Newyddion Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Myrddin

 

Llond bws o chwerthin:
      Adroddiad gan Leisa Fflur Bl 12
 

Yn gynnar fore Llun, 30ain o Fehefin, aeth criw Cymraeg y chweched dosbarth ar daith i Ogledd Cymru.  Gyda Dr Jones yn barod yn y sedd yrru dyma ddechrau ar ein taith. Wedi tua awr a hanner yn y bws cyrhaeddom Lyfrgell Genedlaethol Cymru yn Aberystwyth lle clywsom lawer o ffeithiau diddorol gan ein tywysydd. Corris oedd yr ymweliad nesaf  ac wedi i ni lenwi ein boliau  cawsom ein tywys gan fynach o amgylch yr ogof a chlywed hanes arwrol y Brenin Arthur. Er i sawl un ohonom neidio gydag ofn yn nhywyllwch yr ogof roedd hwn yn sicr yn brofiad bythgofiadwy. Ymlaen â’r criw i Drawsfynydd ac i gartref Hedd Wyn; dyma’r uchafbwynt i mi. Daeth dagrau i lygaid y rhan fwyaf ohonom wrth wrando ar Mr Williams yn adrodd yr hanes. Roedd yr Ysgwrn  yn anhygoel a’r hanes yn glir ar y muriau. Pan glywsom ni Dr Jones yn dweud “bant â ni”  doedd neb am adael, ond rhaid oedd  anelu am Nant Gwrtheyrn ac i gludwch ein gwelyau. 

Fore Dydd Mawrth, ar ôl llond platiaid o facwn ac wy rhaid oedd gadael golygfeydd y Nant a throi tuag at Abergwyngregyn. Diddorol iawn oedd gweld Garth Celyn, plasty  Llywelyn a Siwan, ac am ein bod ni wedi astudio’r ddrama “Siwan” fel rhan o’n cwrs AS roedd yr ymweliad yma yn un arbennig iawn.  Mor drist oedd gwrando ar yr hanes unwaith eto, ac wrth sefyll yn y twr fe ddaeth yr holl hanes yn fyw. Erbyn gadael cartref Llywelyn roedd pawb wedi blino’n lân ac felly dim ond un ymweliad arall oedd ar ôl sef gweld arch Siwan. Daeth yr amser i ffarwelio â Dr. Jones a Mrs. Evans. Diolch o galon iddynt am brofiadau bythgofiadwy!