Newyddion Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Myrddin

 

 

Bwrsariaeth Cyfrwng Cymraeg

 

Llongyfarchiadau i Gwennan Mair Jones a Rebeca Thomas ar dderbyn Bwrsariaeth cyfrwng Cymraeg Mathemateg a Ffiseg i Brifysgol Cymru Aberystwyth.  Pob lwc i'r ddwy. 

 

Cystadleuaeth 7 bob ochr Parc Rosslyn, Llundain

 

Ar ddydd Iau'r 31ain o Fawrth aeth criw awyddus iawn o fechgyn a merched ar daith i Lundain i chwarae Rygbi twrnamaint 7 bob ochr. Yn nhîm y bechgyn o flwyddyn 11 roedd Ryan Elias, Aled Jones a Steffan Phillips, o flwyddyn 12, Owain Evans, Matthew Evans, Daniel Howells, Steffan Richards, Gareth Spiers ac Owain Thomas, ac o flwyddyn 13eg Simon O’Leary a Rhys Schiavone.

 

Dyma ganlyniadau’r gemau:

 

Bro Myrddin    7     Coleg Nottinham 5

Bro Myrddin    19    Coleg Maidstone   19

Bro Myrddin    36    Coleg St. Mary’s   5

Bro Myrddin    17    Coleg Richmond   14

 

Felly enillwyr grŵp B oedd Ysgol Bro Myrddin!

 

Gêm yn erbyn enillwyr grŵp A cyn y rowndiau terfynol:

 

Bro Myrddin    5    Coleg Filton   42

 

Braf nodi, er bod Bro Myrddin wedi colli yn erbyn Coleg Filton, mae’r tim hynny a enillodd y gystadleuaeth ac, felly, da iawn bois Bro Myrddin.

 

Yn nhîm y merched roedd Carys Davies o flwyddyn 10, Rhian Mculloch, Bethan Phillips, Kirsty Mason a Manon Gravel o flwyddyn 11, Catrin Rees, Cerys Rees, Hannah Stiles, Aimee Fearn o flwyddyn 12 a Ffion Jones a Naomi Eleias o flwyddyn 13eg.

 

Dyma ganlyniadau’r gemau:

 

Bro Myrddin    5   Coleg Judd     17

Bro Myrddin     30 Davenant Foundation 0

Bro Myrddin     0 Coleg Moulton   33

 

Da iawn i Catrin Rees, Rhian Mculloch a Ffion Jones am sgorio ceisiau.

 


Gwobr Goffa Terry Jones

 

Ar nos Lun, 4ydd o Ebrill 2011, ar lwyfan Y Lyric, cyflwynwyd Gwobr Goffa Terry Jones gan Mr Emyr Wynne Jones i Hannah Mc Carthy, disgybl blwyddyn 13 ym Mro Myrddin. Yn aelod o gerddorfa hŷn y Sir, barnwyd ei bod yn amlygu’r priodoleddau canmoliaethus canlynol: gweithwraig ddiflino y gellid ymddiried ynddi’n llwyr; unigolyn gofalgar sy’n ddireidus ei ffordd; person sy’n gyson ymdrechu’n llwyr i gyrraedd nodau anodd ac sy’n gweithio’n anhunanol er lles pawb ac nid er clod personol. Braf oedd cydnabod ei dylanwad ar eraill ar ddechrau noson gerddorol o safon. Llongyfarchiadau i Hannah.


Steddfod ddwl 2011

Ar y 10fed o Fawrth 2011 trefnodd disgyblion blwyddyn deuddeg sy’n rhan o Glwb Hybu Cymreictod yr ysgol daith i ddigyblion blwyddyn saith i’r Eisteddfod ddwl a gynhaliwyd ym Mhontyberem. Cynhelir yr eisteddfod yn flynyddol a cheir cystadlu brwd rhwng Ysgol Bro Myrddin, Ysgol y Strade ac Ysgol Maes yr Yrfa. Dyma gyfle i ddisgyblion blwyddyn saith a rhai o flwyddyn deuddeg hefyd i ddatblygu eu sgiliau yn yr iaith Gymraeg a chreu perthynas newydd rhwng y disgyblion! Cynhaliwyd sawl math gwahanol o gystadlaethau yn yr eisteddfod megis y ‘cyflyma’ i fwyta pum cracer plaen’, sgetsh ddoniol, côr garglo a ‘chatwalk.’ Felly, cafwyd rhywbeth at ddant pawb! Mwynhaodd pawb, ond yn anffodus eleni, ar ddiwedd y cystadlu ail oedd Ysgol Gyfun Bro Myrddin. Nid yr ennill oedd yn bwysig, fodd bynnag, ond y cystadlu brwdfrydig a’r cymdeithasu. Blwyddyn nesa amdani bois!

 

Ysgoloriaethau mynediad i Fro Myrddin

Daeth llwyddiant arbennig i nifer o ddisgyblion blwyddyn 13 yr ysgol yn ddiweddar. Llwyddodd pump o ferched bl 13 i ennill ysgoloriaethau mynediad i Goleg Prifysgol Cymru, Aberystwyth. Derbyniodd Fflur Rhys ddwy ysgoloriaeth sef Ysgoloriaeth Alfred Jones ac Ysgoloriaeth y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, derbyniodd Llinos Davies hefyd ddwy ysgoloriaeth sef gwobr teilyngdod y brifysgol ac Ysgoloriaeth y Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Daeth llwyddiant hefyd i Lleucu Edwards, hithau hefyd yn derbyn Ysgoloriaeth y Coleg Cymraeg Cenedlaethol a Lowri Howells a Nia Haf Jones yn derbyn gwobr teilyngdod y brifysgol. Derbyniwyd Ysgoloriaeth deilyngdod Prifysgol Cymru Bangor gan Rebecca Davies hefyd. Llongyfarchiadau gwresog a phob lwc iddynt i gyd.

 

Arad Goch yn ymweld

Ar ddydd Gwener, y 1af o Ebrill daeth prosiect newydd 'SXTO' . Prosiect tair mlynedd ar y cyd gyda Chyngor Sir Gaerfyrddin oedd y prosiect yma a bwriad y prosiect oedd hyrwyddo'r problemau sy'n codi o ganlyniad i 'SXTO', neu 'Sexting' mewn Ysgolion. Aethpwyd ati i greu’r sioe oherwydd bod 'SXTO', sef anfon llun rhywiol ei naws ar ffurf neges destun yn broblem gynyddol ymhlith pobl ifanc, yn arbennig o fewn Ysgolion Uwchradd. Diwedd taith o amgylch Ysgolion Uwchradd Cymru oedd yr ymweliad ar ddydd Gwener a braf oedd cael y cyfle i weld dechrau sgript gan yr awdur a’r gyflwynwraig Bethan Gwanas. Perfformiwyd cyfres o olygfeydd a oedd yn cyflwyno’r math o broblemau a allai godi o ganlyniad i ‘SXTO.’ Yn dilyn y perfformiad cynhaliwyd trafodaeth gyda’r disgyblion er mwyn rhannu syniadau am sut ddylai'r cymeriadau ymateb i'r sefyllfaoedd a sut y gellid newid neu addasu'r sefyllfaoedd hynny. Bwriad y drafodaeth oedd casglu syniadau a barn y bobl ifanc am sut i ddatblygu'r sgript. Yn ogystal a chasglu barn y disgyblion ar y diwrnod, roedd cwmni Arad Goch hefyd yn awyddus i gasglu barn pellach am sut i ddatblygu'r sgript a'r cymeriadau dros y flwyddyn nesaf drwy ei blog rhyngweithiol newydd sbon! Yn ystod y flwyddyn nesaf bydd yr holl syniadau yn cael eu cyflwyno i Bethan Gwanas er mwyn creu sgript lwyfan newydd sbon a fydd yn cael ei chynhyrchu a'i pherfformio yn ystod blwyddyn olaf y prosiect.

Cafodd pob un o ddisgyblion blwyddyn 10 a rhai o ddisgyblion blwyddyn 12 y cyfle i weld a rhannu yn y perfformiad a chafodd llawer ohonynt eu hysgwyd gan y golygfeydd. Cyfle da oedd hwn i ddysgu am y problemau ac i godi ymwybyddiaeth o’r digwyddiadau.