Noson i godi
ymwybyddiaeth o beryglon
y Rhyngrwyd
Ar
nos Fawrth, Hydref 4ydd daeth criw o rieni ynghyd i neuadd yr ysgol i
wrando ar swyddog cyswllt ysgolion Heddlu Dyfed Powys PC Beverley
Anderson. Noson oedd hon i godi ymwybyddiaeth rhieni’r ysgol o
beryglon y Rhyngrwyd. Cafwyd llawer o negeseuon pwysig iawn a
chyflwynwyd llawer o wybodaeth am bynciau megis bwlio syber a’r
defnydd o Facebook a gwefannau cymdeithasol. Cafwyd cyfle i wylio
clipiau diddorol o wefan CEOP, sef y wefan ar gyfer diogelu plant ar y
Rhyngrwyd a chyfle i ofyn cwestiynau a rhannu profiadau. Noson
werthfawr iawn.
Ymweliad Only Men
Aloud
Ar Ddydd Llun y 3ydd o Hydref cafodd
bechgyn hŷn yr ysgol ymweliad gan aelodau o'r côr meibion enwog Only
Men Aloud. Bwriad yr ymweliad oedd egluro yr hyn y mae Only
Men Aloud wedi ei gyflawni ers sefydlu'r côr ychydig flynyddoedd yn
ôl. Cafwyd cyflwyniad o rai o ganeuon y côr bechgyn gan bump o'r
hyfforddwyr, sydd yn aelodau o Only Men Aloud. Roeddem ni'r
bechgyn a fynychodd y gweithdy wrth ein bodd yn gwrando ar y caneuon
modern yn cael eu canu gan aelodau o un o gorau meibion mwyaf adnabyddus
Prydain.
Ar ddiwedd cafodd y bechgyn y profiad o fod yn aelod o'r côr Only
Boys Aloud. Cafwyd sesiwn cynhesu, cyn mynd ati i
ymarfer un o ganeuon poblogaidd y côr. Roedd yn brofiad hwylus a
gwerthfawr wrth dderbyn hyfforddiant gan y cantorion proffesiynol yma.
Erbyn diwedd y sesiwn roeddem yn canu'r gân ‘Don't Stop Believing’
mewn harmoni tri llais. Yn sicr, gallwn ddweud y bydd nifer o aelodau
adran Cefneithin o Only Boys Aloud yn cynyddu ac yn chwyddo
yn ystod yr wythnosau nesaf o ganlyniad i'r gweithdy hwn.
Adroddiad
gan Steffan Cennydd 11-1
Wythnos
Gristnogol
Cynhaliwyd
wythnos Gristnogol yn Ysgol Bro Myrddin o’r chweched ar hugain o Fedi
hyd at y degfed ar hugain. Bwriad yr wythnos a gafodd ei threfnu gan
Megan Morgans a Gwenllian o’r chweched dosbarth oedd i geisio dangos i
ddisgyblion yr ysgol delwedd gyfoes o Gristnogaeth, ac ennyn eu
diddordeb o’r ffydd.
Trefnwyd
nifer o weithgareddau cyffrous yn ystod yr wythnos gan gynnwys siaradwyr
gwadd yn y gwasanaethau boreuol a gemau amywiol a thrafodaethau am
Gristnogaeth yn ystod yr awr ginio. Dydd Llun cafwyd gemau a danteithion
gyda Gwenno Teifi, Pnawn Dydd Mawrth, Mercher a dydd Iau cafwyd
sgwrs a thrafodaeth gyda Aaron Treharne, Derek Rees a’r Parchedig Mrs
Beti Wyn James. Un o uchafbwyntiau’r wythnos oedd gweithgaredd rapio
gyda Aaron Treharne a’r rapiwr Olwafemi Ashiru! - mwynhaodd pawb
hyn yn fawr.
Codwyd
dros £1,000 yn ystod yr wythnos tuag at elusennau amrywiol, trwy
werthu siocled masnach deg a chynnal diwrnod dillad ein hunain. Roedd yr
wythnos yn un fendithiol a llwyddiannus iawn, ac yn sicr fe wnaethom
gyrraedd ein nod.
Diolch
yn fawr iawn i’n gwestai am roi o’u hamser a’n hysbrydoli i feddwl
am ein Cristnogaeth.
Adroddiad
gan Megan Morgans Bl13eg
Darlledu
ar radio Glangwili
Cafodd
criw o ddisgyblion blwyddyn 12eg gyfle arbennig i dreulio oriau yn
gwneud gwaith gwirfoddol i Radio Glangwili. Cawsant y fraint o ddarlledu
ar y radio yn fyw i gleifion yn yr ysbyty a thref Caerfyrddin. Hefyd
cawsant y cyfle i fynd o gwmpas y wardiau i gasglu ceisiadau a sgwrsio
gyda’r cleifion a’r gweithwyr. Bu cyfle hefyd i chwarae eu hoff
ganeuon. Roedd yr holl brofiad yn un gwych! Diolch i Mrs Lowri Davies,
Pennaeth Astudiaethau’r Chweched dosbarth am ei drefnu.
Beicwyr
o fri!
Llongyfarchiadau
mawr i Scott Davies am ennill cystadleuaeth Beicio 10milltir Iau Cymru
ar y 27ain o Awst. Hefyd llongyfarchiadau i Ronan Llŷr o flwyddyn 12 a
gynrychiolodd Cymru yn y gemau Celtaidd dan 17 yn y 2000m ras ffos a
pherth ar y 13eg o Awst. Gorffennodd yn 4ydd. Da iawn bois.
Canlyniadau
rygbi Nos Fawrth 3ydd o Hydref
Llongyfarchiadau
i fechgyn blwyddyn 7 a 9 ar ei buddugoliaeth rygbi .
Blwyddyn
7: Bro Myrddin: 58 QEH: 5
Blwyddyn
9: Bro Myrddin: 44 QEH: 7
AELODAU
CYNGOR YSGOL 2011-2012
BLWYDDYN
7