Cwtsh Myrddin

Colofn Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Myrddin
EBRILL 2008
 


Rhifyn cerddorol sydd gennym ni ar eich cyfer y tro hwn wrth i ni deithio i lwyfan y West End a chael blas ar gryno ddisg ddifyr sydd newydd ei chyhoeddi yn y siopau. Felly  ymlaciwch a mwynhewch! 

                                                    

Joseff a’i got amryliw

 

Gyda chras o ddrymiau a fflach o olau, fe ddaeth  ‘Joseph’ yn ôl i’r West End yn ei got amryliw anhygoel, wedi’i wisgo gan y seren newydd Lee Mead, ennillydd rhaglen BBC ‘Any Dream Will Do’ Andrew Lloyd Webber.

Ar y chweched o Chwefror 2008, aeth criw o ddisgyblion Bro Myrddin ar daith i Lundain i weld sioe enwog ‘Joseph and the amazing technicolour dreamcoat’ yn Theatr yr Adelphi yn y ‘West End’. Dechreuodd y perfformiad yn brydlon am 3 o’r gloch. Ar ôl ychydig o broblemau technegol, dechreuodd y wledd liwgar, swynol o adloniant gyda’r gynulleidfa yn bloeddio enw Lee.

Mae stori Joseph yn un cyfarwydd iawn i ni gyd. Joseph oedd hoff fab Jacob. Oherwydd rodd o got amryliw o’i dad, gwylltiodd ei frodyr ac o ganlyniad cafodd ei fradychu. Cafodd ei werthu fel caethwas yn yr Aifft. Er hyn, penderfynol oedd Joseph i lwyddo, a gyda’i ffydd yn Nuw a chariad yn ei bobl goroesodd Joseph yr amser gwael, ac fe ddaeth yn llywodraethwr yr Aifft o dan Pharo. Cyfarfu ef a’i frodyr unwaith eto, pan ddaethant i ofyn am fwyd. Ar ôl i Joseph dwyllo ei frodyr, fe ddysgant eu gwers unwaith ac am byth.

Roedd defnydd technegol y sioe yn dda, a gwelwyd llu o effeithiau arbennig gan gynnwys llawr i’r llwyfan oedd yn cylchdroi a goleuadau effeithiol. Clywyd cerddorfa safonol iawn yn cyfeilio i gantorion profiadol a dawnswyr proffesiynol oedd yn sicr yn haeddu canmoliaeth. Sylwyd ar set effeithiol iawn gan gynnwys, triongl mawr yn cynrychioli pyramid, ‘Sphinx’ Pharo, carchar yr Aifft, cefndir o sêr ac ati.

Roedd y sioe yn werth ei weld yn sicr. Fe ddaeth yr hen stori Feiblaidd yn fyw o flaen ein llygaid. Barn llawer oedd y byddai’r sioe yn haeddu marciau llawn am berfformiad hudol. Addas ydoedd ar gyfer bob oedran ac fe lwyddodd gynnig rhywbeth oedd at ddant bawb.

Manon, Sara, Lleucu a Ceri.

 

Marged Llŷr yn adolygu CD “Gwibdaith Hen Frân”

 

Os ydych eisiau CD i ddod â gwên i’ch wyneb ac i godi’r galon, cryno ddisg Gwibdaith Hen Frân yw’r un i chi! ”Cedors Hen Wrach” yw teitl amheus y gryno ddisg newydd ac mae’r caneuon fel y teitl  yn gwthio’r ffiniau. Grŵp newydd, gwahanol o Flaenau Ffestiniog yw Gwibdaith Hen Fran, grŵp sy’n anodd ei osod mewn bocs cerddorol. Mae eu miwsig yn llawn hiwmor tafod yn y foch. Maen nhw’n tueddi fod yn hamddenol iawn yn hytrach nag yn ddifrifol. Byddwn yn dychmygu eu bont yn rhai da iawn i ganu’n fyw . Mae’r CD wedi ei rhyddhau ar label RASAL ac yn cynnwys un deg saith o draciau bywiog, cofiadwy.

            Cân orau a  mwyaf poblogaidd y grŵp yn fy marn i yw ”Trôns Dy Dad! “ Yn syml,  cân ar ffurf stori yw hon , stori am ryw  greadur sy’n gorfod gwisgo pans mawr dad oherwydd  nad oes ganddo bâr glân ei hun. Mae’r hanesyn sy’n datblygu yn un doniol iawn .Canu caneuon am bethau bach doniol bob dydd mae’r grŵp . Yn yr un modd mae ‘Coffi Du’, “Cyri’ a ,’ Car bach fi ‘ oll yn apelio.

 

           Dechreuodd y band yn 2006 ond daethant yn enwocach yn 2007 pan wnaethon nhw ryddhau eu sengl gyntaf - “Cedors Hen Wrach!” Phil Lee Jones, Paul Thomas, Gethin Thomas a Robi Buckley yw aelodau’r band a’r tri phrif offeryn sydd ganddynt yw’r gitâr, yr ukulele a’r sielo. Offerynnau gwahanol iawn i grŵp pop meddech chi. Ond ai cantorion pop ydyn nhw ? Efallai mai grŵp gwerin ydyn nhw, grŵp gwerin sy’n boblogaidd iawn . Mae’n fiwsig llawn rhythm sy’n  gwneud i chi eisiau codi ar eich traed a  dawnsio yn wyllt. Cyfeiriwyd at y CD  ar  y  radio fel ” Tiwns fydd yn mynd rownd yn ‘Jiwcbocs’ eich ymennydd drwy’r dydd.”

Mae rhaid i fi gytuno.  Erbyn hyn rwy’n dwlu arnynt , yn canu'r caneuon o gwmpas y tŷ drwy’r amser ac yn gwrando’n aml arnynt yn fy stafell pan fo angen codi’r galon.

Felly cofiwch am Gwibdaith Hen Fran. Ewch allan i brynu’r  CD.
Dyma un o fandiau  gorau'r  siartiau Cymraeg!

 

Llongyfarchiadau!

 

Llongyfarchiadau mawr i Lys Peniarth am gipio tarian Eisteddfod yr ysgol eleni. Yn ogystal rhaid llongyfarch Llew Hopwood am ennill y Goron ac i Mair Harries am ennill y Gadair am eu gwaith creadigol yn y Gymraeg. Llogyfarchiadau hefyd i Saran Richards am ennill Coron yr Adran Saesneg ac i  Claire Roberts am ddod yn ffuddugol yng nghystadleuaeth y Gadair.

 

 

Nôl i'r dudalen adref