Gorffennaf 2009

 

Troi’n wyrdd! 

Llongyfarchiadau mawr i Bwyllgor Eco’r ysgol am ennill gwobr arian Eco yn ddiweddar.  Mae’r criw wedi bod wrthi’n brysur yn ystod y flwyddyn yn ceisio gwneud yr ysgol yn amgylcheddol gyfeillgar.  Braf gweld eu brwdfrydedd  wrth fynd ati o ddifri i sicrhau bod yr ysgol yn ailgylchu papur, cardiau a chetrys inc, codi ymwybyddiaeth eu cyd-ddisgyblion am yr amgylchedd a chlywed am eu cynlluniau newydd o ail ddefnyddio’r dŵr yn y Ganolfan Adeiladu.  Pob hwyl i chi gyda’r fenter newydd!
 

Llwyddiannau ysgubol

Manteisiwn ar y cyfle i longyfarch rhai o ddisgyblion yr ysgol am eu llwyddiant yn y byd cerddorol.  Llongyfarchiadau mawr i Claire Roberts o flwyddyn 10 am ennill y teitl “Cyfansoddwr Ifanc Dyfed” ac i Sion Hupfield am ennill categori B y gystadleuaeth.  Bu Nia Bevan yn llwyddiannus yn ddiweddar wrth dderbyn Gwobr Goffa Terry Jones am ei chyfraniad gwbl ddiffwdan i weithgareddau cerddorol y sir.  Da iawn chi!

 
 

Cadw’n heini

Mae Ysgol Bro Myrddin yn un o nifer o ysgolion ar draws y wlad sydd yn ymdrechu’n galed  i gael pobl ieuainc i fod yn heini ac yn egnïol trwy gynnal amryw o glybiau 5x60.   Dyma flas o’r cynllun newydd hwn sydd wedi bod yn llwyddiant ysgubol yn ein hysgol ni.    

Caiff Cynllun 5x60 Llywodraeth Cynulliad Cymru ei reoli gan Gyngor Chwaraeon Cymru. Ei amcan yw cael mwy o ddisgyblion uwchradd i gymryd rhan mewn 60 munud o weithgarwch corfforol bum gwaith yr wythnos.   Yn sicr,  mae’r cynllun yn llwyddiant ysgubol , gyda’r disgyblion yn camu ar y llawr i  glocsio neu i ymestyn y corff mewn sesiwn o pilates, yn ogystal â chymryd rhan yn y chwaraeon mwy traddodiadol fel pêl droed a chriced. Mae’r cynllun hefyd yn rhoi cyfle i arbrofi mewn chwaraeon newydd a dirgel fel dringo, beicio mynydd a hyd yn oed Aikido.

Roedd athrawes AG yn yr ysgol, Mrs Bergiers , yn barod iawn i gyflwyno sylwadau ar effaith y cynllun:

"Mae’r cynllun 5x60 wedi cael effaith aruthrol ar lawer o’r disgyblion. Mae mor braf gweld cymaint o ddisgyblion yn cymryd rhan yn yr amrywiaeth newydd a chyffrous o weithgareddau a gynigir. Yn gyfrifol am lwyddiant y cynllun mae Mr Llŷr Thomas, ein Swyddog 5x60, sy’n gweithio’n galed iawn ac yn hynod frwdfrydig. Mae ei wirfoddolwyr yn werthfawr  tu hwnt hefyd - daliwch ati gyda’r gwaith da."

Er mwyn sicrhau bod y cynllun at flas pawb , yn fechgyn ac yn ferched, mae’r gweithdai yn  cynnig pilates, pêl-droed, dawns a dringo i’r disgyblion.  Rhydd y cynllun hefyd gyfle i’r chweched dosbarth i helpu yn ystod yr awr ginio i oruchwylio rhai o’r clybiau.

Meddai’r Swyddog 5x60 am lwyddiant y cynllun hyd yma:

"Mae llwyddiant y rhaglen 5x60 yn brawf o ymroddiad a gwaith caled yr arweinwyr ifanc hynod arbennig sydd i’w cael yn y 6ed dosbarth, ynghyd â’r adran AG– hebddynt hwy, ni fyddai modd gweithredu’r rhaglen o gwbl. Mae badminton  wedi profi’n eithriadol boblogaidd, gyda sawl oedran  yn cymryd rhan ac yn cael eu hyfforddi gan sawl un o Flwyddyn 12, ac yn gweithio at fod yn  arweinyddion drwy gyfrwng y rhaglen 5x60. Mae’r sesiynau hoci bechgyn yn ystod amser cinio’n denu niferoedd mawr hefyd, gyda mwy na 35 o fechgyn hynod addawol yn mynychu pob sesiwn."

Mae Pennaeth Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Myrddin, Mr Williams, yn frwd ei ganmoliaeth i’r cynllun. "Rwy’n hynod falch dros bawb sy’n rhan o’n rhaglen 5x60. Mae ein cyfranogiad yn 5x60 ers mis Medi 2008 wedi cael effaith aruthrol ar weithgareddau chwaraeon allgyrsiol yn ystod amserau cinio ac ar ôl ysgol.”

 Un o nodweddion gorau 5x60 yw ei fod yn rhoi cyfle i ddisgyblion gymryd rhan mewn gweithgarwch corfforol heb orfod chwarae i dimau’r ysgol.  Meddai Jac Davies, disgybl ym mlwyddyn 10  yn yr ysgol:

"Mae’n hwyl ac yn cŵl. Mae’n rhoi cyfle i mi ddatblygu fy sgiliau a chymryd rhan mewn gweithgareddau na fyddwn wedi rhoi cynnig arnynt fel arall.”

Bwriad y cynllun yw i gael plant yr ysgol yn fwy heini ac yn iachach ac i gymryd rhan mewn sesiynau allgyrsiol gan roi blas a phrofiadau o chwaraeon newydd ac anturus i bawb.  

Byddwch heini dros wyliau’r haf. 
Ydych chi’n barod i wynebu’r her?

Sean Bergiers Bl 10
 

 

 

 

Nôl i'r dudalen adref