|
Cyfarchion!
Eisteddwch yn gyffyrddus.
Mae
eich siwrne gyda Phwyllgor Marchnata Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Myrddin
ar fin cychwyn. Ein bwriad wrth sefydlu’r pwyllgor newydd hwn
yw eich tywys ar daith hynod gyffrous, drwy rannu bwrlwm yr ysgol
a’n profiadau fel disgyblion, gyda’r gymuned.
Gydag
adroddiadau am wibdeithiau diddorol, erthyglau yn lleisio ein barn ac
hyd yn oed adolygiadau ar ddramâu a chryno ddisgiau newydd,
gobeithiwn y cewch eich diddanu.
Wrth
i ni roi min ar ein pensiliau, rydym yn eich gwahodd chi gyd i’r
gornel hon i gael hynt a helynt Cymry ifanc y dref.
Mwynhewch
eich siwrne!
Beth
yw Cwtsh Myrddin?
Clwb Marchnata’r ysgol yw Cwtsh Myrddin lle byddwn yn hysbysebu
llwyddiannau, campau a’ch cyrhaeddiadau chi, boed yn ddisgyblion neu
yn athrawon ar ein gwefan ysgol, mewn colofn yn y “Carmarthen
Journal” ac yng nghylchgrawn lleol “Cwlwm”.
Ceir amrywiaeth o newyddion - o’r byd cerddorol ac eisteddfodol i
fyd y chwaraeon a gweithgareddau allgyrsiol.
Mae aelodau Cwtsh Myrddin yn ysgrifennu adroddiadau i’r Wasg, yn
creu arddangosfeydd o amgylch yr ysgol ac yn gwerthu cylchgrawn Cwlwm
bob mis.
 
|

Aelodau
2011-2012

Archif
Newyddion 2009-2010
Gorffennaf 2010
Mehefin
2010
Mai
2010
Ebrill
2010
Mawrth
2010
Chwefror
2010
Rhagfyr
2009
Tachwedd
2009
|