Newyddion Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Myrddin
Bwrlwm yr Adran Gerdd:
Ar ddydd Mercher yr 2il o Fawrth, cynhaliwyd taith flynyddol yr adran i Lundain, eleni er mwyn gweld perfformiad o’r sioe gerdd “Wicked”. Er i’r ddau llond fws o ddisgyblion deithio am bum awr cyn cyrraedd canol Llundain, llwyddodd yr amser i hedfan, yn bennaf oherwydd y cyffro oedd yn frith yn ein mysg. Treuliom ychydig o amser ar ôl cyrraedd y ddinas yn pori trwy farchnad Covent Garden, lle na lwyddodd y tywydd rhewllyd i amharu ar ein hwyliau llawen. Roedd yma rywbeth at ddant pawb, o’r siopau cadwyn cyfarwydd i stondinau bychain unigryw, ac erbyn i ni gyrraedd theatr yr Apollo Victoria, roedd waledi’r mwyafrif gryn dipyn yn ysgafnach nac oeddent ym maes parcio Halfords ychydig oriau ynghynt. Erbyn i ni gyrraedd y theatr, roedd gennym ddisgwyliadau aruchel o’r perfformiad, a braf yw medru nodi na chawsom ein siomi o gwbl. Roedd crwydro o amgylch y theatr yn brofiad yn ei hun, gyda’r cyntedd wedi ei fathu mewn golau gwyrdd llachar, a stondinau yma ac acw yn gwerthu cofroddion oedd yn ymwneud â’r sioe. Y rhyfeddod pennaf wrth gwrs, oedd y perfformiad, sef holl bwrpas ein hymweliad â Llundain. Nid gor-ddweud byddai honni bod pob agwedd o’r cynhyrchiad wedi ei saernïo’n berffaith; y set, y gwisgoedd, y gerddorfa a pherfformiadau’r actorion. Rhaid estyn canmoliaeth i’r prif actorion, nid yn unig am iddynt bortreadu cymeriad yn gwbl gredadwy, ond hefyd am ein gwefreiddio gyda’u canu, oedd ar adegau yn iasol. Yn wir, fe wnaeth y cynhyrchiad ragori’n llwyr ar ein disgwyliadau. Roedd y diwrnod yn un bythgofiadwy, ac yn brofiad y byddwn yn gwbl awyddus i’w ailadrodd. Y cwestiwn sydd ar enau pawb nawr yw, a fydd unrhyw ffordd i ragori ar y daith anhygoel hon y flwyddyn nesaf? lur Rhys Bl 13