Ymweliad Techniquest:   Treuliodd rhai o ddisgyblion blwyddyn deg ddiwrnod yng nghwmni  cynrychiolwyr o’r ganolfan Techniquest yn ddiweddar.  Cawsant y profiad  o dreialu deunydd newydd a baratowyd ar gyfer disgyblion TGAU.  Bu’r  criw yn gwylio DVD a oedd yn canolbwyntio ar sut y cynlluniwyd adeilad y  Cynulliad .  Trafodwyd hefyd  yr amryw ddefnyddiau sy’n cael eu  defnyddio i adeiladu tai.   Yn eu grwpiau roedd yn rhaid i’r disgyblion  bwyso a mesur  y costau yn ogystal â’r effaith ar yr amgylchedd, cyn dod  i benderfyniad pa ddefnyddiau oedd orau.  Cafwyd cyflwyniadau diddorol  iawn gan bawb cyn terfynu.   Bu tîm Eifion Evans, Marco Lewis, Thomas  Evans, Chris Blandford a Craig Tidey yn fuddugol yn y bore a thîm Emyr  Morris, Rhys Evans, Luke Davies a James Williams yn fuddugol yn y  prynhawn.  Llongyfarchiadau mawr iddynt!

Mosgito:
Camerâu  di-ri a chyflwynwyr bywiog.  Dyma’r hyn oedd i’w weld ar hyd goridorau’r  ysgol yr wythnos ddiwethaf.  Treuliodd Y BBC a chriw’r rhaglen deledu  “Mosgito” ddiwrnod yn yr ysgol yng nghwmni’r Adran Gelf a  disgyblion  blwyddyn wyth. Yn dilyn trafodaethau difyr gan y cyflwynwyr eu tasg oedd  i gynllunio  logo newydd ar gyfer y rhaglen hon.  Yn ogystal cafodd  blwyddyn saith y cyfle i ymweld â Bws y BBC ac  i sgwrsio gyda rhai o  weithwyr S4C.  

 Y Naid Uchel  Llongyfarchiadau mawr i Rhiannon Plant  o flwyddyn naw am ddod yn gyntaf  yng Nghymru yn y naid uchel, ac i Dafydd Williams o flwyddyn unarddeg am  ennill y naid hir a’r naid driphlyg.

 Athletau  Dewiswyd Ffion Rees, Rheon James a Jonathan Gardiner o flwyddyn deg i  gynrychioli Cymru  mewn athletau yn y Gemau Celtaidd yng Nghaerdydd ar y  trydydd o Chwefror. 

 Nofio:   Bu Hannah Rynolds, Beth Jones a Megan Jones yn nofio ym Mhwll Nofio  Cenedlaethol Cymru Abertawe yn rownd derfynol Cystadleuaeth Nofio’r Urdd  yn ddiweddar.  Llongyfarchiadau mawr iddynt oll !

 Dathlu Santes Dwynwen:  Roedd Dydd Gwener y pumed ar hugain o Ionawr yn  ddiwrnod arbennig i nifer o ddisgyblion Bro Myrddin.  Diwrnod Santes  Dwynwen oedd hi, wrth gwrs ac aethpwyd ati i ddathlu’r achlysur  mewn  steil.  O dan arweiniad y chweched dosbarth trefnwyd diwrnod gwisg ein  hunain gyda’r lliw coch yn thema. Cynhaliwyd gweithgareddau amrywiol yn  ystod y dydd megis cystadleuaeth Sion a Sian yn ystod yr awr ginio, a  chyfle i brynu rhosyn neu bennill cariadus i berson arbennig.  Cafodd  sawl disgybl syrpreis bach neis pan ddosbarthwyd rhosyn coch iddynt gan  dylwythen deg o’r chweched dosbarth.  Yn ôl Emma Nicholas o flwyddyn  deuddeg “Roedd ymateb y disgyblion a’r athrawon yn wych.  Braf oedd  gweld yr ysgol yn fôr o goch a phinc  a chymaint o frwdfrydedd wrth ymuno  yn yr holl firi.  Bu’r diwrnod yn llwyddiant mawr.”
Cwrs Pontio:   Fel rhan o gynllun Pontio’r ysgol aeth criw o  ddisgyblion Blwyddyn 6 y dalgylch i Wersyll yr Urdd Llangrannog gydag  athrawon Ysgol Bro Myrddin er mwyn cael cyfle i gymdeithasu a gwneud  ffrindiau newydd yn barod ar gyfer mis Medi.  Mae hwn yn gyfle da bob  blwyddyn i dawelu meddyliau’r disgyblion cyn iddynt adael yr ysgol  gynradd a dechrau ar eu haddysg mewn ysgol newydd.  O dan arweiniad Mr  Wyn Evans treuliasant bedwar diwrnod yn cymdeithasu a mwynhau   llu o  weithgareddau a drefnwyd ar eu cyfer.