Nod yr Ysgol

Fel ysgol fro, y mae Bro Myrddin yn cynnig addysg sy'n ceisio ateb anghenion yr unigolyn mewn awyrgylch cefnogol a hollol Gymreig. Cynigir yr un cyfle i bob disgybl ddatblygu hyd eithaf ei allu yn academaidd, yn gymdeithasol, yn ddiwylliannol, yn feddyliol ac yn gorfforol.

Amcanion

  • Creu cymdeithas fyw lle y gwerthfawrogir gwerthoedd moesol ac ysbrydol a lle y pwysleisir rhinweddau megis cyfiawnder, gonestrwydd, ymddiriedaeth, goddefarwch ac ymdeimlad o ddyletswydd.
     

  • Rhoi cyfle i bob disgybl feistroli'r grefft o gyfathrebu drwy'r Gymraeg a'r Saesneg, gan bwysleisio'r Gymraeg fel iaith naturiol yr ysgol.
     

  • Cynorthwyo'r disgybl i ddatblygu sgiliau ar gyfer byd gwaith a fydd yn ei alluogi i weithio fel aelod o dîm ac yn annibynnol.
     

  • Paratoi pob disgybl i fyw fel aelod cyfrifol a gwerthfawr o'r gymdeithas, i ddatblygu perthynas gadarnhaol gydag eraill ac i ddatblygu hunan barch a pharch at bobl, eiddo a'r amgylchedd.
     

  • Cynorthwyo'r disgybl i werthfawrogi treftadaeth a diwylliant Cymru ac i fedru cyfrannu at gymdeithas amlieithog yng Nghymru, Ewrop a'r byd.
     

  • Sicrhau cyfleoedd priodol i holl aeloadau staff yr ysgol i ddatblygu'n broffesiynol.

Wrth geisio gwireddu'r uchod, pwysleisir y bartneriaeth a'r cydweithio angenrheidiol rhwng disgyblion, aelodau o staff, rhieni a llywodraethwyr.

 

 


Cliciwch i ddarllen PROSPECTWS 2009-2010


Llawlyfr y 6ed (2009)
 

 


Trefn y Dydd ym Mro Myrddin

Trefnir yr amserlen ar batrwm o 5 gwers y dydd dros gyfnod o 10 diwrnod.

08.55 ~ 09.05    COFRESTRU
09.05 ~ 09.20    GWASANAETH
09.20 ~ 10.20    GWERS 1
10.20 ~ 10.35    EGWYL
10.35 ~ 11.35    GWERS 2
11.35 ~ 12.35    GWERS 3
12.35 ~ 1.35    CINIO
1.35 ~ 1.40    COFRESTRU
1.40 ~ 2.40    GWERS 4
2.40 ~ 3.35    GWERS 5

Cynhelir gwasanaethau boreol sydd yn Gristnogol eu sylfaen ac yn foesol ac ysbrydol eu pwyslais. Mae gan riant yr hawl i eithrio ei blentyn o'r gwasanaeth trwy gyfeirio llythyr at y Prifathro.

Mae'r disgyblion yn treulio'r egwyl a'r awr ginio ar safle'r ysgol. Ceir dewis eang o fwydydd ar gyfer cinio yn y Ffreutur am gost o £2.00, ac amser egwyl darperir brecwast hefyd yn y Ffreutur. Yn ystod yr awr ginio cynigir amrywiaeth o weithgareddau allgyrsiol. Gellir hefyd mynychu llyfrgell yr ysgol.
 

 


Gwisg Ysgol Blwyddyn 7 - 11

Cyflenwir eitemau o'r wisg yng Nghaerfyrddin gan  :

Claire Adams Schoolwear  

Evans & Wilkins

Owen Sports

Gwisg ysgol yr ysgol

 Mae prisiau cyfredol ar gael ar gais oddi wrth y cyflenwyr swyddogol

               BECHGYN

Crys leilac

Tei swyddogol yr ysgol

Siwmper swyddogol yr ysgol â bathodyn yr ysgol wedi ei wau i mewn iddi. Gwddf V

Trowsus du plaen
(Dim 'jîns' du)

'Sanau llwyd, du neu nefi.

MERCHED

Blows leilac

Tei swyddogol yr ysgol

Siwmper swyddogol yr ysgol â bathodyn yr ysgol wedi ei wau i mewn iddi.
Gwddf V

Sgert ddu blaen, steil pensil, poced â zip, plet yn y cefn, hyd synhwyrol heb fod llawer uwch na'r penglin neu drowsus du, steil clasurol Os na bydd disgybl yn cydymffurfio â'r steil trowsus, bydd yr ysgol yn gofyn iddi brynu'r trowsus cywir neu wisgo sgert.

Teits trwchus / 'sanau 3/4 du yn y Gaeaf, 'Sanau byr gwyn / du yn yr Haf.

 

Esgidiau du plaen - ni chaniateir esgidiau ymarfer.

Cot law / dwffl / cot wedi ei chwyro plaen du, nefi, llwyd, gwyrdd tywyll neu brown tywyll - ni chaniateir cotiau amryliw llachar.

Sgarff ddu blaen

Ffedog wen ar gyfer Technoleg.

RHAID GOSOD ENW AR HOLL EIDDO EICH PLENTYN

NI CHANIATEIR tlysau megis modrwyon, breichledau,
tsaen O GWBL. 

Clustdlysau: CANIATEIR un belen fach gron aur ym mhob clust. Awgrymwn y dylid tyllu clustiau ar ddechrau gwyliau'r haf yn unig. Rhaid tynnu'r tlysau ar gyfer chwaraeon ac ymarfer corff. Anodd gwneud hyn os yw'r clustiau newydd eu tyllu. 

GWALLT: dylai unrhyw addurn gwallt gydymffurfio â lliwiau'r ysgol sef leilac, llwyd neu ddu.

DILLAD YMARFER CORFF

MERCHED

Siorts byr du; crys 'polo' emrallt; esgidiau ymarfer (trainers) cadarn; esgidiau hoci (pêl-droed); sanau byr gwyn i wisgo gydag esgidiau ymarfer; padiau crimog; gorchudd dannedd.

BECHGYN

Fest athletau swyddogol yr ysgol (emrallt gyda streipen ddu a marŵn); siorts byr du cotwm; crys rygbi swyddogol yr ysgol; 'sanau rygbi (du / marŵn); 'sanau byr gwyn; esgidiau ymarfer cadarn (trainers); esgidiau rygbi/ pêl-droed; padiau crimog/ gorchudd dannedd.

Pan fydd y tywydd yn oer neu yn arw, neu pan fydd gweithgareddau allgyrsiol, caniateir i'r disgyblion wisgo'r dillad dewisol canlynol: Fleece ddu swyddogol yr ysgol; menyg du gwlân/ het ddu wlân swyddogol yr ysgol/cot law ysgafn ddu swyddogol yr ysgol; trowsus tracwisg du swyddogol yr ysgol/ top ymarfer du swyddogol yr ysgol/ top ymarfer du swyddogol yr ysgol; het bêl-fâs emrallt swyddogol yr ysgol (pan yw'n heulog).

Bydd disgwyl i ddisgyblion newid i wisg Ymarfer Corff/Chwaraeon yn ystod pob gwers Ymarfer Corff/Chwaraeon, hyd yn oed os oes ganddynt lythyron i'w hesgusodi o weithgareddau'r wers.

 

 


Gofal Bugeiliol

Mae'r trefniadau bugeiliol yn bennaf yn nwylo Penaethiaid Blwyddyn blynyddoedd 7,8,9,10 ac 11 a Chyfarwyddwr ac Is-gyfarwyddwr Astudiaethau’r Chweched Dosbarth. Dyma’r athrawon ynghyd â’u cyfrifoldebau:

Miss Rhiannon Hammond - Bl. 7   

Mrs. Marlene Jones - Bl. 8

Mr Philip Howells - Bl. 9

Mrs Erica Jones - Bl. 10

Mr Chris James - Bl. 11
(Mae Penaethiaid Bl.10 a Bl.11 yn cyfnewid yn flynyddol)

Mr. Tim Hayes - Cyfarwyddwr Astudiaethau’r Chweched Dosbarth
Mrs. Lowri Davies - Is-gyfarwyddwr Astudiaethau’r Chweched Dosbarth

Trwy gysylltu'n agos â'r athrawon dosbarth a phwnc mae modd cadw golwg agos ar anghenion a lles pob disgybl. Cysylltir â rhieni yn uniongyrchol os oes problemau'n codi.
 

 


Cwestiynau am Drefniadau'r Cwricwlwm

Blwyddyn 7,8 a 9 : Cyfnod Allweddol 3

Beth yw trefn y dosbarthiadau ym Mlwyddyn 7?

Mae pum dosbarth gallu cymysg fel arfer ym Mlwyddyn 7 ond os yw'r nifer sy'n trosglwyddo o'r ysgolion cynradd yn uchel, ffurfir chwe dosbarth. Gwneir pob ymdrech i gadw ffrindiau gyda'i gilydd wrth drefnu'r dosbarthiadau. Disgwylir i bob disgybl sicrhau bod ganddo lyfr darllen addas wrth law bob amser.

Ydy'r dosbarthiadau'n newid  ym Mlwyddyn 8 a 9?

Mae'r dosbarthiadau yn aros gyda'i gilydd fel dosbarth cofrestru trwy gydol yr ysgol. Bydd yr adrannau yn dosbarthu'r disgyblion mewn grwpiau dysgu yn ôl polisi'r adran.

Pa fath o ddulliau dysgu a ddefnyddir?

Mae amrywiaeth eang o ddulliau dysgu yn cael ei defnyddio yn ôl anghenion pwnc a'r grŵp dysgu penodol. Ceir defnydd o waith ymchwil, llafar, gwrando, technoleg gwybodaeth ac wrth gwrs gwaith ymarferol gyda'r athrawon yn symud o ddysgu dosbarth cyfan i drefnu gwaith grŵp ar lefelau gwahanol a rhoi sylw i unigolion o alluoedd amrywiol.

Pa bynciau sy'n cael eu hastudio?

Mae pob disgybl yn astudio Cymraeg, Saesneg, Mathemateg, Gwyddoniaeth, Technoleg, Technoleg Gwybodaeth, Ffrangeg, Hanes, Daearyddiaeth, Astudiaethau Crefyddol, Drama, Cerddoriaeth, Celf ac Addysg Gorfforol. Cyflwynir Technoleg Gwybodaeth i ddisgyblion ym Mlwyddyn 7 mewn gwersi ffurfiol. O flwyddyn 9 ymlaen gwneir defnydd o Technoleg Gwybodaeth ar draws y cwricwlwm. Mae un wers y pythefnos yn cael ei neilltuo ar gyfer cwrs Addysg Bersonol a Chymdeithasol sy'n cynnwys unedau o waith addysg iechyd a sgiliau astudio.

Beth os oes anghenion dysgu arbennig gan ddisgybl?

Darperir addysg arbennig ar gyfer disgyblion sydd yn cael trafferth gyda'r elfennau sylfaenol o ddarllen a rhifo. Gwneir hyn ar sail profion safonol ac adroddiadau a dderbynir gan swyddogion yr awdurdod addysg a phrifathrawon yr ysgolion cynradd ac ar ôl trafod gyda rhieni unigol.

Mae Cyd-Cysylltydd A. A. A. yr ysgol yn gyfrifol am gynllunio a chydlynu'r ddarpariaeth i'r disgyblion ag anghenion addysgol arbennig, a threfnu gwaith y staff cynorthwyol. Adolygir y datganiadau yn flynyddol, mewn cyfarfod a drefnir gyda'r rhieni unigol, a'r gwasanaethau cynnal sirol yn ystod tymor yr haf.
 

 


Blwyddyn 10 ac 11 : Cyfnod Allweddol 4

Beth sydd yn digwydd ar ddiwedd Bl. 9?

Mae'r disgyblion yn dewis pynciau ar gyfer Blwyddyn 10 ac 11. Mae'r un dewis llawn yn agored i fechgyn ac i ferched. Mae pob disgybl yn dilyn cwrs craidd sy’n cynnwys Gymraeg, Saesneg, Mathemateg, Gwyddoniaeth i lefel arholiad allanol. Mae pob disgybl hefyd yn dilyn cyrsiau di-arholiad mewn Addysg Gorfforol ac Addysg Bersonol a Chymdeithasol sydd yn cynnwys Addysg Iechyd, Gyrfaoedd a Phrofiad Gwaith. Mae gan riant yr hawl i eithrio ei blentyn o wersi Addysg Grefyddol ac Addysg Ryw trwy gyfeirio cais ar ffurf llythyr at y Prifathro. Mae pob disgybl ym mlwyddyn 10 yn dilyn cwrs TGAU Byr Addysg Grefyddol.

Beth sydd yn y cwrs Addysg Iechyd?

Mae'r cwrs yma'n cynnwys gwersi ar barch a pherthynas, cenhedlu ac atal cenhedlu, a chlefydau rhyw-gysylltiol ac AIDS, camdrin cyffuriau ac alcohol. Ceir cymorth arbenigwyr iechyd sydd yn trefnu diwrnod ABCh (Addysg Bersonol a Chymdeithasol) ar gyfer Bl. 10 a threfnir gwersi eraill ar ffurf trafodaeth dan arweiniad athrawon profiadol.

Pa arholiadau allanol a gynigir?

Cynigir naill ai'r Dystysgrif Gyffredinol Addysg Uwchrdd (TGAU) neu'r Dystysgrif Cyflawniad Addysgol.

Pa ddewisiadau sydd ar gael yn ychwanegol at y cyrsiau gorfodol?

Mae dewis o dri chwrs arholiad pellach yn arwain naill ai at TGAU neu Tystysgrif Cyflawniad Addysgol. Dyma yw'r dewis pynciau ar gyfer disgyblion Bl. 10 eleni (2001-2002) ond nid oes sicrwydd beth fydd y patrwm yn y dyfodol.

  Colofn 1 Colofn 2 Colofn 3
Tystysgrif Cyflawniad Addysgol   Sgiliau Byw  
TGAU Addysg Gorfforol Almaeneg Addysg Gorfforol
  Celf Ast. Busnes Ast. Crefyddol
  Cerddoriaeth Drama Ast. Busnes
  Daearyddiaeth Ffrangeg Celf
  Dylunio a Thechnoleg

(Opsiwn 1)

Hanes Daearyddiaeth
  Dylunio a Thechnoleg

(Opsiwn 3)

Dylunio a Thechnoleg

(Opsiwn 1)

Iechyd a Gofal Cymdeithasol
  Gwyddor Tŷ Sgiliau Byw Ffrangeg
  Hanes Technoleg Gwybodaeth  

Pa fwrdd arholi a ddefnyddir?

Mae’r rhan fwyaf helaeth o’r cyrsiau TGAU a phob cwrs tystysgrif Cyflawniad Addysgol yn dilyn meysydd llafur ac arholiadau Cyd-bwyllgor Addysg Cymru, gyda’r disgyblion yn sefyll y cyfuniad o bapurau arholiad mwyaf addas ar gyfer eu gallu ym mhob pwnc unigol.

 Cofnodion Cyrhaeddiad

Pwrpas y Cofnodion Cyrhaeddiad yw cofnodi datblygiad disgybl drwy gydol ei yrfa ysgol yn academaidd ac yn allgyrsiol. Cyflwynir Cofnod o Gyrhaeddiad i bob disgybl ar ddiwedd Bl.11 ac ar ddiwedd y Chweched Dosbarth.

 

 

 
Polisi Gwaith Cartref

Mae gwaith cartref yn rhan bwysig o gwrs addysg pob adran yn yr ysgol ac yn orfodol i bob disgybl. Trefnir amserlen gwaith cartref ar gyfer pob dosbarth a chofnodir y gwaith gan y disgyblion yn y Dyddiadur Gwaith Cartref yn ddyddiol. Mae'r dyddiadur yn ddolen gyswllt bwysig rhwng yr ysgol a rhieni. Disgwylir i'r dyddiadur gael ei lofnodi gan athrawon dosbarth ac yn wythnosol gan rieni.
 

 


AMSERLEN NOSWEITHIAU RHIENI

Blwyddyn 7 - Chwefror

Blwyddyn 8 - Mawrth

Blwyddyn 9 - Mawrth

Blwyddyn 10 - Chwefror

Blwyddyn 11eg - Tachwedd

Blwyddyn 12 - Ionawr

Blwyddyn 13eg - Rhagfyr