Cerddoriaeth

Croeso i dudalen yr adran 

 
Ymarferion y Sioe Gerdd 2010 
- "Y garreg ar y clôs"







 
Ymarferion y Sioe Gerdd 2009 
- "Cinio am ddau"





 
 

Gweithdy Cerdd: Adroddiad gan Georgina Edwards Bl 13
Ar y 23ain o Hydref aethom ni, ddisgyblion Cerdd Blwyddyn 10 i 13,  i adeilad newydd Ysgol Y Frenhines Elisabeth, i fynychu gweithdy cyfansoddi a gynhaliwyd ar gyfer ysgolion uwchradd y Sir. Ar ôl rhagair byr gan Emyr Wyn Jones, cyflwynwyd ensemble preswyl y tair sir ar gyfer eleni, sef Oliver Cox ac Owen Gunnell, pâr o’r enw ‘O Duo Percussion’. Fel mae’r enw yn awgrymu offerynnau taro oedd arbenigedd y ddau. Cawsom gyflwyniad ganddynt gan nifer o wahanol offerynnau taro yr oeddynt yn medru chwarae, yn amrywio o ddrymiau i symbalau, ac o seiloffon i driongl. Dangosodd y ddau ffurfiau anarferol o chwarae’r offerynnau e.e. crafu bwa sielo yn erbyn symbal i greu sŵn gwichlyd. Roedd y pâr yn dalentog tu hwnt ac fe ddangoswyd hyn pan oeddynt yn chwarae darnau lle'r oedd mwy nag un rhan, ac felly ar adegau roeddynt yn chwarae sawl offeryn ar yr un pryd. Bwriad y gweithdy oedd cyflwyno’r ensemble a sbarduno disgyblion cerdd i gyfansoddi ar gyfer yr ensemble yn y gystadleuaeth flynyddol Cyfansoddwr Ifanc Dyfed. Roedd hi’n fore diddorol a llwyddiannus ac rwy’n sicr fod pawb wedi mwynhau.

 

Noson Offerynnol: 
Cynhelir Noson Offerynnol gan Adran Gerdd Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Myrddin ar Nos Fercher, Gorffennaf 1af 2009 am 7 o’r gloch yr hwyr.  Bydd cyfle i glywed amrywiol ensembles offerynnol yr ysgol. Pris mynediad fydd £6 i oedolion a phris consesiwn yn £4.  Mae’r pris mynediad yn cynnwys lluniaeth ysgafn. Dyma gyfle i fwynhau talentau rhyfeddol y bobl ifanc yma cyn diwedd tymor.




 

Nôl i'r dudalen adrannol