Addysg Grefyddol: Bu disgyblion yn brysur yn ddiweddar yn trafod gwaith yr Eglwys ynghyd ag addoliad yn y Synagog. Bu’r Parchedigion Illtud Protheroe, Beti Wyn James a Desmond Davies yn y dosbarthiadau yn sôn am eu gwaith ac yn ateb llu o gwestiynau’r disgyblion fel: “A oes bywyd ar ôl marwolaeth”; “Pam y dewisoch fod yn offeiriad”; “Ydych chi erioed wedi colli’ch ffydd?”. Er mwyn atgyfnerthu’r dysgu aethpwyd ar daith i’r Synagog yn Abertawe lle y gwnaeth Mrs Norma Glass, yn ei ffordd fywiog arferol ddod â rhai o straeon y Torah yn fyw gyda chymorth parod y disgyblion. Yna yn y prynhawn cafwyd gweithgareddau yn Eglwys Abergwili i garfan o ddisgyblion tra cafodd eraill ymweld â Thabernacl Caerfyrddin er mwyn clywed am ddull y Bedyddwyr o addoli dan arweiniad y Parch Desmond Davies. Diwrnod llawn, diddorol a’r disgyblion unwaith eto yn elwa o brofiadau gwaith maes.
Ffair Nadolig: Roedd Neuadd yr Ysgol dan ei sang ar gyfer y Ffair Nadolig a agorwyd gan Ray Gravelle. Gwnaed elw o £3, 186 o bunnoedd. Diolch i bawb am eu cefnogaeth.
Parti Popty: Cafodd aelodau’r côr iau fynd i barti yn y Gyfnewidfa Lo ym Mae Caerdydd yr wythnos hon. Bydd rhaglen am yr achlysur yn ymddangos ar S4C Nos Galan.
Taith America: Dros wyliau’r Hanner Tymor, aeth 90 o ddisgyblion ynghyd â 12 athro ar daith i Efrog Newydd a Washington. Trefnwyd y daith gan Mr Euryn Madoc- Jones, pennaeth yr Adran Hanes. Gogwydd hanesyddol oedd i’r ymweliadau felly. Dyma oedd gan Twm Ifan i’w ddweud am y daith:
Roedd trip America 2006 yn brofiad gwefreiddiol tu hwnt! Cawsom gyfle i weld a phrofi
diwylliant go wahanol i’r hyn yr ydym wedi arfer ag e. Roedd y daith yn llawn gweithgareddau cyffrous a phob awr o bob dydd yn brofiad gwerthfawr. Yn Efrog Newydd cawsom brofi awyrgylch y ddinas fawr sydd byth yn cysgu. Yn wir, doedd neb wedi disgwyl i’r adeiladau fod mor anhygoel o uchel! Roedd siopau diri yn nefoedd i ferched y grŵp! Profiad o fargeinio gyda’r gwerthwyr lawr yn “China Town” oedd yr uchafbwynt siopa i fi. Ddylai neb ymweld â’r ddinas hon heb fynd i weld sioe yn Broadway a cherdded o gwmpas ‘Times Square’ yn y nos.
Yn Washington mi gawsom gyfle i weld mannau hanesyddol e.e. Cofadail Lincoln, Mynwent Arlington lle cafodd JFK a’i deulu eu claddu, Y Tŷ Gwyn ac amryw o amgueddfeydd. Roedd awyrgylch mwy hamddenol yn perthyn i’r ddinas hon.
Un foment fydd yn aros yn fy nghof am byth o’r trip yma fydd y profiad o sefyll ar ben Adeilad yr Empire State. Ni allaf fynegi mewn geiriau y teimlad arbennig a gefais yn gwneud hyn.
Roedd yn amlwg fod trefnu trip o’r math yn waith caled ac mae’r diolch i aelodau’r staff am eu gwaith. Ond fel ma nhw’n gweud, “What goes on tour, stays on tour!”
Ar waetha’r tywydd garw bu nifer o dimau ac unigolion yn brysur ar y maes chwarae. Dyma rai o’r canlyniadau:
Rygbi: Mewn gêm yn erbyn ysgol Castell Newydd Emlyn, enillodd tîm Blwyddyn 7 o 32 i 0. Bu timau Blynyddoedd 8 a 9 yn chwarae yn erbyn Ysgol Gyfun y Gwendraeth gyda thîm blwyddyn 8 yn ennill o 42 i 5 a thîm Blwyddyn 9 yn ennill o 45 i 14.
Pêl-droed: Bu tîm Blwyddyn 11 yn chwarae yn erbyn Ysgol y Strade. Ar ddiwedd y gêm roedd y sgôr yn gyfartal gyda dwy gôl yr un ond llwyddwyd i ennill o 3- 2 gyda chiciau cosb.
Gymnasteg: Llongyfarchiadau i’r canlynol o Flwyddyn 7 ar ennill yn eu hadrannau yng nghystadleuaeth gymnasteg yr Urdd: bechgyn unigol dan 14 – Euros Thomas, merched unigol dan 14 – Alys Grace Phillips a’r parau dan 14 - Megan Locker a Hannah Mair.
Pel-rwyd: Daeth y tîm dan 16 yn drydydd yn Nhwrnamaint Ann Smart a’r tîm dan 18 yn ail yn Nhwrnamaint Cwpan y Llywydd. Llongyfarchiadau iddynt ac i Lowri Howells a Rebecca Thomas o Flwyddyn 9 gafodd eu dewis i gynrychioli Pêl-rwyd Gorllewin Cymru dan 14.
Plant am Blant: Yn gynt yn y tymor trefnwyd taith gerdded Plant am Blant ar dir yr ysgol gan yr Adran Chwaraeon gyda chymorth disgyblion y chweched dosbarth. Pwrpas y daith oedd codi arian ac ymwybyddiaeth y disgyblion tuag at blant difreintiedig y trydydd byd. Llwyddwyd i godi swm anrhydeddus a chroesawyd Iestyn Thomas, sylfaenydd y cynllun, i annerch yn y gwasanaeth boreol ac i dderbyn siec gwerth mil naw cant o bunnoedd.
Gwasanaeth: Bu’r disgyblion yn cymryd rhan flaenllaw yng Ngwasanaeth yr Urdd nos Sul. Cofiwch am ein Gwasanaeth Nadolig yn Eglwys San Pedr nos Fawrth y 19eg o Ragfyr am 7.00pm.