Cwtsh Myrddin
Mis Hydref 2008

Colofn Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Myrddin
 


 

Croeso nôl, ddarllenwyr Cwtsh Myrddin.  Mae’n bryd i ni gwrdd unwaith eto.         

Byddwch yn onest, rydych wedi hen ‘laru ar y gwyliau hir, y barbiciws a’r tywydd tanbaid. (Jôc)  Mae’r gwyliau ar ben gyfeillion, a ninnau’n ysu i gael rhannu’r hyn sydd ar y gweill gyda ni yma ym  Mro Myrddin yn ystod y misoedd nesaf.  SIOE! Ie, sioe ysgol a fydd yn cael ei llwyfannu ym mis Tachwedd.  Cewch glywed mwy yn y man. Ond cyn hynny, rydym  am longyfarch Myfi Jones o’r chweched dosbarth am gynllunio logo newydd sbon i  Gwtsh Myrddin ac rydym yn ei lansio yn y rhifyn arbennig hwn.  Cyffrous!

Mae tipyn o fwrlwm tu fewn i ddrysau’r neuadd ers i ni gychwyn y tymor. Mae’r paratoadau wedi hen ddechrau wrth i bawb gydio yn eu sgriptiau a chynhesu’u lleisiau yn barod ar gyfer y sioe fawr ym mis Tachwedd. 

Dyma flas i chi o’r sioe “Cinio am Ddaugan Gareth Glyn a Gareth F Williams.

 

Taith herciog sydd o’n blaenau ni i gyd, ac mae bod yn ifanc yn anodd, ydych chi’n cofio?  Pobl ifanc heddiw yw’r bobl ifanc clyfraf erioed medden nhw, ac yn ein sioe gerdd cawn gwrdd ag un o’r gwŷr bonheddig hynny, Dylan “berffaith” sy’n troi’n rebel o flaen ein llygaid, yn neidio o’i rych ddiflas i fentro a herio gan orfod wynebu’r canlyniadau.  Cawn gipolwg drwy dwll y clo ar y trigolion diddorol yma yn caru a chasáu mewn un anadl. 

“Mae’n amser canu’n iach,

Holl gyfeillion, dewch ynghyd

 I ddathlu ar y stryd.”


Beth am gwrdd ag ambell gymeriad

Gethin Lewis sy’n chwarae rhan “Dylan.” Mae’r gwaith o ddysgu geiriau ac ymarfer ar gyfer chwarae’r cymeriad – “Dylan” wedi cychwyn!  Felly, pa fath o gymeriad yr wyf yn ei bortreadu?  Mae Dylan yn fachgen yn y chweched dosbarth sydd wedi cael llond bol ar yr ysgol, ac felly yn gwrthryfela yn erbyn ei athrawon a’i rieni.  Nid yw Dylan yn gweld pwynt treulio’i amser yn yr ysgol, ond newidiai ei fywyd yn llwyr pan gyfarfu â Mel, y ferch drws nesaf!  Gwelwn ochr garedig a chariadus Dylan yn y golygfeydd hynny gyda Mel.  Wrth gwrs, rhaid cadw’r berthynas yn gyfrinach rhag i’w rieni ddarganfod, ond âi pethau o ddrwg i waeth pan ddeuai sawl “problem” arall i’r wyneb i Dylan a Mel.  Rhedai Dylan at ei athrawes, Glen am gymorth, ond all unrhyw un achub Dylan o’r drasiedi ar y diwedd? 

Er fy mod union yr un oedran â’r cymeriad, mae Dylan yn fachgen gwahanol iawn i minnau!  Actio’r “Thug” y byddaf, rhywun nad yw’n dilyn y drefn, ond wrth gwrs rhaid sicrhau y byddaf yn dangos y gwrthgyferbyniad rhwng dwy ochr personoliaeth Dylan.  Edrychaf ymlaen yn fawr iawn i gael gweithio gyda gweddill y cast yn ogystal â’r hyfforddwyr gan obeithio y bydd y canlyniad yn llwyddiant ac yn brofiad i’w drysori!


Melanie Ellis yw’r cymeriad sydd wedi dod yn rhan o’m mywyd i, Ceirios Davies  yn ddiweddar.  Merch fentrus iawn yw Melanie sydd wedi bod i ffwrdd mewn ysgol fonedd am bum mlynedd.  Pan ddaw adre mae’n syrthio dros ei phen a’i chlustiau mewn cariad â’i hen ffrind Dylan Llwyd.  Ond yn anffodus i’r ddau gwpwl, dyw pethau ddim yn rhwydd iawn iddynt, mae ‘na anawsterau , er gwaetha’r drefn.

Ar hyn o bryd rwy’n brysur yn canolbwyntio ar fy ngolygfa agoriadol lle rwy’n cwrdd â Dylan Llwyd am y tro cyntaf ers dychwelyd o’r ysgol fonedd.  Mae’n dipyn o her i ddysgu’r holl eiriau ond mae cydweithio gyda chymeriadau eraill yn help.  Edrychaf ymlaen i ganu’r deuawdau cofiadwy ar y noson agoriadol ym mis Tachwedd.  Dewch i glywed!

 Cewch glywed mwy am y paratoadau yn y rhifyn nesaf!


 

Nôl i'r dudalen adref