Newyddion Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Myrddin

 


 

Llwyddiannau Cerddorol: Yn dilyn cyfres o wrandawiadau ar gyfer amrywiol Ensemblau Cenedlaethol Cymru, llongyfarchiadau i’r canlynol ar eu llwyddiant.  Mae hyn yn destun balchder mawr i’r ysgol.  Cafodd Rebecca Davies, Gethin Lewis a Catrin Phillips eu dewis  yn aelodau o Gôr Ieuenctid Cymru gyda Daniel Owen yn eilydd.  Dewiswyd Tom Scaife yn aelod o Fand Pres Ieuenctid Cymru a Catrin Price yn aelod o Fand Chwyth Ieuenctid Cenedlaethol Cymru a Cherddorfa Siambr Prydain gyda Sion Hupfield yn eilydd.  Cafodd Ffion Bevan, Catrin Price, Hawys Freeman, Claire Roberts a Steffan Rizzi eu dewis yn aelodau o Gerddorfa Ieuenctid Cymru gyda Nia Bevan yn eilydd.  Llongyfarchiadau mawr i chi gyd.

 

Cynhadledd Ieuenctid Y Cyngor Sir: 
Adroddiad Emma Nicholas Bl 13

Yn ystod tymor y Nadolig cafodd pedwar aelod o gyngor yr ysgol y cyfle i fynychu cynhadledd flynyddol y Cyngor Sir i ieuenctid y sir yng Ngholeg Y Drindod.  Teitl y gynhadledd eleni oedd “Siarad Lan”.  Yn ystod y dydd cawsom gyfle i leisio ein barn ar nifer o agweddau yn y sir gan gynnwys Byw yn iach, Diogelwch, Yr Amgylchedd a llawer mwy.  Treuliwyd y bore mewn amrywiaeth o sesiynau a thrafodaethau i’n hannog i fynegi ein barn yn glir ac mewn ffyrdd diddorol iawn.  Chwaraewyd nifer o gemau yn ogystal â chael trafodaethau o fewn grwpiau yng nghwmni aelodau o’r cyngor ac aelodau blaenllaw eraill.  Cafwyd amrywiaeth o gwestiynau  ynglŷn â gwasanaethau addysg y sir, gwasanaethau cyhoeddus ac hamdden , trafnidiaeth a’r amgylchedd.  Dangosodd y gynhadledd yn amlwg bod Cyngor Sir Caerfyrddin yma i ni’r bobl ifainc a'u bod nhw’n  awyddus i ni leisio ein barn er mwyn i ni fedru gwella ein sir.