Newyddion Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Myrddin
Dathlu Gŵyl Ddewi: Ddydd Iau a Dydd Gwener diwethaf aethom ati fel ysgol gyfan i ddathlu Dydd Gŵyl Dewi drwy gynnal eisteddfod. Cawsom ddau ddiwrnod hynod hwylus a braf oedd gweld yr
holl frwdfrydedd ar y llwyfan wrth gystadlu yn ogystal â chlywed llond neuadd o gefnogwyr yn cymeradwyo ac yn dathlu. Llys Hengwrt a gipiodd darian y siarad cyhoeddus , cyflwynwyd tarian y dawnsio gwerin a’r côr i lys Peniarth ac enillodd Hergest y tlws ar gyfer yr eitem lefaru orau.
Felly llys Peniarth ddaeth i’r brig eleni, Hergest yn ail, yna Llwydiarth a Hengwrt. Uchafbwynt yr eisteddfod oedd seremoni’r Goron a’r Gadair. Rhaid llongyfarch Llew Hopwood o flwyddyn 7 am ennill y Goron a Mair Harries o flwyddyn 11 am ddod yn fuddugol yng nghystadleuaeth y Gadair. Saran Richards o flwyddyn 9 a enillodd Goron yr Adran Saesneg a Claire Roberts o flwyddyn 10 a ddaeth i’r brig yng nghystadleuaeth y Gadair. Cawsant ganmoliaeth uchel gan y beirniaid am gyflwyno gwaith aeddfed, o safon uchel iawn. Llongyfarchiadau mawr iddynt! Diolchwn yn arbennig i Mr Gareth Evans, Mrs Yvonne Francis a Mr Berwyn Jenkins am eu gwaith wrth feirniadu’r holl gystadlaethau.
Pencampwriaeth Gymnasteg Brianne: Bu cystadlu brwd yng nghystadleuaeth gymnasteg Brianne yn ddiweddar. Yng nghystadleuaeth y bechgyn enillodd Jac Davies o flwyddyn 7 y wobr gyntaf a daeth Euros Thomas o flwyddyn 8 yn drydydd. Alyssa Jones o flwyddyn 7 a ddaeth yn fuddugol yng nghystadleuaeth y merched gydag Alys Williams yn ail, Megan Locker yn bumed a Nerys Evans yn chweched. Llongyfarchiadau mawr! Daliwch ati!