|
Nod yr Ysgol
Fel ysgol fro, y
mae Bro Myrddin yn cynnig addysg sy'n ceisio ateb anghenion yr unigolyn mewn
awyrgylch cefnogol a hollol Gymreig. Cynigir yr un cyfle i bob disgybl ddatblygu
hyd eithaf ei allu yn academaidd, yn gymdeithasol, yn ddiwylliannol, yn
feddyliol ac yn gorfforol.
Amcanion
-
Creu cymdeithas fyw lle y gwerthfawrogir gwerthoedd moesol ac ysbrydol a lle
y pwysleisir rhinweddau megis cyfiawnder, gonestrwydd, ymddiriedaeth,
goddefarwch ac ymdeimlad o ddyletswydd.
-
Rhoi cyfle i bob disgybl feistroli'r grefft o gyfathrebu drwy'r Gymraeg a'r
Saesneg, gan bwysleisio'r Gymraeg fel iaith naturiol yr ysgol.
-
Cynorthwyo'r disgybl i ddatblygu sgiliau ar gyfer byd gwaith a fydd yn ei
alluogi i weithio fel aelod o dîm ac yn annibynnol.
-
Paratoi pob disgybl i fyw fel aelod cyfrifol a gwerthfawr o'r gymdeithas, i
ddatblygu perthynas gadarnhaol gydag eraill ac i ddatblygu hunan barch a
pharch at bobl, eiddo a'r amgylchedd.
-
Cynorthwyo'r disgybl i werthfawrogi treftadaeth a diwylliant Cymru ac i
fedru cyfrannu at gymdeithas amlieithog yng Nghymru, Ewrop a'r byd.
-
Sicrhau cyfleoedd priodol i holl aeloadau staff yr ysgol i ddatblygu'n
broffesiynol.
-
Wrth geisio
gwireddu'r uchod, pwysleisir y bartneriaeth a'r cydweithio angenrheidiol rhwng
disgyblion, aelodau o staff, rhieni a llywodraethwyr.
|