Cwtsh Myrddin

Colofn Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Myrddin
MAI 2008
 


Cydiwch yn eich sombreros a’ch gwydraid o sangria.  Awn â chi i brofi prydferthwch a diwylliant Salamanca yn Sbaen… cyn teithio yn ôl i gefn gwlad Cymru.  
 

 Hola! ¿Que tal?

Dros yr hanner tymor, tra bod pawb yn cael toriad o holl fwrlwm yr ysgol, roedd rhai ohonom yn gweithio’n frwd dros y môr yn Salamanca, Sbaen.  Gadawsom dref Caerfyrddin fore Sul gan hedfan yn y prynhawn o faes awyr Bryste.  Cyraeddasom ddiwedd ein taith hwyr nos Sul gan ddadbacio yn y gwesty moethus a mynd am dro i’r Sgwâr anferth ynghanol y dref.  Ar noswaith gynnes braf doedd dim lle gwell, gyda harddwch crefftwaith yr adeiladau a’r cerrig gwynion yn gampwaith anhygoel.

Fore Llun, codi’n gynnar er mwyn mynd i weld yr ysgol y byddwn yn mynychu’n foreol trwy’r wythnos.  Ysgol weddol fodern oedd hi, heb Saesneg na Chymraeg yn cael ei ddefnyddio yn y gwersi a olygai amser digon rhwystredig yn ymarfer ein Sbaeneg syml.  Wedi’r wers fe wnaeth Severino (prifathro’r ysgol) ein tywys ni ar daith arbennig o amgylch y dref.  Dechreuasom yn y sgwâr a cherdded i’r Eglwys Gadeiriol a dyrrau dros y ddinas.  Anferthol a chywrain oedd y geiriau i ddisgrifio’r adeilad, gyda’r tu fewn yr un mor brydferth.  Ymlaen ar ein siwrnai i ymweld â Phrifysgol y ddinas gan gael eglurhad gan Severino am bob dosbarth yn ei dro.  Poenus byddai penolau unrhyw ddisgybl wedi eistedd ar y stolau hynod anghyffyrddus yno!  Ond cyn diweddu’r daith rhaid oedd chwilio am froga, ie, broga bychan a oedd wedi ei guddio ar addurn wal allanol yr adeilad.  Y sôn oedd bod lwc dda yn dod i’r sawl a ddarganfyddai’r broga’n gyntaf.  Wedi cythrwfl rhwystredig yr helfa drysor roedd yn bryd diweddu’r dydd â swper blasus yn un o’r siopau lleol.  Ond nid heb un trip arall i’r sgwâr lle y rhoesom berfformiad o ‘Dawel Nos’ i’r holl breswylwyr oedd o fewn clyw.  Un daith gyflym o amgylch, cyn dychwelyd i’n gwelyau am noswaith haeddiannol o gwsg.

Ddydd Mawrth aethom ar daith i Valladolid, sef prifddinas yr ardal a heb air o gelwydd roedd e’n anferth.  Yno eto fe welsom Eglwys Gadeiriol a phrifysgol gywrain arall.  Ond y peth gorau efallai oedd cael te a choffi yn un o fariau rygbi enwocaf Sbaen.  Wedi dychwelyd, unwaith eto roedd bwyd yn ein haros mewn bwyty arbennig ynghanol y dref, cyn i ni  droi tua thre.

Roedd tro bach annisgwyl yn ein gwersi ddydd Mercher : roedd rhaid i ni ganu cân am Tapas, doniolwch llwyr!  Roedd y daith unigryw heddiw i fyny yn nhŵr yr Eglwys Gadeiriol, a oedd yn dipyn o her i’w gyrraedd.  Roedd cyrraedd ei frig ac edrych i lawr yn frawychus gan beri i nifer ddal yn dyn yn nillad ei gilydd.  Wedi’r trip mwyaf pleserus yn y tŵr roedd yn amser mynd am fwyd eto, cyn dychwelyd i’r gwesty.

Ddydd Iau aethom ni i Zaroza, dinas hardd iawn sy’n gartref i balas enfawr.  Yno hefyd y cawsom Tapas, sef bwyd arbennig Sbaen.  Cawsom gig tarw i ddechrau wedi ei ddilyn gan octopws, digon i droi stumogau llawer.  Yn ôl i Salamanca yr aethom lle’r oedd gwledd o noswaith yn ein haros yn y ‘disco lite’.  Mwynheuon ni gyd mas draw yn dawnsio’r hen Jac y Do Gymreig ynghanol y sbri.

Ddydd Gwener, ein bore olaf yn yr ysgol, gyda’m Sbaeneg trwsiadus erbyn hyn yn rhyfeddod.  Ond fe ddaeth yr amser i ffarwelio wrth ganu ein hanthem am yr wythnos ‘Dawel Nos’.  I’r bws a’r maes awyr yn ein tro yr aethom, gan weld ein Sbaeneg ar ei newydd  wedd.   Cyraeddasom yng Nghaerfyrddin am 11 yr hwyr wedi cael  wythnos i’r brenin!

Gweirydd Davies Bl 12

Tra bo Dai

Maen nhw’n dweud na ddylech chi weithio gyda phlant ac anifeiliaid. Yn achos un o sêr mwya’ teledu Cymru, Dai Jones, dyw plant ddim yn broblem, a fyddech chi ddim yn meddwl y byddai anifeiliaid yn broblem chwaith i ffermwr. Ond nid ffermwr cyffredin yw hwn!

Fel ffermwr, mae’n anhygoel ei fod e ofn cymaint – adar, cwningod, cathod, llyffantod, unrhywbeth â ffwr a dweud y gwir.

“Fel y gallwch chi ddychmygu, mae’n anodd iawn wrth ffilmio cyfres fel Cefn Gwlad. Dwi wedi awgrymu lawer tro y dylen ni wneud rhaglenni am gathod neu gwningod ond dydy e ddim yn frwdfrydig,” meddai cynhyrchydd y gyfres. “Dwi wedi awgrymu y dylen ni wneud rhaglen yn dilyn Dai i fferm iechyd, ond dydy e ddim yn cytuno â hynny chwaith!”

Ers dechrau S4C, mae Cefn Gwlad wedi bod yn un o gyfresi mwya’ poblogaidd y sianel a mae Dai bellach yn un o enwau mwyaf cyfarwydd Cymru gan ei fod e mor llon ei gymeriad ac yn barod bob amser i siarad â phob un.

Mae pawb yn ‘nabod Dai Jones a dwi’n credu fod Dai yn ‘nabod pob Cymro Cymraeg sydd ar wyneb y ddaear.

 Diolch Dai, a hir oes!

Llywela Davies Bl 9       

 

 

Nôl i'r dudalen adref