unawd Llinynnol Bl 7-9: 1af Catherine Rees; Unawd Chwythbrennau Bl 7-9: Niamh Elain; Ensemble Bl 7-9: 1af; Unawd Piano Bl 7-9: 2il Angharad Thomas; Unawd Chwythbrennau Bl 10-13: 1af Catrin Price; Unawd Pres Bl 10-13: 1af Thomas Scaiffe; Unawd Llinynnol Bl 10-13: 1af Claire Roberts; Unawd Piano Bl 10-13: 1af Manon James; Deuawd Offerynnol : 1af Catrin Price a Llywelyn Edwards; Unawd Merched Bl 7-9: 1af Elan Richards; Unawd Cerdd Dant Bl 7-9: 2il Sûan John; Grŵp Llefaru Iau : 1af; Grŵp Llefaru Hŷn: 2il; Parti Merched Iau: 1af; Llefaru Unigol Bl 7-9: 1af Enlli Lewis; Parti Cerdd Dant Bl 7-9: 1af; Deuawd Cerdd Dant Bl 7-9: Gwenan a Siwan; Unawd Alaw Werin Bl 7-9: 2il Enlli Lewis; Côr Iau: 1af; Deuawd Iau: 1af Elan ag Enlli; Côr Merched Hŷn:1af; Ymgom Bl 10-13 : Bro Myrddin; Unawd Cerdd Dant Bl 10-13: 1af Sioned Mair; Cyflwyniad Dramatig Bl 10-13: 1af; Llefaru Unigol Bl 10-13: 1af Saran Richards; Unawd Merched Bl 10-13 : 1af Llinos Emanuel; Côr Bechgyn Hŷn: 1af; Alaw Werin Bl 10-13: 1af Llinos Emanuel; Monolog Bl 10-13: Sioned Elin Davies; Unawd Bechgyn Bl 10-13: 1af Gethin Lewis; Côr Hŷn: 1af; Ensemble Lleisiol Hŷn: 1af; Parti Bechgyn Iau: 1af; Deuawd Hŷn: 1af Gethin a Ceirios; Unawd Sioe Gerdd Bl 10-13: 1af Gethin Lewis.

 

  

 

Nôl i'r dudalen adref