Cwtsh Myrddin
Colofn Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Myrddin
GORFFENNAF 2008
Clywch, Clywch!Mae hi bellach yn Orffennaf a ninnau aelodau Cwtsh Myrddin bron â dod i ddiwedd ein taith am eleni. Heb os, mae wedi bod yn flwyddyn brysur, llawn profiadau gwerthfawr i ni gyd yma ym Mro Myrddin. Cyn i ni eich gadael a rhoi hoe i’n pensiliau prysur dros wyliau’r haf i ymlacio yng ngwres yr haul, rydym am eich tywys ar y daith olaf. Dewch yn nes i glywed am lwyddiant ysgubol ein cynllun busnes arloesol ac i gwrdd ag un disgybl sy’n serennu ym myd yr athletau. Dewch yn nes!
Barod i fentro!
Ddydd Mawrth Ebrill 8fed, bu criw o ddisgyblion Bl10 sy’n astudio Busnes fel pwnc TGAU yng Nghernyw, yn cystadlu yn rownd derfynol cynllun Mentrau Celtaidd. Mae’r cynllun yn rhoi cyfle i ddisgyblion sefydlu a rhedeg busnes eu hunain, cyn cystadlu am y tlws buddugol. Eleni, bu 8 allan o 90 grŵp yng Nghernyw yn brwydro am y wobr gyntaf, gyda “5 o’ ni” o Fro Myrddin yn ddigon ffodus i fod yn rhan o’r bwrlwm. Aelodau’r grŵp oedd Nerys Thomas, Emyr Morris, Curon Howells, Huw Jones a Tomos Van Praet, ac eleni eu her oedd meddwl am gynnyrch neu wasanaeth sy’n arloesol yn ogystal â bod yn amgylcheddol-gyfeillgar. Penderfynwyd sefydlu gwasanaeth casglu papur gwastraff er mwyn ei ailgylchu mewn i ddeunydd ynysu, a deunyddiau pacio.
Ar ôl cyflwyno’r syniad ger bron y beirniaid, rhaid oedd i’r grŵp aros am eu beirniadaeth. Adroddwyd yn ôl i’r disgyblion a chawsant wybod beth oedd cryfderau a gwendidau eu cynllun. Canmol a wnaeth y beirniaid, gan gymeradwyo’r ffaith bod y grŵp yn defnyddio deunydd gwastraff a oedd yn yr ysgol yn barod. Yn fuan wedyn, cyhoeddwyd mai grŵp “5 o’ ni” oedd wedi ennill y gystadleuaeth gyfan. Cyflwynwyd y tlws buddugol i’r grŵp oedd yn llawn haeddu’r wobr am eu gwaith diwyd. Wedi’r cystadlu brwd, cafwyd amser i ymlacio cyn dychwelyd i ddatgelu’r newyddion da i’r ysgol gyfan. Llongyfarchiadau gwresog i’r grŵp cyfan!
Fflur Rhys a Llinos Davies
Athletwraig o fri!Enw : Ffion Rees
Oed : 15
Cartref : Tanerdy, Caerfyrddin
Ysgol Gynradd : Ysgol y Dderwen
Ysgol Uwchradd : Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Myrddin
Ffeithiau diddorol : - Aelod o Glwb Athletau Caerfyrddin ers yn 8 oed, clwb llwyddiannus yng Nghymru.
- Wedi bod i’r Tŷ Cyffredin i gwrdd â Kelly Holmes a’r Aelodau Seneddol.Llwyddiannau yn y byd athletau: Ennill Pencampwriaeth athletau dan- do Cymru. Ennill 3 medal aur ym mhencampwriaeth Gorllewin Cymru yn ddiweddar (300 medr clwydi, naid hir, naid drifflyg).
Profiadau arbennig: Cwrdd â Kelly Holmes, Jamie Baulch, Darren Cambell a Colin Jackson yn y gorffennol.
Uchafbwyntiau: - Cynrychioli Cymru yn y Pentathlon yn Glasgo ac yn y naid hir yn y Cwpan Celtaidd yng Nghaerdydd.
- Ennill Pentathlon Cymru o dan dair ar ddeg.
Gobeithion am y dyfodol: - Ennill pencampwriaeth a chynrychioli Cymru eto.
- Parhau i wella a chadw’n ffit.
Eisteddfod yr Urdd 2008
Rwy’n siŵr y byddwn fel ysgol yn cofio Eisteddfod Sir Conwy 2008 am flynyddoedd maith. Roedd hi’n wythnos anhygoel! Pedwar diwrnod llawn o gystadlu brwd a llond trol o fedalau a thlysau i’w cludo adref.Dyma’r canlyniadau; Catrin Price – Unawd Chwythbrennau Bl 7-9 – 1af; Cathryn Rees – Unawd Llinynnol Bl 7-9 – 3ydd; Grwp Llefaru Bl 7-9 – 1af; Parti Bechgyn Bl 7-9 – 3ydd; Ensemble Bl 7-9 – 1af; Ensemble Lleisiol Bl 13 ac iau – 2il; Côr S.A Bl 7-9 – 2il; Dawns Werin Bl 7-9 – 2il; Siarad Cyhoeddus – 1af; Cerddorfa – 2il; Grwp Llefaru Bl 10-13 – 1af; Miriam Hopwood – Llefaru Unigol Bl 10-13 – 1af; Côr Merched Bl 13 ac iau – 1af; Heledd a Lowri - Deuawd Bl 10-13 – 3ydd; Band cyfoes – 3ydd; Ensemble 15-25 oed – 3ydd; Cystadleuaeth Goginio – 2il. LLONGYFARCHIADAU!