![]()
|
|
![]()
Fel rhan o gwrs astudiaeth Blwyddyn 7 fe aeth cant a hanner o ddisgyblion ar ymweliad â Gwersyll Rhif 70 yn Henllan ger Castell Newydd Emlyn. Prif nod y daith oedd deall yn well sut adeiladwyd Eglwys y Galon Gysegredig gan y carcharorion rhyfel o’r Eidal ac, yn fwyaf arbennig, eu rhesymau dros wneud hynny.
Cawsant groeso arbennig gan Mr James Thomson a fu’n tywys y disgyblion o amgylch y gwersyll a Mr John Meirion Jones a fu mor ddeheuig yn disgrifio sut yr oedd yr artist Mario Ferlito wedi peintio’r llun o’r swper Olaf uwch ben yr allor gyda’r lliwiau a gynhyrchwyd o growns te a choffi, llysiau a ffrwythau a gasglwyd gan y carcharorion rhyfel yn ystod eu horiau gwaith ar y ffermydd cyfagos.
Roedd y disgyblion yn gegrwth wrth iddynt glywed am sut y gwnaed y canhwyllbrennau a’r colofnau o duniau corn bîff a sut yr oedd yr artist wedi gwneud i’r colofnau edrych fel marmor gyda’i frws paent. Roedd y cyfan yn ein hatgoffa pa mor greadigol y mae dyn yn medru bod o dan amodau fel hyn. Bu farw Mario Ferlito ar ddechrau mis Mai eleni ond fe saif yr eglwys fechan yn Henllan yn gofeb barhaol o’i ddawn gelfyddydol.
Roedd y disgyblion a’r athrawon wedi rhyfeddu wrth sylweddoli bod y llecyn hwn yn dal trysor a adeiladwyd chwe deg mlynedd yn ôl yn sgîl yr Ail Rhyfel Byd. Roedd gwaith y dosbarth yn sicr wedi ei atgyfnerthu gan y daith arbennig hon.
![]()