Newyddion Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Myrddin
Estyn llaw i’r gymuned: Llongyfarchiadau mawr i Alaw Ifans o flwyddyn 12 am dderbyn Gwobr Goffa Delme Evans gan y Clwb Rotari am ei gwaith gwirfoddol yn y gymuned.
Llwyddiannau ysgubol: Manteisiwn ar y cyfle i longyfarch rhai o ddisgyblion yr ysgol am eu llwyddiannau yn y byd cerddorol. Llongyfarchiadau mawr i Claire Roberts o flwyddyn 10 am ennill y teitl “Cyfansoddwr Ifanc Dyfed” ac i Sion Hupfield am ennill categori B y gystadleuaeth. Bu Nia Bevan hefyd yn llwyddiannus yn ddiweddar wrth dderbyn Gwobr Goffa Terry Jones am ei chyfraniad gwbl ddiffwdan i weithgareddau cerddorol y sir.
Gwyddbwyll: Ar Ddydd Llun 30 Mawrth 2009 cynhaliwyd gêmau cynghrair y clwb gwyddbwyll yn erbyn Ysgol Esgob Vaughan, Abertawe. Yn cynrychioli’r ysgol oedd Rhys Nugent, Samuel Davies, Joshua Hancock a Dafydd Roberts ac yn wir cawsom wledd o gêmau gan y pedwar. Gwrthwynebwyr cryf oedd yn erbyn y pedwar gan fod Ysgol Esgob Vaughan yn adnabyddus am ei chwaraewyr profiadol a thalentog. Serch hynny roedd y bechgyn yn fwy na pharod i ymateb i’r her, a chawsom fuddugoliaeth gynnar gan Dafydd Roberts o flwyddyn saith yn erbyn Tîm B Ysgol Esgob Vaughan, ei bwynt cyntaf ar ran yr ysgol. Carlamodd Joshua Hancock i fuddugoliaeth hefyd yn ei gêm hynod o gyffrous ac wedi tri chwarter awr o frwydro enillodd Rhys Nugent gêm gyfartal yn erbyn capten Tîm B Esgob Vaughan, yn ogystal â chipio’r gêm i Fro Myrddin. Roedd ail gêm y noson yn galetach i’r tîm er bod y bechgyn oll wedi profi eu doniau disglair. Er mai colli oedd tynged tri ieuengaf y tîm profodd Rhys Nugent ei fod yn gystadleuwr pen ei gamp trwy ennill gêm gyfartal unwaith yn rhagor yn erbyn capten y tîm cyntaf y tro hwn.