Newyddion Ysgol Bro Myrddin


 
Ymweliad Cathryn Ings o’r Journal.
Ar brynhawn Dydd Iau yr 22ain o Hydref croesawyd Mrs Cathryn Ings, prif olygydd y Journal i’r ysgol i gynnal trafodaeth gyda chriw o ddisgyblion blwyddyn 12 sy’n astudio Cymdeithaseg y Wasg a Chyfryngau yn rhan o’i cwrs lefel A.

Bu’n sôn am ei swydd fel prif olygydd a thrafododd brif gyfrifoldebau ei swydd a phwysigrwydd y wasg a’r gymdeithas. Rhoddodd gyflwyniad byr ar sut mae’r wasg yn gweithio. Eglurodd hefyd y camau posibl i’w dilyn i fod yn newyddiadurwr.

Rhoddodd gyfle i’r disgyblion i holi cwestiynau ar ddiwedd y sesiwn a bu’r profiad yn fanteisiol iawn. Diddorol oedd cael clywed am hanes ei gyrfa lwyddiannus a sut y gwnaeth hi gyrraedd i’r brig yn ei swydd i fod yn brif olygydd y Carmarthen Journal. Bu’r drafodaeth yn un ddiddorol a gwerthfawrogwyd y cyfle i gael rhannu profiadau yn fawr. Canmolwyd y disgyblion gan Mrs Ings am eu gwybodaeth, eu deallusrwydd a’u cwestiynau aeddfed.

                                    Adroddiad gan Alys Grace Phillips a Rhian McCulloch.

  Ar y Llethrau!
Bydd criw o ddisgyblion Bro Myrddin yn mentro ar lethrau’r Alban cyn bo hir, sef Steffan Jones 10-1, Jac Evans 10-3, Daniel Butterworth 11-2, Huw Butterworth 7-1, Hanna Evans 9-3, Elen Evans 8-2, Sara Mason 8-3 a Lowri Butterworth 9-3.

Maent wedi bod yn brysur yn codi arian ar gyfer y daith trwy werthu cacennau lliwgar o amgylch yr ysgol!

Byddant yn teithio i Gaeredin ar y 18fed o Dachwedd ac yn dychwelyd ar y 20fed o Dachwedd gyda Mr Hefin Elias yr athro chwaraeon a Mrs Siriol Butterworth. Yn ystod eu hamser byddant yn cystadlu ym mhencampwriaeth sgïo Ysgolion Prydain. Braint bydd cael cynrychioli ysgolion Cymru yno!

Pob lwc iddynt ar y daith a chawn glywed am eu profiadau a llwyddiant gobeithio nes ymlaen.

 
Relate Cymru
Ar ddydd Gwener, Tachwedd y 4ydd pleser oedd cael croesawu y siaradwraig wadd Mrs Claire McMillan i’r ysgol o Relate Cymru. Daeth i gynnal trafodaeth gyda chriw o ddisgyblion blwyddyn 12 sy’n astudio’r Fagloriaeth. Bu’n sôn ei swydd ddiddorol yn gweithio gyda theuluoedd a chyplau. Roedd y sgwrs yn cyd-fynd gydag uned ABCh y cwrs sef ‘Sialensau sydd yn wynebu teuluoedd yn yr unfed ganrif ar hugain.’ Mewn grwpiau cafwyd senarios teuluol go iawn i’w trafod a’i dadansoddi. I gloi'r drafodaeth cafwyd gyfle i holi cwestiynau am yr elusen ar hyn maent yn ei gyflawni. Cafwyd gwybodaeth ddefnyddiol iawn ac agorwyd ein llygaid i sawl achos mae elusen Relate yn ceisio ei ddatrys.

  Beicio Mynydd
Llongyfarchiadau i Mererid Hunt blwyddyn 8 a Nicholas Jones blwyddyn 10 a fu yn cynrychioli Cymru ym Mhencampwriaeth Beicio Mynydd Prydain yn Sheffield nôl ym Mis Medi.

  Canlyniadau Rygbi Dydd Mawrth 18/10/11

Blwyddyn 7 Tîm A

YBM - 22 Dyffryn Aman - 0

Blwyddyn 7 Tîm B
YBM – 25 Dyffryn Aman – 10

Blwyddyn 9

YBM – 34 Dyffryn Aman – 0

Llongyfarchiadau mawr i Fro Myrddin