Huw Collins yn hyrwyddo newid hinsawdd:  Ym mis Medi  2007 lansiwyd cystadleuaeth gan Lywodraeth Cynulliad Cymru i ddarganfod  pedwar o hyrwyddwyr newid yn yr hinsawdd i Gymru.  Byddai’r pedwar  unigolyn yma yn cymryd rhan mewn digwyddiadau ac yn siarad â’r cyfryngau  yn eu hardal am yr hyn y gallwn ni gyd ei wneud i ymdopi â’r newid yn yr  hinsawdd.

Roedd gofyn i’r ymgeiswyr greu adroddiad ar gyfer
papur  newydd neu wefan a fyddai’n annog eu ffrindiau , teulu, ysgol neu  gymuned i ymdrin â’r  newid amgylcheddol hwn. 

               Un disgybl a  ddangosodd ddiddordeb yn syth  ac a greodd argraff ar y beiriniaid oedd  Huw Collins  o Ysgol Bro Myrddin.  Pan ddarllenodd yr erthygl yn y papur  newydd yn hysbysebu’r gystadleuaeth penderfynodd fynd ati ar unwaith i   greu gwefan  a oedd yn sôn am yr holl newidiadau yn yr hinsawdd, gan  gynnig syniadau  sut y mae achub yr amgylchedd.   Roedd dau gant ac un o  ymgeiswyr yn y gystadleuaeth hon a oedd yn agored i bobl ifanc o  unarddeg oed i ddeunaw oed; tipyn o gamp felly i Huw Collins sydd ond yn  ddisgybl ym mlwyddyn 7.  Wedi llwyddo i gyrraedd y pedwerydd ar ddeg  cystadleuydd olaf cafodd gyfweliad yng Ngwesty’r Ddraig yn Abertawe. 

              Bellach mae’r  cyfweliadau a’r paratoadau wedi dod i ben.  Serch hynny mynegodd yn  hollol bendant gyda gwen fawr ar ei wyneb ei fod wedi mwynhau creu’r  wefan ac wedi dysgu llawer wrth fod yn rhan o’r gystadleuaeth heriol  hon.  Mae’n awyddus iawn i barhau â’r gwaith o hyrwyddo newid yn yr  hinsawdd.  Edrychwn ymlaen i weld y wefan arbennig hon cyn hir.   Llongyfarchiadau mawr iddo!

 Sialens y llysoedd:   Bu tipyn o fwrlwm yn neuadd yr ysgol yn ystod wythnos Sialens y  Llysoedd.  Gyda’r Her Hunllefus, y Treial Trafferthus a’r ras geiniogau  ar ddiwedd tymor y Nadolig cafwyd tipyn o  hwyl a chwerthin.  Dyma flas  o’r gweithgareddau;

 

      

  Darllenwch adroddiad Saran Richards, Sara Edwards a  Siwan Jones ar dudalen Cwtsh Myrddin. 
 

Talwrn y Beirdd  Llongyfarchiadau mawr i dîm Talwrn yr ysgol a lwyddodd i gipio’r cwpan  am yr eildro yn olynol yng Nghwrs Cymraeg y chweched dosbarth yng  Nglan-llyn.   Edrychwn ymlaen i weld eu gwaith yn cael ei gyhoeddi yng  nghylchgrawn Barddas yn fuan.  

Cerddorfa Ieuenctid Cymru  Llongyfarchiadau mawr i’r disgyblion canlynol am gael eu dewis yn  aelodau o Gerddorfa Ieuenctid Cymru eleni; Ffion Bevan o flwyddyn 9,  Hawys Freeman o flwyddyn 11, Clare Roberts o flwyddyn 10, Helen Roberts  a Sioned Powell o flwyddyn 13 ac Elin Powell sy’n gyn ddisgybl.  

Côr Ieuenctid Cymru
:   Rhaid llongyfarch Rebecca Davies o flwyddyn 10 am gael ei dewis yn  ddiweddar i fod yn aelod o gôr Ieuenctid Cymru.  

Pencampwriaeth Rhyngwladol Golff Prydain:   Mae adran ieuenctid Clwb Golff Caerfyrddin wedi bod yn llwyddiannus iawn  drwy ennill Pencampwriaeth Timoedd Cymru ac o ganlyniad wedi cael yr  anrhydedd o gynrychioli Cymru yn y bencampwriaeth rhyngwladol a  gynhaliwyd yn La Manga, Sbaen ar ddechrau’r mis.  Braf yw nodi bod  chwech allan o’r saith aelod o’r garfan â chysylltiadau â Bro Myrddin.   Yn cystadlu oedd Gareth Rees ac Aled Griffiths sy’n gyn ddisgyblion,  Gwenallt Jones o flwyddyn 12, Steffan Jenkins a Gareth Thomas o flwyddyn  11 a Steffan Griffiths o flwyddyn 10.

Polo Dwr
:   Ddydd Sadwrn  Rhagfyr 16 bu Rhys Evans a Daniel Jones o flwyddyn 10 yn  ymarfer polo d
ŵr   yn Walsall.  Cawsant eu dewis allan o gant a hanner o fechgyn i fod yng  ngharfan Academy polo dŵr  Prydain.  Dymuniadau gorau iddynt gyda’r ymarferion sydd o’u blaenau.

 “Iiii-Haa!”: Fe fydd Katie  Jones yn ymddangos ar ein sgrinau yn fuan mewn cyfres farchogaeth  ar  S4C o’r enw “Iiii-Haa!”. Edrychwn ymlaen i’w  gweld.