Cwtsh Myrddin
Colofn Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Myrddin
CHWEFROR 2008
![]()
Dewch yn nes! Dewch yn nes i glywed am y jeli a’r cyri, y cwstard a’r mecryll, yr hufen iâ a’r marmeit. Cyfuniad go ryfedd meddech chi. Dyna’r wledd oedd ar blatiau tîm mentrus o staff a disgyblion y chweched dosbarth fel rhan o gystadleuaeth “Her Hunllefus” a gynhaliwyd un pnawn yn neuadd yr ysgol, fel rhan o wythnos Sialens y Llysoedd. Llwyddodd y cystadleuwyr i lyncu bob darn heb orfod rhuthro i’r tŷ bach i gyfogi. Gwelwyd sawl wyneb gwelw yn crwydro’r coridorau'r prynhawn hwnnw.
3..2..1 ac i ffwrdd â’r cynrychiolwyr o’r pedwar llys, rhai yn athrawon a rhai yn ddisgyblion y chweched dosbarth. Y dasg gyntaf yn y gystadleuaeth “Treial Trafferthus” oedd croesi o fat i fat heb gyffwrdd â’r llawr; Tipyn o her! Yna symud ymlaen i geisio gwrthsefyll pedwar disgybl ‘cryf’ o flwyddyn 11. Barna Mr T.Hayes o lys Hengwrt- “Roedd hi’n annheg gan fod y bechgyn wedi penderfynu mynd amdana i, y pedwar ohonynt, gan adael i Mr.W.Evans i wibio heibio yn ddidrafferth fel milgi a’i gynffon ar dân.”Wedi’r helynt yma, rhaid oedd neidio drwy’r cylchoedd cyn rhedeg drwy dîm creulon o ferched a oedd yn eu chwipio wrth redeg i gyrraedd y cônau lliwgar. Wedi cyrraedd y conau yma, roedd yn rhaid iddynt redeg o’u cwmpas yn ofalus. Daeth y treial i ben wrth iddynt redeg o dan y tarpolin melyn i geisio casglu’r sêr cyn mynd nôl i’r man cychwyn er mwyn i rywun arall o’r tîm i wneud yr un daith. Llongyfarchiadau i lys Llwydiarth am fod yn bencampwyr y Treial.
‘Rôl sbri y teialon trafferthus,
bwyta brogaod pwtsh ‘da letis,
Sawl bola yn troi
drws y toiled ‘di cloi
Yn wir dyma ymgyrch lewyrchus.
Y Ras Geiniogau : Casglwyd dros £700 o arian drwy wneud y
ras geiniogau. Roedd aelodau o’r chweched dosbarth yn gosod y ceiniogau a gasglwyd gan y disgyblion ar hyd y cyrtiau tennis i weld pa lys a lwyddodd i gasglu’r mwyaf o geiniogau copr un a dwy geiniog. Peniarth gipiodd y wobr gyntaf gyda Hergest yn dilyn, wedyn Hengwrt gyda Llwydiarth yn gorffen yn y pedwerydd safle. Mae’r arian a gasglwyd yn mynd tuag at elusen o ddewis y gwahanol lysoedd. Llwyddiant ysgubol unwaith eto!
Y Lle Chwech : Mae lolfa’r chweched yn gwtsh diddorol iawn yn ôl rhai o aelodau Cwtsh Myrddin. Darllenwch gerdd gan Manon, Elin Wyn, Gwenan, Swyn a Lois o flwyddyn 12 a baratowyd ar gyfer cystadleuaeth Talwrn yr Adran Gymraeg.
Y Lle Chwech
(neu Lolfa’r Chweched)
Agorwch y drws os mentrwch
darfu arnom ni.Dewch i mewn os meiddiwch
ond dyma’ch rhybudd chi:Croesi’r ffin a fyddwch
i’n hogof ddirgel ni
i’r lle sy’n anniogel
tu hwnt i’ch gorwel chi.Byddaru wnaiff eich clustiau
ar swn yr ipods drud.
Gwyliwch arfau peli
y ffyliaid ar stampid.Cariadon yn y cornel
sy’n labswchan fel ar dân,
yn swsian yn ddigywilydd
ac eraill ar wahân!Ond pan fydd cloch yn canu
am ginio canol dydd
ar ruthr i’r ciw cinio awn
o’n cawell down yn rhydd.Y jyngl mawr direidus
sy’n beryg i blant iau.
Cyfrinach yw ein hogof
pan fydd y drws ar gau.