Bwletin Bro
Diwrnod Y Bwletin Ysgol - Dydd Iau 24-3-2011


Cyfarchion!
Croeso i dudalen Bwletin Bro. Yn ystod yr wythnosau diwethaf mae criw ohonom o flwyddyn 9 Ysgol Bro Myrddin wedi bod yn gweithio ar gynllun cyffrous newydd gyda’r Adran Gymraeg a’r BBC. Ein bwriad wrth ddilyn prosiect Adroddiadau Ysgol y BBC yw derbyn hyfforddiant ar sgiliau newyddiaduraeth ac i gael cipolwg ar fywyd tu ôl i’r llen yn stiwdios newyddion y BBC. Trwy ddulliau fideo-gynadledda fe fyddwn yn sgwrsio gyda Sian Lloyd a Huw Edwards, newyddiadurwyr a darlledwyr adnabyddus a phrofiadol. 

Cyfle gwych felly i feithrin a datblygu sgiliau newydd a chyfoes.

Cydiwch yn eich camerâu! Dewch gyda ni ar ein siwrne i gasglu gwybodaeth a darluniau ar gyfer ein stori fawr!


Dewch i gwrdd â’r tîm!

Nia (Gohebydd), Niamh (Ymchwilydd), Jessica (Ymchwilydd),

Megan (Ymchwilydd), Gwennan (Gohebydd), 

Siwan (Gohebydd) a Ffion (Ymchwilydd)



O dan y chwyddwydr


Y Cynllun Casetiau Cymraeg



Fideo - Newyddion Bwletin Bro

Sain yn unig - Newyddion Bwletin Bro (MP3)


 


Llun o’r criw yn ystafell recordio Swyddfa Papur Llafar y Deillion
(
Ffion yn absennol o’r llun










Sut brofiad?

Profiad hwylus.  Cyfle gwych i gwrdd â phobl  newydd.

Siwan

Mae’r holl brofiadau wedi bod yn gret.  Rwyf wedi mwynhau sgwrsio gyda Miss Rhian Evans.

Gwennan 

Roedd ffilmio’r cyfan yn ddiddorol ac yn ddoniol.

Megan

  
 
Mae cwrdd  â phobl allan yn y gymuned a dysgu am wasanaethau amrywiol wedi bod yn gyffrous.

Nia

Rydw i wedi cael blas ar y broses o chwilio am wybodaeth a chasglu deunydd ar gyfer ysgrifennu adroddiad.

Ffion

 

Rydw i wedi mwynhau cael y cyfle i deithio i adeilad penodol a holi cwestiynau perthnasol i bobl arbennig iawn.

Niamh

Cefais lawer o hwyl yn gweithio fel tim yn  ogystal 
â chael y cyfle i gwrdd ag eraill.

Jessica


DIOLCH AM Y CYFLE!

 



Safwe'r ysgol

Safwe'r BBC

 

Diwrnod Y Bwletin Ysgol - Dydd Iau 24-3-2011