Cwtsh Myrddin
Mis Chwefror 2009
Colofn Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Myrddin
Llond bws o chwerthin!
Rhwng y 12fed a’r 15fed o Dachwedd, fe gafodd wyth lwcus ohonom gyfle i fynd i wersyll Glan-llyn ar gwrs preswyl. Yno i weithio yr oeddem wrth gwrs , ond er hynny, fe wnaethon ni’n siŵr ein bod yn mynd i fwynhau ein hunain hefyd!
Cyfle i wrando ar ddarlithoedd yn ymwneud â’r cwrs Lefel AS Cymraeg oedd y daith. Fe gawsom ddarlith dda gan y bardd Ceri Wyn Jones, yna ddarlith gan brif arholwr Gramadeg am, wrth gwrs, ramadeg, yna ddarlith am sut i ysgrifennu’n greadigol, a darlith am gyd-destun cymdeithasol y ddrama Siwan. Ond tu allan i’r darlithoedd oedd y sbort!
Ar y prynhawn cyntaf, roedd cyfle yn syth i wneud gweithgaredd ar y llyn. Yna, y noson honno, cynhaliwyd twmpath dawns ar ein cyfer. Fe gawsom hefyd gyfle yn y gwersyll i fowlio deg. Rhwng darlithoedd, roedd Mrs Janet Clement Thomas yn gwneud yn siŵr nad oeddem yn diflasu, ac yn mynd â ni am deithiau bychan o amgylch yr ardal. Ymwelon â Thryweryn, cerflun i goffau Thomas Charles, beddau O.M. Edwards ac Ifan ab Owen Edwards, gan wrando’n eiddgar ar yr hanes i gyd.
Y noson cyn i ni adael roedd y gystadleuaeth holl bwysig - Talwrn y Beirdd. Roeddem wedi cael ein hatgoffa sawl tro gan Dr Jones fod Bro Myrddin wedi ennill y gystadleuaeth ddwy flynedd yn olynol - gan awgrymu bod yna ddisgwyliadau uchel! Yn ein grŵp o wyth, roedd rhaid i ni gyfansoddi cyfres o gerddi o restr o deitlau penodol. Roedd y ffaith ein bod wedi stopio ym Morrisons Aberystwyth am dros awr i berffeithio ein cerddi yn dangos ein bod yn awyddus i ennill y goron driphlyg!
Yn anffodus, ni wnaethom ddychwelyd i Gaerfyrddin yn fuddugol - ond yn ail , wedi colli o drwch blewyn, i Ysgol Plas Mawr. Er hynny, ni ddychwelom yn waglaw. Roedd yna un bardd yn ein plith wedi cystadlu yng nghystadleuaeth y gadair, gan ysgrifennu cerdd yn seiliedig ar y testun “Lleisiau”… a’r bardd yn ein plith… Mair Harries! Enillodd Mair stôl fechan ar ôl ysgrifennu soned benigamp am leisiau’r gorffennol. Dyma flas i chi o un o gyfansoddiadau Mair eleni.
Miriam a Catrina Bl 12
Telyneg: Bro
Ymhell o grŵn diwydiant,
Yn rhydd o fwg y dre’.
Yng ngwyrddni ffres fy nghartref,
Ar fryniau crwn y De.
Mae persawr blodau yn yr aer
A thôn gyfeillgar i bob gair.
Cysgaf i diwn y dylluan
O ddail y goedwig fawr
Mae’r dryw yno i’m deffro
Cyn golau toriad gwawr.
A’r trenau ar draciau’r dyffryn
Yn creu sein-drac fy nghynefin.
I gloch yr eglwys fechan
Traed sy’n straffaglu mynd,
A chyfarch wna pob wreigan,
Pob Sul ei hen, hen ffrind.
Mae rhychau dwfn ar foch pob dyn
Ac olion llafur ar bob un.
Er i rai ddod a gadael
Gwnaf innau yn fy nhro,
Fy enaid ni fyn adael
Fy nhŷ, fy Nef, fy Mro.
Mae gwaed fy nghorff yn ias y pridd
Mae ‘nghalon yno. Yno bydd.
Mair Harries Bl 12
Gwefan bigog!
Mosgito! Pryfyn bach hunllefus sy’n gwneud eich nosweithiau dramor yn boen , neu wefan boblogaidd ar gyfer rhaglen boblogaidd? Wel y wefan fydd yn cael fy sylw i, heb os. Mae gwefan “Mosgito” sy’n cyd rhedeg â’r rhaglen deledu boblogaidd ar S4C yn fan delfrydol i ni, bobl ifanc i hedfan drwy dudalennau ein bywydau gydag ambell glic. Ar ôl diwrnod blinedig o waith yn yr ysgol mae’n wych cael chwilio am wybodaeth ar wefan gyfoes. Gallwn gwrdd â chyfeillion, a hyd yn oed gadael neges neu ofyn ambell gwestiwn i’r cyflwynwyr. Peidiwch â gofidio, fydd neb yno yn barod i wirio eich gwaith gyda beiro goch. Yr oedran darged yw deuddeg i bymtheg oed, gan eu bod yn trafod materion sy’n peri gofid i bobl ifainc megis bwlio neu ddelwedd. Yr hyn sy’n dda yw’r ffaith na fyddwch yn unig wrth syrffio’r wefan gan fod cannoedd o fosgitos bach eraill ar y wefan hon sydd wedi eu denu gan olau llachar tŷ’r Mosgito.
Mae pawb yn eu tro wedi dymuno bod yn seren, wel dyma eich cyfle chi i ddanfon clipiau o luniau atynt. I wneud y wefan hyd yn oed yn fwy cartrefol mae’r rhaglen wedi cael ei lleoli mewn tŷ ac wrth bori trwy’r tudalennau gallwch weld ble mae’r cyfan yn digwydd a gwylio pob dim gyda llygad barcud.
Wrth gwrs mae angen cyflwynwyr ar bob rhaglen a phwy gwell nag Ifan, Erin a Trystan i gloriannu’r cyfan gyda’u personoliaethau bywiog a digri. Beth am gymryd cip o’r wefan hon? Gofalwch na chewch chi eich pigo!
Enlli Bl 8