Llwyddiannau a Champau’r disgyblion
Campau’r disgyblion Medi i Ragfyr 2009
Athletau: Braf yw llongyfarch y canlynol ar eu llwyddiant ym Mhencampwriaeth Cenedlaethol Athletau Ysgolion Cymru:
Rhoon James, Blwyddyn 12- cyntaf yn y shot a’r ddisgen; Glen Elsdon, Blwyddyn 12- ail yn y naid hir a thrydydd yn y 400m; Elliw James, 10-6 - ail yn y morthwyl; Dafydd Williams, Blwyddyn 13 - ail yn y naid driphlyg; Rhiannon Plant, 11-3 - ail yn y naid uchel, Ronan Llyr, 10-3 - trydydd yn y 1500m; Ffion Rees, Blwyddyn 12 - pedwerydd yn y naid hir; Bethan Phillips, Blwyddyn 10- trydydd yn y tim cyfnewid 4 x 100m a Jonathan Gardiner, - seithfed yn y shot.
Carati: Bu Catrin Mair Davies o flwyddyn 11, yn cystadlu yn y gystadleuaeth ‘UK School Games in Wales’ am dridiau ym mis Medi.
Polo Dŵr: Bu Daniel Jones o’r chweched yn ddigon ffodus o gael y cyfle i fynd ar daith gyda thîm Polo Dŵr Prydain i Istanbul, Twrci. Chwaraewyd pum gem ar y daith dros gyfnod o bum niwrnod. Cafwyd buddugoliaethau campus yn erbyn yr Wcráin a Thwrci B ond profodd gemau’r Almaen, Ffrainc a Thwrci A yn anoddach. Er hyn, dywedodd Daniel fod y profiad wedi bod yn un gwerthfawr iawn iddo ef a’r tîm. Llongyfarchiadau mawr iddo ef.
Canlyniadau Rygbi –
Bro Myrddin v Pantycelyn : Nos Fercher, 16eg o Fedi
Bl 8 – B M 46, Pant 10
Bl 10 – B M 47, Pant 19
Tregwyr v Bro Myrddin - Ar fore Sadwrn 12fed o Fedi, ar gaeau Ysgol Tregwyr, enillodd tîm Rygbi Cynta’r Ysgol gêm galed. Er gwaetha’r tywydd braf ni chafwyd llawer o geisiau, gydag amddiffyn y ddau dîm yn gadarn. Sgôr terfynol y gêm oedd Tregwyr 6 - Bro Myrddin 15. Mae pethau’n argoeli’n dda ar gyfer y tymor newydd.
Bro Myrddin v Strade - Ar fore Sadwrn 19eg o Fedi cafwyd buddugoliaeth arall i dîm Rygbi Cynta’r Ysgol yng nghynghrair Ysgolion Cymru dan 18, yn erbyn Ysgol Y Strade. Gêm ddwys a chyffrous ydoedd gyda thorf gref o gefnogwyr yn mwynhau gwylio’r rygbi. Dim ond 3 phwynt oedd ynddi ar yr hanner, ond ar ôl cyfnod o ddeng munud o bwyso ar ddiwedd y gêm yn nwy ar hugain y Strade, y sgôr terfynol oedd 16 -14 i Fro Myddin, gyda’r pwyntiau’n dod o droed y maswr, Gareth Thomas ac o gais Dafydd Williams.
Pencampwriaeth Nofio : Llongyfarchiadau mawr i Hannah Reynolds o flwyddyn 9 ar ennill dwy fedal aur ym Mhencampwriaeth Nofio Agored Cymru ym mis Awst, un am y 100 medr rhydd a’r llall am y 200 medr rhydd.
Llongyfarchiadau hefyd i Beth Jones o flwyddyn 9 a oedd yn y tîm cyfnewid gyda Hannah.
Llwyddiant Hanner Marathon
Llongyfarchiadau mawr i Mrs Tracy Jenkins am gymryd rhan mewn hanner marathon yng Nghaerdydd ar ddydd Sul, 16eg o Hydref. Braf yw cyhoeddi bod Mrs. Jenkins wedi codi dros £600 tuag at yr elusen Ffagl Gobaith.
Canlyniadau Chwaraeon - Gemau nos Fercher 30ain o Fedi
Bro Myrddin v QEHS
Hoci
Bl 10
B M - 1 QEHS- 4
Tîm cyntaf
B M- 0 QEHS- 0
Pêl Rwyd
Bl 8
B M- 7 QEHS- 9
Bl 9
B M- 10 QEHS- 6
Bl 10
B M- 13 QEHS- 12
Bl 12 a 13
B M- 8 QEHS- 15
Canlyniadau Rygbi – Gemau nos Iau 8fed o Hydref
Bl 8
Dyffryn Tâf 14 Bro Myrddin 17
Bl 9
Dyffryn Tâf 0 Bro Myrddin 43
LlongyfarchiadauLlongyfarchiadau i Alun Howells ar ennill ei gap cyntaf i dîm Rygbi’r Gynghrair Cymru dan 18 yn erbyn yr Alban a Lloegr. Canlyniadau'r gemau oedd :-
Cymru 34 - Alban 6Cymru 32 - Lloegr 25
Fel rydych siŵr o fod yn gwybod, mae Alun yn brif fachgen a hefyd yn gapten ar dîm Rygbi 1af yr ysgol.
Pencampwriaeth Nofio Brianne
Llongyfarchiadau i’r canlynol am eu llwyddiant ym mhencampwriaeth nofio Brianne. Maent yn mynd ymlaen i gynrychioli Brianne ym mhencampwriaeth Dyfed:-
Hannah Davies Bl7
James Jones Bl8
Daniel Reynolds Bl 8
Lewis Jones Bl9
Steffan Williams Bl9
Rhys Meredith Bl9
Beth Jones Bl9
Charlotte Tucker Bl10
Daniel Jones Bl 12
Rhys Evans Bl 12
Canlyniadau rygbi:
Maes yr Yrfa - Nos Fawrth 3ydd o Dachwedd.
Bl .7 MYY 32 BM 27
Nos Fercher 4ydd o Dachwedd
BL.9 BM 22 MYY 0
BL.10 BM 45 MYY 17
Tregib - Dydd Mercher 11eg o Dachwedd
Bl 7 BM 34 – Tregib 5
Bl 8 BM 36 – Tregib 10
Pêl-rwyd
GWENDRAETH - Nos Fawrth y 6ed o Dachwedd
BL.8- ennill 7-3
BL.10-ennill 15-3
BL.11-ennill 10-4
DYFFRYN TAF - Nos Fawrth y 13 o Dachwedd
Bl7.Colli 5-20
Bl.8 Colli 6-13
Bl.9 Ennill 12-8
Bl.10 Ennill 18 – 5
Bl. 12 / 13 Colli 7-9
Hoci
DYFFRYN TAF - Nos Fawrth y 13 o Dachwedd
Bl.10 Ennill 2-0
Bl. 12 / 13 Colli 0-2
PICTON yn y dŵr
Mae Daniel Picton Jones, disgybl yn y chweched wedi bod yn chwarae polo dwr ers yn saith mlwydd oed. Mae o wedi bod yn llwyddiannus iawn dros y blynyddoedd wrth fod yn aelod o dîm polo Caerfyrddin, Cymru a’r Deyrnas Unedig erbyn hyn. Yn gynharach eleni fe gafodd Daniel ei gap cyntaf dros y Deyrnas unedig wrth chwarae mewn twrnament yn Twrci yn erbyn Ffrainc, Wcrain, Twrci tîm A a B a’r Almaen. Ar ddiwedd y twrnament llwyddodd y tim i ddod yn bedwaredd allan o chwech.
Ar y 3ydd o Ragfyr mae Daniel yn mynd i geisio cael mwy o lwyddiant wrth fynd allan i Wlad Pwyl i chwarae yn erbyn clybiau dros Ewrop gyda gweddill tim y Deyrnas Unedig.
Canlyniadau Chwaraeon
Bro Myrddin v Dyffryn Amman
Bl 8 Rygbi - 72 i 0 (ennill)
Bl 10 Rygbi - 33 i 17 (colli)
Bl 11 pêl-droed – 1 i 1 (cyfartal)
Rola Hoci
Llongyfarchiadau i Aron Hughes o flwyddyn 8 ar ennill twrnament rola hoci dros Gymru yn Rotherham yn ddiweddar.
Nofio
Llongyfarchiadau i Hannah Reynolds blwyddyn 9 fu’n cystadlu yn y “British Gas Winter Nationals” yn Abertawe. Cafodd dwy fedal efydd yn y 100m a’r 200m cefn.
Llongyfarchiadau i’r nofwyr canlynol, Steffan William, Lewis Jones, Rhys Evans, Daniel Jones a Beth Jones ar gael ei dewis i gynrychioli Dyfed yn y bencampwriaeth Sirol sy’n cael ei gynnal ar Ddydd Gwener y 29ain o Ionawr 2010 yn Aberhonddu.