Y Prifathro
Mr Dorian Williams

Y Prifathro - Mr Dorian WilliamsCyfarchion cynnes iawn i chi, a chroeso i dudalennau gwefan Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Myrddin. Ysgol uwchradd sy'n dysgu'r mwyafrif helaeth o bynciau trwy gyfrwng y Gymraeg yw Bro Myrddin. Daw'r disgyblion atom o dref hynafol Caerfyrddin ac o ardaloedd cefn gwlad prydferth ochr orllewinol a gogleddol y Sir.

Ymfalchïwn yn safonau academaidd cyson uchel yr ysgol, ac mae ystod eang o weithgareddau allgyrsiol hefyd yn hynod o bwysig inni, gyda disgyblion yn profi llwyddiant mewn amrywiol feysydd. Mae cyfrannu at ddiwylliant Cymreig a Chymraeg trwy weithgareddau'r Urdd a'r Eisteddfod Genedlaethol yn allweddol bwysig, fel mae ein cyfraniad i'r gymuned leol, trwy waith elusennol y Chweched Dosbarth, cynlluniau Deall Diwydiant, ac amryw gysylltiadau eraill.

Darllenwch ymlaen am ragor o wybodaeth, ac er mwyn cael rhyw flas ar fwrlwm yr ysgol.

Mr Dorian Williams
Y Prifathro

 

 

Nôl i'r dudalen adref