Ebrill 2010

 

Dathliad Dydd Gŵyl Dewi

Dathlwyd Gŵyl Ddewi ym Mro Myrddin eleni gyda gwasanaeth arbennig a neuadd yr ysgol dan ei sang. Dr Mererid Hopwood oedd ein gwestai gwadd a chymerodd ddarlun Pieter Bruegel “Cwymp Icarus” yn destun. Yn ei ffordd ddihafal ei hun fe wnaeth ddefnyddio’r darlun er mwyn ein hatgoffa i gyd o’r pethau bychain sydd mor hanfodol i’n bywydau. Cymerwyd rhan gan gynrychiolaeth o’r saith blwyddyn ysgol ac fe’m hatgoffwyd am gyfraniad ein harwyr cenedlaethol a’r hyn yn wir yw diffiniad Sant. Cafwyd cyfraniadau gan y corau, y parti dawns hŷn y parti llefaru a’r ensemble telynau. 

 

 Gwobr Goffa Delme Evans

Llongyfarchiadau i Siôn Page, o flwyddyn 12, am ennill Gwobr Goffa Delme Evans gan Glwb Roteri Caerfyrddin. Yn ystod blwyddyn 12 mae Siôn wedi gwneud llawer iawn o waith gwirfoddol tu fewn a thu allan i’r ysgol. Roedd y gwaith yn amrywio o beintio adeiladau gorsaf drenau i actio fel corrach. Felly da iawn Siôn!
 

Taith Adran Gerdd Ysgol Bro Myrddin i weld
y sioe Billy Elliot yn Llundain

Eleni eto fe wnaeth cant o ddisgyblion gwrdd ym maes parcio Halfords am chwarter wedi chwech y bore ar gyfer taith yr Adran Gerdd. Taith hir mewn bws â’r gwresogydd wedi torri oedd o’n blaenau. Roedd yn anghyfforddus o dwym tan i ni gyrraedd Casnewydd pan, drwy lwc a bendith, daeth gyrrwr yr ail fws ymlaen i drwsio’r gwresogydd. Ar ôl hynny gwibiodd y milltiroedd heibio a chyrhaeddom y ddinas fawr cyn pen dim.

 

Wrth gyrraedd Llundain roeddwn yn pasio’r lleoliadau a’r golygfeydd enwog cyn i ni fedru eu gwerthfawrogi’n llawn. Yna cyfle Mrs.Gibbon oedd hi i arwain ein bws ni at Covent Garden – taith ddiddorol iawn. Roedd pawb yn edrych ymlaen at fod yma, yng nghanol y siopau modern a phoblogaidd, lle roedd rhywbeth at ddant pawb. Y ffefryn eleni oedd y siop ‘Jack Wills’, siop ddillad trendi a ffasiynol dros ben. Roedd bron pawb oedd ar y daith yn awyddus i ymweld â ‘Jack Wills’ ond yn eithaf siomedig i weld pa mor ddrud oedd popeth yn y siop arbennig hon. Fodd bynnag, y profiad o ymweld â siop mor boblogaidd oedd yn cyfri.

 

Fe aeth ein hamser yn Llundain yn gloi, ond roedd prif bwrpas y daith yn dal o’n blaenau - ein hymweliad â’r sioe ‘Billy Elliot’.

 

Ymwelom ni â theatr Victoria Palace i weld cynhyrchiad hollol wefreiddiol o ‘Billy Elliot the Musical’. Cyrhaeddodd y bws tu allan i’r theatr ac wrth weld baner y sioe, daeth sgrechfeydd cyffrous o gefn ein bws. Yn y fynedfa, cawsom gyfle i brynu eitemau i gofio’r sioe. Roedd y theatr yn edrych fwy fel palas y tu fewn gyda’i grisiau aur. Wrth gyrraedd yr auditorium, roedd y cyffro yn cynyddu wrth weld y set a’r goleuadau’n diffodd! Roedd y sioe yn werth y trip hir i Lundain, gydag actio, dawnsio a chanu gwych. Roedd Fox a oedd yn actio Billy yn actor ffantastig ac yn gymnast o fri a oedd wedi cynrychioli Llundain ym mhencampwriaeth gymnasteg Prydain, ac roedd hyn yn amlwg yn y golygfeydd dawnsio. Sioe wych gydag amryw o gymeriadau doniol a difyr. Roedd y cyfarwyddo yn ardderchog, sioe werth ei gweld yn bendant! Tybed pa sioe y cawn weld y flwyddyn nesaf??

 

Amser i Garu

Cafodd Ysgol Bro Myrddin ei orchfygu gan deimladau o gariad am gwpl o ddyddiau yn arwain at ddydd San Ffolant. Cafodd pawb y cyfle o allu mynegi eu teimladau trwy brynu rhosyn i’w cariad.

 

Fe brynwyd y rhosod gan gymorth y Pwyllgor Cymreictod.  Fe wnaeth y pwyllgor ariannu'r fenter er mwyn ceisio hybu ‘Caru yn Gymraeg’. Dywedodd is gadeirydd y pwyllgor Sïon Eirion Evans (Bl 12) bod hyn yn ‘gyfle gwych i bawb i fynegi ei teimladau trwy iaith ei mam’.

 

Roedd y fenter yn llwyddiant aruthrol ac fe benderfynwyd bod yr arian a wnaethpwyd yn mynd i apêl Haiti.

 

 

 

 

Nôl i'r dudalen adref