Chwefror 2010

 

Eira Mawr ym Mro Myrddin 

Fel y gwyddoch, bu eira mawr yn ddiweddar ym Mro Myrddin gan guddio tiroedd yr ysgol o dan flanced wen. Roedd yr eira yn drwchus ac mewn tywydd rhewllyd, nid oedd modd cadw’r ysgol ar agor. Wrth gwrs, roedd hyn yn newyddion da i’r disgyblion a gafodd estyniad i wyliau’r Nadolig.  Ar ddydd Mawrth, y 5ed o Ionawr, cafodd y disgyblion a’r staff a oedd wedi cyrraedd yr ysgol yn y bore ei hel adref gan fod yr eira yn disgyn yn gyflym ac yn achosi problemau ar yr hewlydd. Hwn mae’n debyg oedd y cyfnod oeraf ers tua deg mlynedd ar hugain gyda’r tymheredd yn disgyn i dan bymtheg pwynt is na’r pwynt rhewi. Fe barhaodd y tywydd oer am bron i wythnos a bu pryder nad oedd rhai o ddisgyblion yr ysgol yn gallu sefyll eu harholiadau.

 

Ond at ei gilydd, nid gwaith oedd ar feddyliau’r rhan fwyaf ohonom gyda’r gorchudd gwyn hwn yn troi’r mwyaf aeddfed a chyfrifol yn blant bach unwaith eto. Cafwyd digon o firi yn adeiladu iglw neu ddynion eira, ac ambell i ddynes eira. Ac nid y plant yn unig a gafodd hwyl yn yr eira. Yn ôl pob sôn bu’r prifathro yn cael ychydig o sbort ei hun pan aeth allan i slejio gyda rhai o ddisgyblion y chweched.

 

Bellach atgof yw’r eira a’r anhawster a ddaeth yn ei sgîl wedi’u hanghofio. Bu’n rhaid ffarwelio a’r dynion eira a dododd y prifathro ei sled gadw am y tro beth bynnag.

 

Manon Ifan B12

 

Adran Hanes

Adeiladwyd ar ddealltwriaeth disgyblion blwyddyn 7 am ryfeddodau Oes y Normaniaid ar ôl bod yn ymweld â chastell Cydweli yn ddiweddar. Cafodd disgyblion o flwyddyn 7 y cyfle gyda'i hathrawes Mrs Tracy Jenkins i wisgo gwisgoedd Milwyr Normanaidd a phrofi yn bersonol y teimlad sut fyddai i wisgo gwisg Normanaidd.
 

Yn ôl un o’r disgyblion Llyr Fairburn “roedd y wisg yn drwm iawn ac felly byddai ymladd ynddi yn anodd rwy’n siŵr

 

Sialens y Llysoedd

Roedd neuadd yr ysgol yn llawn bwrlwm ar ddydd Iau olaf tymor y Nadolig pan gynhaliwyd diwrnod Sialens y Llysoedd. Roedd y sialensiau yn amrywio o Bush Tucker Trial, Carioci a’r Weakest Link. Yn cystadlu roedd penaethiaid y llysoedd, staff a disgyblion.

Y gystadleuaeth gyntaf oedd y Bush Tucker Trial – ar gyfer y sialens hon roedd rhaid bwyta cwstard a thiwna wedi eu cymysgu gyda’i gilydd. Mmmmmm, blasus!!  Roedd wynebau’r cystadleuwyr yng nghanol y bwrlwm yn edrych yn eithaf amheus am fwyta'r hyn o’u blaenau nhw ond fe wnaeth pob un geisio bwyta gymaint o’r cynhwysion a phosib, er gwaethaf eu golwg! Nid yw Mrs Lowri Davies yn un i gwyno am ei bwyd ond o edrych ar ei hwyneb nid oedd ganddi fawr i ddweud wrth gwstard a thiwna. Enillwyr y gystadleuaeth oedd dau fyfyriwr sef Gareth Morgan ac Aled Evans sy’n profi y gwnaiff myfyrwyr fwyta unrhyw beth sydd o’i blaenau i ennill sialens!

 

O’r bwyd i ganu a dechreuodd pethau wella wrth i ni wrando ar ddeuawd soniarus Dr Huw Griffiths a Mrs Helen Gibbon, nid y ddeuawd fwyaf enwog yn y byd ond er hynny yn adloniant pur. Yna cafwyd ymgais dda gan Mrs Luned Davies a Mr Gareth Morgan a gorffennwyd y gystadleuaeth gydag ABBA – wir, roedd y wigiau yn ffantastig!

 

Sialens olaf y dydd oedd ‘The  Weakest Link’ ac enillydd y gystadleuaeth a brofodd ei wybodaeth gyffredinol wych oedd Mr Gareth Jones o Lys Hengwrt.

 

Y tîm a enillodd sialens y llysoedd oedd Llwydiarth.

 

Adroddiad gan Gwennan Campbell a Gwenann Davies

Blwyddyn 8.

 

 

 

Nôl i'r dudalen adref