NewyddionYsgol Bro Myrddin
Gwaith Elusennol: Da oedd cael croesawu Lowri Evans a Shelley Humphries, y ddwy yn gyn-ddisgyblion sydd bellach yn astudio Meddygaeth yng Nghaerdydd i gymryd rhan yn y gwasanaeth ar y 5ed o Fawrth. Buont yn sôn am broblemau iechyd yn Kenya ac yn arbennig pa mor fawr yw effaith feirws HIV yno. Mae myfyrwyr y coleg yn gweithio i godi canolfan
dosbarthu bwyd yn Kenya ac ar ddiwedd y gwasanaeth cyflwynwyd siec o £300 iddynt gan brif swyddogion yr ysgol tuag at yr elusen.
Bu rhai o ferched Blwyddyn 8 yn brysur yn codi arian ar gyfer ward yn yr ysbyty lleol yn ddiweddar. Ar ddiwrnod Santes Dwynwen, bu Megan Rees, Ellen Rees, Hannah Stiles, Kate McNeill,Cerys Rees ac Amy Watson yn mynd o wers i wers yn eu gynau nos. Llwyddwyd i godi swm anrhydeddus o £280.00, ac aeth Megan, Ellen a Hannah i Ysbyty Glangwili i gyflwyno siec i staff Ward Steffan.
Cerddor Addawol: Ymddangosodd Catrin Price o Flwyddyn 8 ar y teledu yng nghystadleuaeth Cerddor Ifanc Cymru Cwmni Texaco yr wythnos hon. Bydd rhaid disgwyl am y dyfarniad.
Traws Gwlad: Bu disgyblion iau yr ysgol yn llwyddiannus yng Nghynghrair Traws gwlad Brianne yn ddiweddar.Daeth Ronan Llyr o Flwyddyn 7 a Rhiannon Plant o Flwyddyn 8 yn gyntaf a Ffion Rees o Flwyddyn 9 yn bedwerydd.Daeth Ronan Llŷr yn bedwerydd mewn cystadleuaeth rhwng y siroedd.Dinasyddiaeth: Croesawyd Dr Elin Royles, darlithwraig yn Adran Gwleidyddiaeth Coleg Prifysgol Aberystwyth iannerch y chweched dosbarth ddydd Mercher 7fed o Fawrth. Ei bwriad oedd codi ymwybyddiaeth disgyblion ynglŷnâ phwysigrwydd pleidleisio a’u haddysgu am y modd y dosrennir seddau yn y Cynulliad Cenedlaethol.Eisteddfodau’r Urdd: Os ydych am ddarllen canlyniadau’r ysgol yn eisteddfodau’r Urdd beth neu am ragoro newyddion, ewch ar wefan yr ysgol ar www.bromyrddin.sirgar.sch.uk
Llongyfarchiadau i’r holl ddisgyblion a gystadlodd ar ran yr ysgol yn yr Eisteddfod Gylch. Bydd saith ar hugain o eitemau yn mynd ymlaen i’r Eisteddfod Sir.
Cystadleuaeth 1af Grwp dawnsio disgo Bl 7-9 Grwp Teleri Unawd merched Bl 7-9 Ceirios Davies Bl 9 Unawd chwythbrennau Bl 7-9 Catrin Price 8 -1 Llefaru unigol Bl 7-9 Mared Dafydd 8-1 Unawd llinynnol Bl 7-9 Ffion Bevan 8-1 Dawns disgo unigol Bl 7-9 Sioned Elin Davies 8-1 Grwp llefaru Bl 7-9 Parti Llinos Bl 9 Deuawd Bl 7-9 Heledd Evans a Lowri Howells Bl 9 Ensemble Bl 7-9 Grwp Caffi Cerdd Dawns disgo unigol Bl 10-13 Elin Wyn Williams Bl 11 Alaw werin unigol Bl 7-9 Ceirios Davies Bl 9 Dawns greadigol Bl 7-9 Ysgol Bro Myrddin Unawd allan o sioe gerdd Sion Ifan Bl 13 Unawd llinynnol Bl 10-13 Helen Roberts Bl 12 Llefaru unigol Bl 10-13 Miriam Hopwood Bl 12 Unawd telyn Bl 10-13 Anne Denolm Bl 11 Unawd cerdd dant Bl 7-9 Ceirios Davies Bl 9 Dawns werin Bl 10-13 Parti Angharad Bl 13 Deuawd offerynnol Bl 10-13 Catrin Price + Anne Denolm Deuawd cerdd dant Bl 9 ac iau Siwan Jones + Beca Davies Grwp llefaru Bl 10-13 Ysgol Bro Myrddin Dawns unigol i ferched Bl 9 ac iau Lleucu Walters Bl 8 (Hafodwennog) Ensemble 15-25 oed Grwp Telenet Dawns unigol i fechgyn Bl 9 ac iau Gareth Spiers Bl 8 Alaw werin unigol Bl 10-13 Sion Ifan Bl 13 Dawns werin unigol i ferched 15-25 oed Leisa Fflur Davies Bl 11 Monolog Bl 10-13 Sion Ifan Bl 13