Cwtsh Myrddin
Colofn Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Myrddin
HYDREF 2007
![]()
Un Filltir Faith
Bedair blynedd yn ôl bellach, lansiwyd apêl “Plant Dros Blant” fel cynllun peilot yng Nghymru. Profwyd hwn yn gynllun effeithiol dros ben gan ei fod yn rhoi cyfle i ddisgyblion estyn cymorth i blant ysgol mewn gwledydd datblygol ar draws y byd. Mae cyfraniadau ariannol o’r fath yn rhoi’r cyfle iddynt dderbyn gwell addysg a mwy o gyfleoedd mewn bywyd. Yn dilyn llwyddiant yr apêl y llynedd pan godwyd cyfanswm o £3986, aethom ati’n frwdfrydig eleni eto.
Felly, beth oedd yn ofynnol i ni fel disgyblion?
Roedd y dasg yn ddigon hwylus. Ddydd Gwener 28ain o Fedi, ar ddiwedd yr awr ginio roedd yr ysgol gyfan yn clymu careiau eu hesgidiau ymarfer yn barod i gerdded, loncian, sgipio neu redeg o amgylch yr ysgol. Cychwynnom ar y daith gerdded a oedd yn filltir o hyd, ac yn wir roedd pawb wrth eu bodd. Braf oedd gweld disgyblion o flwyddyn 7 i 13 ac athrawon yn ymuno yn y weithgaredd hon.
Codwyd cyfanswm o tua thair mil o bunnoedd. Llwyddiant ysgybol eleni eto.
Edrychwn ymlaen i gerdded eto y flwyddyn nesaf wrth gofio y gall un filltir , weithiau, wneud byd o wahaniaeth.
Limrig y mis
Wedi wythnosau hir o ymlacio,
fe ddaeth yr awr i ddechrau ymdeithio.
Rhoi cant y cant,
I “Blant Dros Blant”
Ymlaen yr awn â’r cynilo.