Y Fenter Newydd:   Yn ddiweddar lansiwyd cynllun busnes newydd  o’r enw “5  o’ni”gan griw o ddisgyblion Astudiaethau Busnes Blwyddyn 10.  Fel rhan o  gystadleuaeth Mentrau Celtaidd Gyrfa Cymru,  mae Nerys Thomas, Huw Jones, Curon Howells, Tomos Van Prat ac Emyr  Morris wedi bod wrthi’n brysur yn cynllunio, creu a gwerthu crysau t  Cymraeg. Maent yn awyddus iawn i werthu gymaint o grysau ag sy’n bosibl  gan fod yr elw yn mynd tuag at Ymchwil Cancr. Pob lwc gyda’r fenter  newydd! 

Ymweld  â’r addoldai
: Trefnwyd ymweliad gan yr Adran Addysg Grefyddol i’r addoldai lleol yng Nghaerfyrddin.  Cafodd  disgyblion o flwyddyn saith y cyfle i ymweld  ag Eglwys Crist a  Pheniel,  Eglwys Llangynnwr a Phriordy, ac Eglwys San Pedr a Thabernacl.  

Hacio:   Cafodd Leisa Davies ac Annwen Davies o’r chweched y  cyfle  i ffilmio gyda chriw’r rhaglen deledu “Hacio” yn ddiweddar.  Eu tasg  oedd cerdded o gwmpas siopau amrywiol yn nhref Llanelli, i geisio prynu  sigarennau.  Bwriad hyn oedd i weld faint o’r siopwyr fyddai’n eu holi  am gerdyn adnabod er mwyn gwirio eu hoedran, gan fod oed gwerthu  sigarennau wedi newid i 18 oed ym mis Hydref.  Heb os, cawsant agoriad  llygaid. Dymuna’r ddwy ddiolch i griw ffilmio “Hacio” ac i Mr Wyn James   o’r Adran Safonau Masnach , am y cyfle a’r profiad. 
  

Llenwi’r blychau  Bu’r ysgol gyfan yn brysur yn llenwi blychau esgidiau gydag anrhegion  fel rhan o gynllun Operation Christmas Child.  Dyma elusen sy’n denu ein  sylw yn flynyddol a gwelwyd ymateb cadarnhaol eleni eto.    

Gwasanaeth Carolau’r ysgol:   Cynhelir Gwasanaeth Carolau yr ysgol ar Nos Fercher 19eg o Ragfyr yn  Eglwys San Pedr am 7 yh.  Ymunwch gyda ni i ddathlu gwir ystyr y  Nadolig.