Her Beicio Cymru

Croesawyd i’r ysgol ar ddydd Gwener yr 11eg o Fehefin griw  o Her Beicio Cymru. Yn ei mysg yr oedd Colin Charvis a rhai o chwaraewyr y Dreigiau a oedd ar daith beicio 500 milltir dros 8 niwrnod i godi arian ar gyfer pedair elusen sef Tŷ Gobaith, Canolfan Cae’r Felindre, Ambiwlans Awyr Cymru ac Ysgol yn Nairobi. Cafodd y disgyblion gyfle i sgwrsio a holi’r chwaraewyr dros bryd o fwyd yn y ffreutur.  Cyfrannodd yr ysgol £300 tuag at yr apêl.

 

Sesiwn fideo gynadledda gyda Eurig Salisbury

Efallai bod ystafell gynadledda Ysgol Bro Myrddin yn edrych braidd yn ddiflas. Ond ar yr 18fed o Fai, cafodd rhai disgyblion lwcus o flwyddyn 9 ryddid o’u gwersi gyda’r adran Gymraeg. Pwrpas y bore arbennig hwnnw oedd hybu barddoni ymhlith yr ifanc, a phwy gwell i wneud hyn nag Eurig Salisbury cyn-ddisgybl o’r ysgol.

 

Trwy ddefnydd o wê-gamera soffistigedig iawn, bu Elan, Celt, Alis, Gethin, Megan, Steffan, Llew ag Enlli yn holi a thrafod gyda’r bardd ifanc a thalentog yma. Ynghyd ag Ysgol Bro Myrddin, roedd Ysgol Bryntawe ac Ysgol Bro Morgannwg hefyd yn cael gwybod mwy am brydferthwch barddoniaeth. Ond roedd y profiad ychydig yn fwy i ni fel ysgol, gan mai i Fro Myrddin aeth Eurig yn ddisgybl. Er nad mewn dosbarth arferol yn cael gwers arferol oeddem, gyda’r camera modern, a’r teledu fawr, roedd fel petai’r holl ysgolion ac Eurig i gyd mewn un ystafell. Teimlad od iawn oedd rhannu gwers gyda phlant dros Gymru gyfan!

 

Er i’r drafodaeth ddechrau ychydig yn hwyr, cyn hir roedd Eurig wrthi’n dweud wrthym pa mor cŵl a modern mai barddoniaeth a chynganeddu wedi dod erbyn hyn. Cawsom nifer o enghreifftiau o hyn drwy ei gerddi gwych, gan ddilyn ei helynt yn Efrog Newydd â’i wallt mawr, a theimlo nerfau di-ri cyn cerdded ar gae rygbi. Roedd y mwyafrif ohonynt o’i gasgliad diweddaraf (a’r cyntaf) “Llyfr Glas Eurig”. Yn wir roedd ein barn o farddoni’n newid gyda phob llinell.

 

Yna cawsom glywed am ei fywyd a’r hwyl a gafodd yn yr ysgol. Ei swydd ar hyn o bryd yw edrych ar lawysgrifau Guto’r Glyn a throsglwyddo’r cyfan i iaith gyfoes – ei roi ar bapur mewn gwirionedd. Dywedodd sut roedd e’n gweld cynganeddu a barddoni yn ddiflas iawn yn yr ysgol i ddechrau, ond yna wrth iddo aeddfedu a dysgu cerddi beirdd Cymru ar gyfer TGAU Cymraeg, dechreuodd sylweddoli fod “y busnes cynganeddu 'ma ddim yn rhy wael”.

 

Trwy hyn oll roedd yna gyfle i ofyn cwestiynau, a daeth cwestiwn da o Ysgol Bro Morgannwg sef, o ble ddaw ei holl syniadau. Cawsom ni ychydig o sioc, wrth iddo ateb trwy ddweud mai’n aml iawn bywyd bob dydd sy’n dod â’r awen iddo. Dywedodd, o dro i dro, pan fydd yn cerdded drwy’r mynyddoedd gyda’i ffrindiau mewn rhyw fan brydferth tu hwnt, bydd un o’i ffrindiau yn dweud “fi’n siŵr bod rhyw syniad da ti am gerdd fan hyn Eurig” a’i ateb e fydd - na. Y neges oedd e’n cyfleu oedd, does dim angen unrhyw beth mawr i greu cerdd dda. Yn aml mae’r cerddi gorau’n dod o syniadau sydd reit o flaen eich trwyn.

 

Ar ôl trafodaeth hynod o ddiddorol, cawsom ein taflu yn ôl i’r gwir garchar - yr ystafell ddosbarth. Ond nid oedd hanner mor wael ar ôl clywed pa mor ddifyr gall barddoni fod. Bore ysbrydoledig.

 

Adroddiad gan Llew Hopwood

 

 

Eisteddfod yr Urdd Llanerchaeron 2010 yn llwyddiant ysgubol!

Mae Eisteddfod Llanerchaeron wedi bod yn lwyddiant ysgubol, i Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Myrddin. Roedd yr haul yn disgleirio wrth i ddisgyblion yr ysgol gystadlu mewn 40 o wahanol eitemau a llwyddodd 21 o eitemau i gyrraedd y llwyfan. Llongyfarchiadau mawr i bawb, i’r disgyblion ac i’r hyfforddwyr a diolch iddynt  am eu hymrechion a’u hymroddiad diffael. Campus iawn!

Dyma’r canlyniadau:

 

Llwyddiant Ysgol Bro Myrddin

Yn Eisteddfod yr Urdd Llanerchaeron 2010

 

1af

Unawd Llinynnol Bl 7-9                                 -           Cathryn Rees

Parti Cerdd Dant Bl 7-9

Llefaru Unigol Bl 7-9                                     -           Enlli Eluned Lewis

Llefaru Unigol Bl 10-13                                 -           Saran Richards

Unawd Chwythbrennau Bl 10-13                 -           Catrin Price

Côr Merched S.A. Bl 13 ac iau

Deuawd Offerynnol Bl 13 ac iau                 -           Catrin Price a Llywelyn Edwards

Barddoniaeth Bl 7                                       -           Martha Ifan

Graffeg Cyfrifiadurol Bl 7 ac 8                     -           Rachel Dickson

 

2ail

Unawd Merched Bl 7-9                              -           Elan Richards

Unawd allan o Sioe Gerddorol Bl 10-13    -           Gethin Lewis

Côr S.A. Bl 7-9

Dawns Werin Bl 10-13                                

Tîm Siarad Cyhoeddus (Y.U.) Bl 10-13

Cerddorfa o dan 25 oed

Bws Coginio Bl 7-9                           -           Angharad Thomas

Bws Coginio Bl 10-13                       -           Rhian Davies

 

3ydd

Grŵp Llefaru Bl 8-9

Unawd Pres Bl 10-13                       -           Thomas Dafydd Scaife

Deuawd Bl 10-13                             -           Gethin Lewis a Ceirios Davies

Dawns Stepio i 2, 3 neu 4                -           Gareth Spiers, Tomos Davies a Carwyn Jones

 

 

 

Nôl i'r dudalen adref