Newyddion Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Myrddin
Llongyfarchiadau i Gethin Lewis a Becca Davies blwyddyn 13eg am gymryd rhan yng nghyngerddiau Côr Cenedlaethol Cymru yn ddiweddar. Perfformiwyd llawer o gerddoriaeth gan gyfansoddwyr enwog megis William Mathias a Mendelssohn i ganmoliaeth mawr gan y gynulleidfa. Cafodd y ddau hefyd y cyfle i berfformio ym Mhroms y BBC gyda’r côr yn Neuadd Frenhinol Albert ar ddiwedd yr haf. Cafwyd canmoliaeth mawr i’r côr gan y gynulleidfa lawn, gyda’r wasg hefyd yn dangos ei bodlonrwydd. Galwyd y perfformiadau gan y Daily Telegraph yn “something magnificent” a “simply thrilling”.
Dydd o weithgareddau'r Chweched ym Mae Morfa.
Ar y 7fed o Fedi 2009, fe wnaeth Blwyddyn 12 Ysgol Bro Myrddin, ymweld â Bae Morfa am y dydd er mwyn i ddisgyblion y flwyddyn fondio gyda’i gilydd er mwyn paratoi am y ddwy flynedd nesaf yng nghwmni ei gilydd. Fe wnaethon nhw fod yn rhan o wahanol fathau o weithgareddau gan gynnwys cwrs rhwystr, gweithgareddau yn y môr, dringo rhaffau a gweithgareddau meddwl mewn tîm. Dechrau da i’r flwyddyn!
Cymdeithas Rieni ac Athrawon
Yn mis Gorffennaf cyflwynodd y gymdeithas rieni ac athrawon siec o £5,000 i gronfa’r ysgol i brynu system sain newydd i’r neuadd. Bydd hyn o fudd mawr i’r ysgol.